Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYLLID
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
Cofnodion:
Yn absenoldeb y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r
sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth
gyllidol y cytunwyd arni. Darparwyd
crynodeb o elfennau’r adroddiad -
·
cyllideb
refeniw’r Cyngor ar gyfer 2016/17 heb unrhyw amrywiant i adrodd amdano ar y
pwynt hwn yn y flwyddyn ariannol – roedd effaith safle diwedd blwyddyn 2015/16
yn cael ei orffen ar gyfer ei gynnwys yn yr adroddiad Alldro Terfynol i’r
Cabinet ym mis Mehefin
·
roedd
91% o arbedion wedi eu cyrraedd yn llawn yn 2015.16 gyda’r 9% oedd yn weddill
i’w cyflawni yn 2016/17 – byddai asesiad cychwynnol o arbedion 2016/17 yn cael
ei ddarparu yn adroddiad Cyllid rheolaidd y Cabinet fis nesaf.
·
cefndir
ar safle ariannu grant refeniw Llywodraeth Cymru a diweddariad ar grantiau
refeniw y disgwylir eu derbyn yn 2016/17
·
amlinellwyd
nifer o bwysau o fewn y gyllideb gyffredinol y mae angen i wasanaethau penodol
weithredu arnynt
·
bydd
manylion am y gwasanaethau a ganiateir i gario tanwariant sylweddol ymlaen i
ariannu prosiectau penodol yn y flwyddyn ariannol nesaf yn adroddiad Alldro
Terfynol y mis nesaf, a
·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).
Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
drafodaeth -
·
roedd
y setliad llywodraeth leol wedi golygu toriad o 1.3% yn y Grant Cynnal Refeniw
ond mynegwyd pryderon, bod y setliad 'gwirioneddol’, o ystyried toriadau i
grantiau uniongyrchol, yn agosach at 1.8%.
·
Nododd y Cabinet waith
swyddogion cyllid llywodraeth leol a’r CLlLC wrth adolygu. Cynghorodd y Prif
Weithredwr bod yr Arweinydd wedi gofyn am gyfarfod cynnar gyda’r Ysgrifennydd
newydd dros Gyllid a Llywodraeth Lleol a byddai’n cynnwys y mater hwn i’w
drafod fel mater o bryder
·
mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Meirick Davies, eglurodd y Prif Swyddog
Cyllid bod cario tanwariant gwasanaethau trosodd wedi ei gymeradwyo mewn
egwyddor yn y Cabinet - o safbwynt
gwaith gwella yn Wigfair, Cefn Meiriadog roedd y cynllun hwn wedi ei gymeradwyo
a chytunwyd y byddai’r Prif Swyddog Cyllid yn darparu ymateb ysgrifenedig i’r
Cynghorydd Davies yn hynny o beth
·
Adroddodd
y Cynghorydd Huw Jones ar newidiadau arfaethedig i weinyddiaeth cyllido mentrau
hamdden fel chwaraeon y ddraig gan nodi ei fod o’r farn y byddai awdurdodau
lleol o dan anfantais o ganlyniad
·
mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Eryl Williams o safbwynt cymryd rhan o’r
Grant Cynnal Refeniw a’i benodi i gyllideb gwasanaeth arall (‘topslicing'), nododd y Prif Swyddog
Cyllid na ellid darparu manylion ar y grantiau penodol yr effeithiwyd arnynt
gan nad oedd trywydd tystiolaeth
·
amlygwyd
nifer o bwysau penodol o safbwynt Cludiant i'r Ysgol; Contract Asiantaeth
Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru; pwysau chwyddiannol Gwasanaethau
Cymunedol a nifer cynyddol o ysgolion yn symud i falansau diffygiol. O safbwynt Cludiant i’r Ysgol rhoddodd
swyddogion ddiweddariad ar yr angen i adolygu’r polisi yn dilyn cyfres o heriau
ac y dylai gael ei ariannu yn briodol.
Nodwyd y diffyg mewn gofal nyrsio hefyd fel her a phwysau sylweddol yr
oedd angen mynd i’r afael ag ef.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2016/17 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.
Dogfennau ategol:
- FINANCE REPORT 240516, Eitem 6. PDF 173 KB
- FINANCE REPORT - APP 1, Eitem 6. PDF 24 KB
- FINANCE REPORT - APP 2, Eitem 6. PDF 23 KB
- FINANCE REPORT - APP 3, Eitem 6. PDF 19 KB
- FINANCE REPORT - APP 4, Eitem 6. PDF 240 KB