Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU

Derbyn dadansoddiad o Adroddiad Arolygon diweddar gan Estyn.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Ymgynghorydd Her GwE (CA) adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi dadansoddiad o Adroddiadau Arolygon Estyn a gyhoeddwyd yn nhymor yr hydref, mewn perthynas â'r ddarpariaeth ac addoli ar y cyd, mewn tair ysgol rhwng mis Tachwedd, 2014, a mis Ionawr, 2015.  

 

Cynhaliwyd arolygon yn Ysgol Gynradd Bro Elwern, Gwyddelwern ger Corwen; Ysgol Bryn Collen, Llangollen; Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn; Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd; Ysgol Gynradd Gatholig Mair, y Rhyl, ac mae manylion yn ymwneud â phob un o'r priod ysgolion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac wedi eu crynhoi gan y CA.

 

Rhoddodd y CA grynodeb i’r Aelodau am y canfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol a chafodd y sylwadau a chanlyniadau cadarnhaol eu nodi gan yr Aelodau.  Eglurodd y CA fod y sylwadau a gafwyd wedi bod yn gryno a chyfeiriodd yn benodol at y canlynol: -

 

Sylwadau cadarnhaol - Perfformiad Cyfredol: -

 

Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw deilliannau?

 

Safonau

 

  • Defnyddiodd disgyblion Blwyddyn 6, er enghraifft, eu sgiliau yn effeithiol mewn ymchwiliad gwyddonol i gofnodi eu rhagfynegiadau a'u canfyddiadau.  Yn y wers, gwnaethant ddefnyddio arddull dyddiadur i drafod camau a gymerwyd gan y swffragetiaid ac yn y wers addysg grefyddol cofnodwyd agweddau ar y Pentecost. (Bryn Collen).  Dywedodd y CA ei bod wedi bod yn amser hir ers y cyfeiriwyd at addysg grefyddol mewn Adroddiad Estyn.

 

Lles:-

 

  • Mae llawer o ddisgyblion wedi cyfrannu yn briodol i'r gymuned leol drwy gymryd rhan mewn gwasanaethau, cyngherddau a gweithgareddau i ddathlu hanes cyn Dywysog Cymru, Owain Glyndŵr. Mae hyn wedi codi ymwybyddiaeth o'u cyfrifoldebau cymunedol. (Bro Elwern)

 

Cwestiwn Allweddol 2:       Pa mor dda yw'r ddarpariaeth?     

 

Profiadau dysgu:-

 

·         Darparodd yr ysgol ystod eang o brofiadau dysgu diddorol sy'n ennyn diddordeb y disgyblion yn dda.  Mae'n diwallu gofynion y Cyfnod Sylfaen, y Cwricwlwm Cenedlaethol a'r maes llafur cytunedig ar gyfer addysg grefyddol. (Bro Elwern)

·         Darparodd y cwricwlwm gyfleoedd addas i ddisgyblion ddysgu am ddinasyddiaeth fyd-eang, ac roedd cysylltiadau da gydag ysgolion yn Lesotho a Nepal, a oedd yn codi ymwybyddiaeth o fywyd plant mewn ardaloedd a oedd yn wahanol iawn i Gymru. (Bro Elwern)

·         Datblygodd y staff ymwybyddiaeth y disgyblion o ddinasyddiaeth fyd-eang yn llwyddiannus trwy waith ar fasnach deg, cysylltiadau ag ysgolion yn yr Eidal a Nepal, a thrwy waith yn ystod yr Eisteddfod Ryngwladol. (Bryn Collen)

·         Mae'r ysgol yn hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang yn llwyddiannus trwy waith testun ar wledydd eraill o gwmpas y byd. (Clawdd Offa)

·         Mae'r ysgol yn darparu profiadau cyfoethog trwy gynllunio parhaus sy’n bodloni gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, y Cwricwlwm Cenedlaethol, egwyddorion y Cyfnod Sylfaen ac addysg grefyddol yn llwyddiannus. (Llanfair Dyffryn Clwyd)

·         Darparodd yr ysgol ystod werthfawr o brofiadau i ddisgyblion ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddatblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Roedd hyn yn cynnwys astudio gwledydd fel Ethiopia, cynnal wythnos Tseineaidd a gweithgareddau ysgol goedwig.  O ganlyniad, mae dealltwriaeth y disgyblion o faterion amgylcheddol a materion byd-eang wedi datblygu'n dda. (Llanfair Dyffryn Clwyd)

·         Mae trefniadau i ddatblygu disgyblion fel dinasyddion byd-eang yn nodwedd gref o'r ysgol a gymerodd bob cyfle i ddathlu amrywiaeth o fewn cymuned yr ysgol a'r byd ehangach yn llwyddiannus, er enghraifft trwy astudiaethau o ddiwylliannau a chysylltiadau eraill gydag ysgol yn Ethiopia. (Ysgol Mair)

 

Gofal, Cymorth ac Arweiniad:

 

·         Mae’r ysgol yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol a diwylliannol y disgyblion yn llwyddiannus trwy ddarparu gwasanaethau addoli ar y cyd a gweithgareddau cwricwlwm ehangach.  Gwahoddwyd ymwelwyr i arwain yr addoliad ac roedd cyfleoedd i ddisgyblion fyfyrio ar destunau cyfoes, fel gofalu am yr amgylchedd ac ystyried plant a phobl a oedd yn llai ffodus na hwy eu hunain.  Cafodd hyn ei adlewyrchu yn yr ymdrechion i godi arian i bobl Nepal ar ôl y daeargryn yn 2014. (Bro Elwern)

·         Cafodd y disgyblion lawer o gyfleoedd i ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion moesol a chymdeithasol.  Hyrwyddodd yr ysgol ddatblygiad diwylliannol y disgyblion yn dda trwy ystod o ymweliadau ac ymwelwyr, gan gynnwys gwaith gyda Gŵyl Ymylol Llangollen.  Mae dysgu o fewn y cwricwlwm ac addoli ar y cyd yn darparu cyfleoedd buddiol i ddisgyblion fyfyrio a datblygu eu hymwybyddiaeth ysbrydol yn briodol. (Bryn Collen)

·         Cafodd y disgyblion lawer o gyfleoedd gwerth chweil i ddatblygu eu dealltwriaeth o faterion moesol a chymdeithasol.  Hyrwyddodd yr ysgol ddatblygiad diwylliannol y disgyblion yn dda trwy ystod o ymweliadau a chyfleoedd i ddysgu am, er enghraifft, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Mae gweithredoedd dyddiol o gyd-addoli yn cynnig cyfleoedd addas i ddisgyblion fyfyrio a datblygu eu hymwybyddiaeth ysbrydol yn briodol. (Clawdd Offa)

·         Mae’r ysgol yn darparu yn dda iawn ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion.  Mae'r gwasanaethau boreol a chyfleoedd i fyfyrio yn amlwg ym mywyd yr ysgol ac yn hyrwyddo datblygiad ysbrydol y disgyblion yn effeithiol. Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau rheolaidd gan y ficer a gwasanaethau 'Agor y Llyfr', ac, o ganlyniad, mae gwerthoedd fel tegwch yn cael eu meithrin yn dda. (Llanfair Dyffryn Clwyd)

·         Mae profiadau dysgu wedi rhoi cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae sesiynau addoli ar y cyd ac amser cylch yn galluogi disgyblion i ystyried eu gwerthoedd a'u credoau eu hunain, yn ogystal â theimladau a safbwyntiau pobl eraill.  Mae'r holl ddisgyblion yn ymweld â'r eglwys leol ar gyfer dathliadau, yn enwedig adeg y Nadolig, y Pasg a gwasanaeth gadawyr.  Dathlodd yr ysgol ei phoblogaeth amrywiol yn llwyddiannus trwy gydol y flwyddyn mewn digwyddiadau fel wythnos ryngwladol lle mae disgyblion yn dysgu am ddiwylliannau a chredoau eraill. (Ysgol Mair)

 

Yr Amgylchedd Dysgu:-

 

·         Roedd gan yr ysgol bolisïau, cynlluniau a gweithdrefnau i sicrhau cyfle cyfartal i bob disgybl ac sy'n hyrwyddo cydraddoldeb yn llwyddiannus. Mae parch at amrywiaeth hiliol a chydraddoldeb yn cael ei hyrwyddo yn llwyddiannus. (Bro Elwern)

·         Darparodd yr ysgol amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i'r holl ddisgyblion.  Mae'r holl staff yn trin disgyblion yn gyfartal ac yn hyrwyddo amrywiaeth yn llwyddiannus. (Bryn Collen)

·         Mae'r ysgol yn gymuned gynnes, groesawgar a chynhwysol.  Mae'r ethos gofalgar yn annog disgyblion i fod â pharch a goddefgarwch tuag at eraill. (Clawdd Offa)

·         Roedd yr ysgol yn amgylchedd gofalgar a chefnogol sy'n gwerthfawrogi pob disgybl yn gyfartal.  Mae ymrwymiad yr ysgol i ddathlu amrywiaeth yr holl ddisgyblion yn nodwedd amlwg o'i gwaith.  O ganlyniad, mae diwylliant o ofal naill at y llall, goddefgarwch a pharch yn treiddio drwy'r ysgol. (Ysgol Mair)

 

Cwestiwn Allweddol 3: Pa mor dda yw'r arweinyddiaeth a'r rheolaeth?

 

Arweinyddiaeth:-

 

  • Mae'r pennaeth yn hyrwyddo cymuned ofalgar, gynhwysol ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar ei ethos Cristnogol cryf.  Rhannodd hyn yn llwyddiannus gyda'r holl ddisgyblion, staff, llywodraethwyr a rhieni.  O ganlyniad, roedd gan bob aelod o gymuned yr ysgol ymdeimlad cryf o berthyn. (Ysgol Mair)

 

Gweithio mewn Partneriaeth:-

 

·         Mae staff yn gwneud cysylltiadau pwrpasol, helaeth gyda'r gymuned leol, gan gynnwys cymryd rhan yn y gwasanaeth Sul y Cofio lleol a'r orymdaith Eisteddfod Ryngwladol, i wella cyfleoedd dysgu disgyblion yn llwyddiannus.  Mae'r cysylltiadau hyn yn hyrwyddo ymdeimlad cryf o gyfranogiad cymunedol ym mywyd a gwaith yr ysgol. (Bryn Collen)

 

Cyfeiriodd y CA yn arbennig at dudalen 2 o'r adroddiad a chanolbwyntiodd ar y gwaith cadarnhaol a wnaed mewn perthynas â Gofal, Cymorth ac Arweiniad.  Tynnodd sylw hefyd at y manylion a gynhwysir yn Adroddiad Estyn mewn perthynas ag addoli ar y cyd a materion ysbrydol, y teimlai oedd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

 

Estynnodd y Cadeirydd ac aelodau CYSAG eu llongyfarchiadau am y gwaith a wnaed gan yr ysgolion sy'n cymryd rhan yn y Arolygon.

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a’i nodi.

 

 

Dogfennau ategol: