Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AM GONTRACT CYNNAL A CHADW TIROEDD TAI

Ystyried adroddiad a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu gan y Swyddog Arweiniol: Tai Cymunedol, sy'n darparu’r diweddaraf am y cynnydd gyda'r contract cynnal a chadw tiroedd ar gyfer tir sy'n eiddo i’r adran Dai.

                                                                                                        10.05 a.m.

 

 

Cofnodion:

Hysbysodd y Swyddog Arweiniol – Tai Cymunedol, wrth gyflwyno’r adroddiad (a oedd wedi’i gylchredeg yn flaenorol) fod y cyfrifoldeb am gynnal a chadw tiroedd y mae’r Adran Tai yn berchen arnynt bellach yn gorwedd gyda’r Adran, ac nid yr Adran Briffyrdd fel yn flaenorol. Roedd tâl gwasanaeth o £1.50 yr wythnos yn cael ei godi ar denantiaid am y gwasanaeth a ddarperir ac roedd y contract yn cael ei ariannu o gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai. Cydnabuwyd fod problemau wedi bod yn ystod 2015 a oedd wedi arwain at gwynion niferus gan denantiaid, a hynny am nad oedd y broses o drosglwyddo’r contract wedi gallu dechrau’n ddigon cynnar, gan olygu nad oedd modd penodi contractwr newydd tan fis Mehefin, a oedd ymhell i mewn i’r tymor tyfu glaswellt. 

 

Hysbysodd y Swyddog Arweiniol:

·                      fod perchnogaeth tir rhwng gwahanol adrannau yn y Cyngor wedi dod yn llawer cliriach ers i’r trefniadau newydd ar gyfer cynnal a chadw tir gael eu sefydlu;

·                      bod 83% o’r rhai a gyflwynodd gwynion yn ystod 2015 am y trefniadau torri glaswellt wedi dynodi eu bod bellach yn fodlon ar y gwasanaeth yr oeddent yn ei gael;

·                     Gan fod y Cyngor bellach yn rheoli ei Gyfrif Refeniw Tai ei hun, bod ganddo gynlluniau i fuddsoddi mewn cynlluniau i wella’r amgylchedd yn ac o amgylch yr ystadau tai cyngor – gallai cynlluniau arfaethedig i wella’r amgylchedd mewn cymdogaethau gynnwys y gymuned hefyd a bod yn gyfle iddynt gynnig am arian ar gyfer eu prosiectau cyfunol hwy eu hunain;

·                      Roedd manylion cyllid a oedd eisoes wedi’i ddyrannu i brosiectau amrywiol, gan gynnwys meysydd chwarae, wedi’u cynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau fe wnaeth yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tir y Cyhoedd a swyddogion:

·                      addo gwirio gyda’r contractwr pa un a allai godi chwyn mewn cymdogaethau yn hytrach na’u chwistrellu, gan y teimlwyd fod hyn yn ddull mwy effeithiol o waredu’r broblem;

·                     cadarnhau bod gan y Cyngor wybodaeth well am berchnogaeth tir o fewn yr Awdurdod erbyn hyn;

·                     er y gallai cydgysylltu trefniadau torri glaswellt mewn cymunedau fod yn fater cymhleth, roedd pob ymdrech yn cael ei wneud i gwblhau’r gwaith mewn modd cydgysylltiedig. Wrth i berchnogaeth ar barseli o dir ddod yn gliriach dylai’r sefyllfa wella ymhellach;

·                      mae contractwyr fel arfer yn casglu sbwriel cyn eu bod yn torri ardal o dir. Roedd gan yr Adran Tai Gytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Gwasanaethau Stryd hefyd a oedd yn golygu y gallent alw ar eu gwasanaeth pe bai angen. Roedd yr Adran hefyd â’i bryd ar gydweithio’n agosach gyda chymunedau gyda golwg ar eu gadw’n lân ac yn daclus. Byddai pedwar Swyddog Cymunedol Cymdogaeth yn cael eu penodi cyn bo hir a hwythau’n gyfrifol, ymhlith pethau eraill, am faterion amgylcheddol. Byddai’r swyddogion hyn yn gweithio gyda chymunedau ac yn rhedeg gweithgareddau megis digwyddiadau codi sbwriel mewn ymgais i annog trigolion i gymryd perchnogaeth ar eu cymunedau. Byddai digwyddiadau o’r fath yn cefnogi ac yn gwella iechyd a lles unigolion yn ogystal â chymunedau;

·                      addo siarad gydag Aelodau unigol i drafod materion sy’n achos pryder iddynt yn ardaloedd Cynwyd, Y Rhyl a Phrestatyn;

·                      cadarnhau, er y codir tâl gwasanaeth o £1.50 yr wythnos ar denantiaid y Cyngor am waith cynnal a chadw tiroedd, na allai’r Cyngor godi taliadau o’r fath ar unigolion a oedd yn byw ar yr un ystadau ac a oedd yn berchen-feddianwyr. Gellir codi’r tâl gwasanaeth ar berchen-feddianwyr fflatiau unigol mewn cyfadail tai Cyngor gan mai perchnogion lesddaliadol oeddent yn hytrach na pherchnogion rhydd-ddaliadol, a bod tâl gwasanaeth eisoes yn cael ei godi arnynt am wasanaethau eraill a ddarperir ar gyfer eu heiddo gan y Cyngor;

·                      hysbysu’r Aelodau fod cost wirioneddol cynnal a chadw tiroedd yn ystod 2015/16 £20,000 yn uwch na’r swm a oedd yn cael ei ddyfynnu yn yr adroddiad, a hynny oherwydd costau nas rhagwelwyd. Roeddent yn hyderus y byddai costau’n is yn y dyfodol;

·                      hysbysu nad oedd plaladdwyr a ddefnyddir gan gontractwyr ar dir y mae’r Cyngor yn berchen arno gyn gryfed â’r rhai a ddefnyddir gan y diwydiant amaethyddol ac felly nad ydynt mor effeithiol – roedd deddfwriaeth yn gwahardd awdurdodau lleol rhag defnyddio plaladdwyr amaethyddol am resymau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch y cyhoedd;

·                      cadarnhau mai cyfrifoldeb y tenant oedd torri perthi o amgylch eiddo’r Cyngor. Os nad oedd y tenant yn cynnal a chadw perthi i safon resymol gellid cymryd camau gorfodi. Os oeddent yn cael anhawster cynnal a chadw perthi gallai’r Cyngor wneud y gwaith ar eu rhan, gan godi tâl am hynny;

·                      addo gofyn i’r contractwr hysbysu preswylwyr pryd fyddent yn yr ardal i dorri’r glaswellt a.y.b. a gofyn iddynt sicrhau bod yr holl gerbydau’n cael eu parcio mewn man priodol er mwyn sicrhau nad oeddent yn rhwystr i fynediad na’r gwaith cynnal a chadw mewn unrhyw ffordd;

·                      cadarnhau, lle’r oedd tenantiaid neu eraill wedi llechfeddiannu tir y mae’r Cyngor yn berchen arno dros gyfnod o amser, y byddai’r Cyngor yn adennill y tir maes o law ac yn ei gynnal a’i gadw’n briodol.

 

Cyn i’r drafodaeth ddod i ben darllenodd y Cadeirydd neges e-bost gan y Cynghorydd Colin Hughes a oedd yn nodi ymateb cadarnhaol tu hwnt yr oedd wedi’i gael i gŵyn ynghylch cynnal a chadw tiroedd yn ei ward yn ddiweddar. Er bod y Pwyllgor yn cydnabod y bu anawsterau i ddechrau pan ddechreuodd y contract newydd ym mis Mehefin 2015, roedd y problemau hyn bellach wedi cael eu datrys a hyd yn hyn eleni roedd y contract cynnal a chadw tiroedd i’w weld fel pe bai’n cael ei gyflawni yn unol â gofynion y contract:-

 

PENDERFYNWYD-

 

(i)            yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr wybodaeth a chymeradwyo’r mesurau a gymerir i reoli’r contract ac atal problemau tebyg i’r rhai a gafwyd y llynedd rhag codi yn y dyfodol; ac

(ii)          y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i gefnogi dull cydgysylltiedig gan y Cyngor o ran gwaith cynnal a chadw tiroedd mewn cymunedau, gan gynnwys archwilio dichonoldeb cydgytundebau posibl rhwng gwasanaethau a chontractwr cyn cychwyn unrhyw brosesau tendro yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: