Eitem ar yr agenda
CYFANSODDIAD Y CYNGOR
I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi'n amgaeedig) yn ceisio sylwadau ac
arsylwadau ar y Cyfansoddiad drafft.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Swyddog Monitro eisoes wedi
ei ddosbarthu, a oedd yn darparu’r Aelodau â chopi o’r Cyfansoddiad drafft i
gael sylwadau ac arsylwadau cyn cyflwyno hwn i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ym
mis Gorffennaf.
Darparodd y Swyddog Monitro grynodeb manwl o’r adroddiad ac eglurodd bod
Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol angen i unrhyw newidiadau
a fwriedir i Gyfansoddiad y Cyngor gael eu hystyried yn gyntaf cyn cael eu
mabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor Llawn.
Roedd adroddiadau blaenorol wedi ystyried y
newidiadau arfaethedig i Erthyglau’r Cyfansoddiad, cynigion mewn perthynas â
dirprwyo i aelodau’r Cabinet wneud penderfyniadau, mewn perthynas â
phenderfyniadau anallweddol, a newidiadau i Reolau Cyflogaeth Swyddog a Thâl yr
Aelodau: y Cynllun Dirprwyo Swyddog wedi’i ddiweddaru a oedd yn adlewyrchu
ailstrwythuro newydd o’r uwch swyddogion a’r Protocol ar Gysylltiadau Aelodau/
Swyddogion.
Yn ystod y deuddeg mis diwethaf, roedd y Gweithgor
Cyfansoddiad wedi cyfarfod i ystyried y newidiadau arfaethedig; cyn i’r Swyddog
Monitro adrodd ar bob cam o gynnydd i’r Pwyllgor hwn. Cafodd nifer o feysydd eu trafod gan
gynnwys mwy o dryloywder a hysbysiad ymlaen llaw i wneud penderfyniad gan naill
ai Aelod neu Uwch Swyddog, mewn perthynas â phenderfyniadau penodol yr oeddynt
ar fin eu gwneud dan bwerau dirprwyedig; a ddylai aelodau o’r cyhoedd allu
cyflwyno cwestiynau i’r Cabinet neu’r Cyngor Llawn; cyfyngiadau ar amser ar
gyfer cyfarfod: Cadeirydd yn llofnodi pob dogfen gyfreithiol dan sêl; dirprwyon
ar Bwyllgorau a newid y protocol ar gysylltiadau Swyddogion/ Aelodau.
Cynhaliwyd gweithdy Aelodau ar 1 Mawrth 2016 er
mwyn cyflwyno aelodaeth ehangach i’r Cyfansoddiad newydd arfaethedig. Roedd y ddogfen wedi'i hatodi fel Atodiad 1 a
darparodd y Swyddog Monitro grynodeb manwl o'r newidiadau canlynol: -
·
Adran Diffiniad Estynedig
·
Adran 3 yn nodi sut y gall aelodau o’r cyhoedd gael
gwybodaeth a bod yn gysylltiedig
·
Adran 4 Fframwaith Polisi wedi’i ddiweddaru
·
Adran 9 - Rhestru pob pwyllgor
rheoleiddio a phwyllgorau eraill, gan gynnwys Cydbwyllgorau.
·
Adran 11 – yn nodi pwy yw’r Swyddogion statudol ‘Priodol’
y Cyngor a’u swyddogaethau a meysydd cyfrifoldeb.
·
Adran 12 – Cyllid, Cytundebau a Materion Cyfreithiol a
chael gwared â gofyniad y Cadeirydd y Cyngor i lofnodi pob cytundeb yn unigol
neu drafodion eiddo a wneir dan sêl.
·
Adran 13 yn nodi Cynllun Dirprwyo Aelodau Cabinet
diwygiedig a Chynllun Dirprwyo Swyddogion diwygiedig.
Roedd y Cyfansoddiad newydd yn cynnwys y Codau a Phrotocolau heb eu newid
gan fod y broses ymgynghori wedi cadarnhau eu bod yn addas i’r diben ac yn
gweithio'n barod:
·
Gweithdrefnau gwrandawiadau’r Pwyllgor Safonau
·
Cod Ymddygiad Gweithwyr
·
Disgrifiadau Rôl i Aelodau
·
Protocol Hunanreoleiddio’r Aelodau
·
Protocol Cyswllt ag Aelodau
·
Protocol ar Fynediad at Wybodaeth i Aelodau
·
Cod Arferion Gorau i Gynghorwyr a Swyddogion sy'n delio â
Materion Cynllunio
·
Protocol ar Swyddogaeth Cadeirydd ac Arweinydd wrth
Gynrychioli’r Cyngor
·
Protocol ac Arweiniad i Aelodau Etholedig a Benodwyd i
Gyrff Allanol
Mae’r Cyfansoddiad newydd yn cynnwys y canlynol a oedd wedi cael eu
diweddaru a’u cymeradwyo yn ddiweddar gan y Cyngor Llawn:
·
Polisi Rhannu Pryderon
·
Rheolau’r Weithdrefn Gontractau
·
Cod Ymddygiad diwygiedig i Aelodau
Amlygwyd pwysigrwydd a pherthnasedd cyfansoddiad
modern addas at y diben yn yr adroddiad.
Roedd Gweithgor Cyfansoddiad y Cyngor, y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac aelodaeth ehangach trwy weithdy,
wedi bod yn rhan o’r drafodaeth ar y cynigion allweddol yn y cyfansoddiad
newydd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd S.A. Davies at dudalen 9 o'r adroddiad "cymryd
rhan - aelodau o'r cyhoedd" a phwysleisiodd y pwysigrwydd i Aelodau Lleol
gael gwybod ar unwaith am unrhyw faterion neu gwynion yn ymwneud â'u
wardiau. Darparodd y Swyddog Monitro
fanylion y protocol a fabwysiadwyd ar gyfer cysylltu ag Aelodau, a oedd yn nodi
y dylai Aelod gael ei hysbysu am unrhyw beth o bwys yn ymwneud â'u Ward
penodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham mewn perthynas ag Adran 9 ar
dudalen 47 yr adroddiad, 9.2 Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, eglurodd y
Swyddog Monitro nad oedd rhestr swyddogaethau’r Pwyllgor na'r Cylch Gorchwyl
wedi newid ac y byddai'n cael ei ymgorffori.
Cadarnhaodd hefyd fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddarparu cysylltiadau
Rhyngrwyd ar gyfer y polisïau a'r dogfennau perthnasol y cytunwyd arnynt ac y
cyfeirir atynt yn y Cyfansoddiad, i ddarparu cysondeb ac eglurhad mewn
perthynas â'r cylch gorchwyl a fframwaith y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
yn y Cyngor yn gyffredinol.
Ymatebodd y Swyddog Monitro i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd M.L.
Holland a darparodd gadarnhad na fyddai mwyach yn ofynnol i Is-gadeirydd y
Cyngor fod yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol. Eglurodd ei fod yn rhagweld y byddai'r
diwygiad yn darparu hyblygrwydd ac yn helpu i fynd i'r afael â materion sy'n
ymwneud â phresenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog
Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro am y gwaith a wnaed mewn perthynas ag
adolygu Cyfansoddiad y Cyngor.
PENDERFYNWYD - yn amodol
ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn argymell i’r
Cyngor Llawn fabwysiadu’r Cyfansoddiad drafft, Atodiad 1.
(GW, LJ i Weithredu)
Dogfennau ategol: