Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH AR GYFER ATAL A CHANFOD TWYLL, LLYGREDIGAETH A LLWGRWOBRWYAETH
I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi'n amgaeedig) ar y diwygiadau i
strategaeth y Cyngor ar gyfer atal a chanfod twyll, llygredigaeth a
llwgrwobrwyaeth.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Swyddog Monitro a oedd yn
manylu ar ddiwygiadau i strategaeth y Cyngor ar gyfer atal a chanfod twyll,
llygredigaeth a llwgrwobrwyaeth, eisoes wedi cael ei ddosbarthu.
Cyflwynodd y Swyddog
Monitro yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion y strategaeth wedi'i diweddaru. Eglurodd bod y Cyngor yn cyflogi nifer
sylweddol o staff ac yn gwario miliynau o bunnoedd y flwyddyn. Roedd yn comisiynu ac yn darparu amrywiaeth
eang o wasanaethau i unigolion a chartrefi ac mae wedi gweithio gydag ystod
eang o sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol.
Cyfeiriodd at y perygl parhaus o golled oherwydd
twyll a llygredd o ffynonellau mewnol ac allanol. Hefyd roedd perygl parhaus o lwgrwobrwyo gan
fod y Cyngor yn darparu ac yn caffael nwyddau, gwaith a gwasanaethau, ac roedd
wedi rhoi systemau cymesur ar waith i leihau'r risg hwn ac roedd y rhain yn
cael eu cadw dan arolwg. Roedd y Cyngor
yn cydnabod yn ogystal ag achosi colled ariannol, fod twyll a llygredigaeth
hefyd yn niweidiol i ddarparu gwasanaethau a niweidio enw da'r Cyngor a chyrff
cyhoeddus yn gyffredinol.
Roedd Strategaeth ddrafft, Atodiad 1, wedi ei
gynnwys gyda'r adroddiad. Roedd y Polisi
wedi bod yn un ddogfen fawr hir, fodd bynnag, roedd y datganiad polisi bellach
yn un tudalen o hyd ar ddechrau'r ddogfen strategaeth a oedd yn cynnwys y prif
egwyddorion y bydd y Cyngor yn ddefnyddio wrth fynd i'r afael â thwyll,
llwgrwobrwyo a llygredigaeth. Yn y
Datganiad Polisi a’r gweithdrefnau sy’n ei gefnogi, darparodd y Cyngor neges
glir yn nodi na fydd yn goddef unrhyw anweddustra gan weithwyr, Aelodau
Etholedig neu sefydliadau trydydd parti.
Cafodd unrhyw bolisi oedd yn honni i wrthsefyll y bygythiad o dwyll a
llygredigaeth ei gadw'n gyfoes a'i adolygu yng ngoleuni datblygiadau
deddfwriaethol, technolegol a phroffesiynol newydd.
Cafodd Polisi Gwrth-dwyll a Llygredd presennol y
Cyngor ei gymeradwyo yn 2006, ac roedd y strategaeth ddrafft ddiwygiedig wedi
ystyried newidiadau i ddeddfwriaeth a ddaeth yn sgil Deddf Llwgrwobrwyaeth
2010. Roedd y canllawiau yn cynnwys canllawiau arfer gorau, fel y Cod Ymarfer
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer rheoli'r Risg
o Dwyll a Llygredd.
Er nad oedd gan y Cyngor lawer o brofiad o
weithgaredd twyllodrus wedi’i ganfod yn y blynyddoedd diweddar, roedd hi’n
bwysig iawn i barhau i fod yn wyliadwrus a bod holl weithwyr, aelodau etholedig
a phartneriaid yn ymwybodol o’r risg o dwyll a sut i adrodd am bryderon neu
ddrwgdybiaethau. Darparodd y strategaeth
gyngor clir ar sut, ac i bwy y dylid adrodd am unrhyw ddrwgdybiaethau. Hefyd, roedd datganiad clir o ymrwymiad y
Cyngor i gymryd camau gorfodi cadarn lle bynnag y datgelwyd gweithgaredd
anghyfreithlon neu lwgr.
Roedd Cod Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth yn argymell y dylai sefydliad gydnabod cyfrifoldeb i sicrhau
bod risg o dwyll a llygredigaeth yn cael eu rheoli’n effeithiol, adnabod
dadleniad penodol at risg, datblygu strategaeth gwrth-dwyll, darparu adnoddau i
gefnogi’r strategaeth honno a rhoi polisïau mewn lle i gefnogi’r
strategaeth. Byddai’r Cyngor yn parhau
i addasu a mabwysiadu dulliau rhagweithiol i atal gweithgareddau twyllodrus, a
byddai Archwilio Mewnol yn cynnal adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd y
rheolaethau hyn.
Codwyd y materion
canlynol gan Mr P. Whitham a chafwyd ymateb iddynt:
-
Roedd
y gair "lladrad" wedi ei gynnwys yn rhif 1 o'r Datganiad Polisi, ond
nid mewn mannau eraill.
-
Awgrymodd y dylid naill ai ei hepgor neu ei
gynnwys yn gyson. Cafwyd cadarnhad bod y gwaith sicrwydd yn ymwneud â'r asesiad
risg blynyddol, y cyfeirir ato ar dudalen 15 yr adroddiad, yn cael ei wneud gan
Archwilio Mewnol a byddai hyn wedyn yn cyfarwyddo’r Gofrestr Risg.
-
Darparodd
y swyddogion gadarnhad y byddai manylion y Polisi yn cael eu cynnwys ar y
fewnrwyd, eu cyflwyno i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'u hymgorffori yn yr
hyfforddiant sefydlu a ddarperir ar gyfer aelodau staff.
Yn dilyn trafodaeth
bellach:-
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor yn argymell cymeradwyo cynnwys y strategaeth ddrafft, Atodiad 1, i'w
cymeradwyo gan y Cabinet.
(GW, LJ i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- Fraud Report - UPDATED, Eitem 8. PDF 84 KB
- Appendix 1 - Draft Anti Fraud Corruption Bribery Policy(01) v2, Eitem 8. PDF 300 KB