Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CYLLID

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb y cytunwyd arni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb;

 

(b)       cymeradwyo mewn egwyddor y defnydd o danwariant gwasanaeth a gynigir gan y Penaethiaid Gwasanaeth, yn amodol ar y sefyllfa Alldro Terfynol (a grynhoir yn Atodiad 5 i'r adroddiad);

 

(c)        cymeradwyo'r achosion busnes sy'n ymwneud ag Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w hargymell i'r Cyngor Llawn fel a ganlyn -

 

·         cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol a Llawn ar y cyd ar gyfer datblygiad Ysgolion Glasdir, a

·         cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhau Busnes ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, a

 

(d)       bod unrhyw gynghorwyr a swyddogion presennol sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu prosiectau cyfalaf sylweddol yn cael eu gwahodd i'r seremonïau agoriadol mewn perthynas â'r prosiectau hynny hyd yn oed os nad yw’r cynghorwyr hynny wedi dychwelyd ar ôl etholiadau mis Mai 2017.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni.  Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa ariannol y Cyngor-

 

·        rhagwelwyd tanwariant net o £1.276 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        roedd 91% o’r arbedion a gytunwyd wedi'u cyflawni hyd yn hyn (targed o £7.3m) ac amcangyfrifir y byddai mwyafrif yr arbedion sy'n weddill yn cael eu cyflawni erbyn 2016/17 fan bellaf

·        amlygwyd bod y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, a

·        diweddariad cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf (gan gynnwys elfen y Cynllun Corfforaethol).

 

Holwyd i’r Cabinet hefyd i gymeradwyo mewn egwyddor y defnydd o danwariant gwasanaeth a gynigir gan y Penaethiaid Gwasanaethau ac i argymell yr achos busnes sy’n ymwneud â chynlluniau ysgolion Glasdir ac Ysgol Carreg Emlyn i’r Cyngor llawn i’w cymeradwyo.

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y drafodaeth  -

 

·         Roedd y Cynghorydd Huw Jones yn falch o nodi'r argymhelliad i gymeradwyo ceisiadau i gario tanwariant ymlaen yn y Gwasanaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden a fyddai’n galluogi rhedeg prosiectau yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.  Wrth ganmol prosiectau gwella’r ysgol manteisiodd ar y cyfle i amlygu’r pwysau ariannol canlynol ar ganolfannau hamdden penodol drwy golli incwm tra roedd y gwaith hwn yn cael ei wneud.

·         Roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn falch o allu cadarnhau bod yr holl brosiectau o dan y Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn dod yn eu blaenau’n dda.  Adroddodd am y gwaith caled a’r gwaith paratoi a wnaed wrth arwain amrywiol brosiectau, ac na fydd rhai ohonynt yn cael eu cwblhau yn ystod y tymor cyngor presennol, a chefnogodd y Cabinet y cynigion y byddai cynghorwyr a’r aelodau oedd yn ymwneud â’r cynlluniau hynny, a phrosiectau cyfalaf sylweddol eraill, yn cael eu gwahodd i seremonïau agor y prosiectau hynny p’un ai eu bod yn dychwelyd wedi etholiadau Mai 2017 ai peidio.

·         Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at gynllunio ariannol a phwysau o fewn y Gwasanaeth Oedolion a Gofal Cymdeithasol yn y dyfodol a chynghorodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill bod rhagolygon yn cael eu hymgorffori i’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac y byddent yn cael eu trafod ymhellach yn y dyfodol fel rhan o’r broses gyllido.

·         Adroddodd yr Arweinydd ar y sail resymegol y tu ôl i beth o’r tanwariant yn y Gwasanaeth Datblygu Economaidd a Busnes gan gynghori bod y cynnydd yn dibynnu i raddau helaeth ar ddylanwadau allanol y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.

·         Cadarnhaodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill taw’r swm ychwanegol yr oedd angen i’r Cyngor ei dalu er mwyn gwasanaethu ei rwymedigaethau o safbwynt yr hen Mutual Municipial Insurance Company oedd tua £262,000 a fyddai’n cael ei gyllido o’r gronfa Yswiriant wrth gefn

·         mewn ymateb i gwestiynau eglurodd y Prif Swyddog Cyllid y cyfyngiadau ar gyllid y Cyfrif Refeniw Tai a sut roedd elfennau wedi eu defnyddio i symud staff tai o Brighton Road, Y Rhyl, i Galedfryn, Dinbych ac yn galluogi trefniadau gweithio mwy hyblyg fel rhan o'r prosiect gofod swyddfa.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb;

 

 (b)      cymeradwyo mewn egwyddor y defnydd o danwariant gwasanaeth a gynigir gan y Penaethiaid Gwasanaeth, yn amodol ar y sefyllfa Alldro Terfynol (a grynhoir yn Atodiad 5 i'r adroddiad);

 

 (c)       cymeradwyo'r achosion busnes sy'n ymwneud ag Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w hargymell i'r Cyngor Llawn fel a ganlyn -

 

·         cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol a Llawn ar y cyd ar gyfer datblygiad Ysgolion Glasdir, a

·         chymeradwyo'r Achos Cyfiawnhau Busnes ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn, a

 

 (d)      bod unrhyw gynghorwyr a swyddogion presennol sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu prosiectau cyfalaf sylweddol yn cael eu gwahodd i'r seremonïau agoriadol mewn perthynas â'r prosiectau hynny hyd yn oed os nad yw’r cynghorwyr hynny wedi dychwelyd ar ôl etholiadau mis Mai 2017.

 

 

Dogfennau ategol: