Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 43/2015/0315/PF - SAFLE YN SANDY LANE, PRESTATYN
Ystyried cais i
ddymchwel strwythurau presennol a chodi tai byw ymddeol, cyfleusterau
cymunedol, tirlunio a man parcio ceir ar Safle yn Sandy Lane, Prestatyn (copi
ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i ddymchwel
strwythurau presennol a chodi tai i bobl wedi ymddeol, cyfleusterau cymunedol,
tirlunio a lleoedd parcio ceir ar safle yn Sandy Lane, Prestatyn.
Siaradwr Cyhoeddus -
Manylodd Mr. C. Butt
(McCarthy & Stone Ltd) (O blaid)
ar rinweddau'r cais o ran darparu llety ymddeol arbenigol sydd ei ddirfawr
angen yn yr ardal. Roedd pob maen prawf wedi'u bodloni ac eithrio mynediad a gwagio yn ystod
digwyddiadau perygl llifogydd eithafol fel y nodir yn Nodyn Cyngor Technegol
(TAN) 15 a oedd wedi'i seilio ar ragdybiaethau penodol. Byddai mesurau lliniaru yn cael eu
cyflwyno gan gynnwys cynllun llifogydd a rheoli safle priodol yn ystod
rhybuddion llifogydd.
Trafodaeth Gyffredinol – Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio (IW) y cais gan gadarnhau cefnogaeth
gyffredinol i'r ffactorau cadarnhaol sy'n deillio o'r cynnig. Fodd bynnag, roedd y perygl o lifogydd yn
fater o bwys ac ymhelaethodd ar y rhesymau y tu ôl i argymhelliad y swyddogion
i wrthod y cais o ystyried: ‘Na ellid cyflawni’r meini prawf Derbynioldeb ar
gyfer goblygiadau llifogydd’ yn TAN 15 gan na fyddai llwybrau dianc / gwagio yn
weithredol yn unrhyw amodau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Jason McLellan (Aelod
Lleol) at y gefnogaeth leol ar gyfer y datblygiad a siaradodd o blaid y cais
gan ailadrodd y manteision cadarnhaol o ran yr economi, datblygu safle segur a
derbyn taliad swm gohiriedig. Dadleuodd fod y meini prawf nad oedd wedi eu cyflawni yn TAN 15 yn
seiliedig ar siawns o 1:1000 o lifogydd a oedd yn ddehongliad cul nad oedd wedi
ei weithredu gyda datblygiadau eraill mwy diweddar. Cydnabu’r Cynghorydd Julian Thompson-Hill
hefyd fanteision y cynllun. Er yn cydnabod pryderon y swyddogion, amlygodd yr angen i fod yn realistig
o ystyried pa mor annhebygol y byddai digwyddiad mor eithafol yn digwydd o
gwbl.
Yn ystod y drafodaeth fanwl a
ddilynodd, nododd aelodau rinweddau'r cais a chanlyniadau cadarnhaol ac
ystyriwyd a oedd y bendithion hynny’n gorbwyso'r pryderon am berygl llifogydd
sy'n deillio o'r methiant i gyrraedd y meini prawf derbynioldeb yn TAN 15 o
safbwynt goblygiadau llifogydd mewn digwyddiad llifogydd eithafol ac a ellid
lliniaru'r perygl ymhellach drwy osod amodau ychwanegol. Credai sawl aelod bod digwyddiad llifogydd
eithafol o'r fath yn annhebygol iawn gan y byddai’r realiti’n gadael llawer o’r
Rhyl a Phrestatyn o dan ddŵr. O ystyried y diffyg hanes o lifogydd ar safle'r cais, ei bellter oddi wrth
y môr a mesurau gwagio yn sgil llifogydd ychwanegol roedd llawer o gefnogaeth i
ganiatáu'r cais. Awgrymwyd hefyd y byddai'r datblygiad arfaethedig yn caniatáu mwy o
ddraenio ar y safle ac yn lleihau’r perygl o lifogydd yn yr ardal. Nododd yr Aelodau bod datblygiadau eraill
ger safle'r cais ac mewn ardaloedd perygl llifogydd yn y Rhyl a Phrestatyn wedi
cael eu cymeradwyo o'r blaen. Canmolodd y Cynghorydd Stuart Davies y datblygiad a’r rheolaeth o gynllun
ymddeol tebyg gan yr Ymgeisydd yn Llangollen gan nodi fod hynny’n rhoi sicrwydd
pellach. Anogodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid bod yn ofalus wrth
benderfynu ar y cais a chyfeiriodd at y llifogydd yn Ystâd Glasdir ym mis
Tachwedd 2012, a gafodd ganiatâd cynllunio yn dilyn cyfrifiadau perygl
llifogydd. Gofynnodd am ragor o wybodaeth a sicrwydd ynghylch y modelau llifogydd a'r
broses asesu yn yr achos hwn. Gofynnodd Aelodau hefyd a ellid gosod amodau ychwanegol er mwyn bodloni'r
meini prawf derbynioldeb a oedd heb eu cyflawni dan TAN 15 ac a roddwyd
ystyriaeth i astudiaethau eraill o’r llanw yn ystod y broses asesu ynghyd ag
unrhyw bosibilrwydd o gryfhau amddiffynfeydd rhag llifogydd.
Dyma oedd ymatebion y
Swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r Aelodau -
·
roedd
perygl llifogydd datblygiadau eraill fel Ysgol Bodnant, Parc Siopa Prestatyn,
Nova a Glannau’r Rhyl wedi eu hasesu o dan wahanol gategorïau datblygu – roedd
y datblygiad hwn wedi ei gategoreiddio fel un diamddiffyn iawn
·
derbyniwyd
bod datblygiadau preswyl eraill wedi cael eu cymeradwyo yn y gorffennol ac
roedd Tai Gofal Ychwanegol Nant y Môr, Prestatyn yn ddatblygiad tebyg. Roedd cyngor gan Gyfoeth Naturiol Cymru
(CNC) yn newid dros amser ac roedd yn bwysig ystyried y data technegol
diweddaraf wrth benderfynu ar y cais
·
ymhelaethwyd
ar y canllawiau technegol a ddarperir yn TAN 15 o safbwynt ardaloedd parth
llifogydd ac a oedd gan yr ardaloedd hynny amddiffynfeydd perygl llifogydd ac
esboniodd swyddogaeth a safbwynt CNC a’r Uned Gynllunio Brys (EPU) mewn
perthynas â cheisiadau cynllunio
·
amlygwyd
yr anawsterau wrth gymharu'r cais presennol â'r llifogydd yn Glasdir o ystyried
y gwahanol rannau o'r sir a’r perygl lifogydd o'r afon yn hytrach na'r môr ond
rhoddwyd sicrwydd bod CNC yn gweithio'n barhaus ar eu modelau llifogydd ac
roedd swyddogion wedi ystyried y wybodaeth dechnegol ddiweddaraf sydd ar gael
wrth bennu’r argymhelliad
·
rhoddwyd
sicrwydd bod yr holl astudiaethau a dogfennau perthnasol yn ymwneud â llifogydd
wedi eu hystyried ac roedd cyfarfod wedi'i gynnal gyda CNC a'r EPU i drafod y
perygl o lifogydd ymhellach
·
cadarnhawyd
bod tybiaethau wedi eu gwneud wrth fodelu llifogydd na fyddai unrhyw welliant i
amddiffynfeydd rhag llifogydd dros y 100 mlynedd nesaf
·
pe
bai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai angen i swyddogion adrodd yn ôl i'r
pwyllgor ar unrhyw reolaethau ychwanegol o ran yr amodau i’w cyflwyno a
fyddai'n golygu ystyried y cynllun gwagio a materion rheoli llifogydd eraill
ymhellach.
Rhoddodd y Pennaeth Cynllunio
a Gwarchod y Cyhoedd grynodeb o’r ddadl a'r materion cynllunio perthnasol i'w
hystyried yn yr achos hwn. Amlygodd yr angen i aelodau gydbwyso'r ffactorau cadarnhaol sy’n deillio
o'r datblygiad yn erbyn y mater perygl llifogydd. Cydnabu Swyddogion y penderfyniad anodd oedd angen
ei wneud ond tynnwyd sylw'r aelodau at y rhesymau y tu ôl i'r argymhelliad i
wrthod o ystyried bod yr wybodaeth dechnegol a ddarparwyd ar ddyfnder mwyaf
posibl y llifogydd a chyflymder y dŵr llif mewn digwyddiad llifogydd eithafol
yn arwain at berygl annerbyniol ac nid oedd yn bodloni’r safonau gofynnol yn
TAN 15.
Cynnig - Teimlai'r Cynghorydd Butterfield, gan
fod y risg o ddigwyddiad llifogydd eithafol yn fach iawn a bod mesurau lliniaru
derbyniol mewn perthynas â gwagio'r adeilad wedi'u cynnwys ac y gellid eu
hymgorffori yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd terfynol, nad oedd cyfiawnhad
i wrthod caniatâd mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelwch llwybrau
mynediad a gadael; ac roedd bendithion adfywio clir a bendithion eraill i'r
datblygiad sy'n cyfiawnhau cefnogi’r cais. Cynigiodd
hi, ac eiliodd y Cynghorydd Anton Sampson y dylid caniatáu’r cais, yn groes i
argymhelliad y swyddogion.
PLEIDLAIS:
CANIATÁU - 16
GWRTHOD - 2
YMATAL - 1
PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais yn groes i argymhelliad y swyddogion, am y rheswm
fod y risg o ddigwyddiad llifogydd eithafol yn fach iawn a bod mesurau lliniaru
derbyniol mewn perthynas â gwagio'r adeilad wedi'u cynnwys ac y gellid eu
hymgorffori yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd terfynol, nad oedd cyfiawnhad
i wrthod caniatâd mewn perthynas â phryderon ynghylch diogelwch llwybrau
mynediad a gadael; ac roedd bendithion adfywio clir a bendithion eraill i'r
datblygiad sy'n cyfiawnhau cefnogi’r cais.
Dogfennau ategol:
- ITEM 6 - SITE AT SANDY LANE, PRESTATYN, Eitem 5. PDF 6 KB
- ITEM 6 - SITE AT SANDY LANE, PRESTATYN- APPENDIX, Eitem 5. PDF 1 MB