Eitem ar yr agenda
CAIS I YMESTYN YR ODDEFEB I AELODAU CYNGOR TREF Y RHYL
- Meeting of Pwyllgor Safonau, Dydd Gwener, 8 Ebrill 2016 10.00 am (Item 3.)
- View the declarations of interest for item 3.
Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi yn amgaeedig) i ymestyn yr oddefeb
a roddwyd ar 6 Mawrth 2015, am 12 mis pellach.
Cofnodion:
Gadawodd y Cynghorydd B. Mellor y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro (DSM) adroddiad (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar y cais a wnaed i ymestyn yr oddefeb, o 12 mis arall, a neilltuwyd
ar 6 Mawrth 2015. Mae Cyngor Tref y Rhyl wedi gofyn i'r Pwyllgor ailystyried yr
oddefeb ac wedi gofyn am estyniad. Mae'r adroddiad
gwreiddiol dyddiedig 6 Mawrth 2015 wedi'i atodi fel Atodiad 1.
Eglurodd y DSM bod cais wedi’i wneud yn gofyn i'r
Pwyllgor i roi yr oddefeb yn unol â Rheoliad 2(a) a (d) o Reoliadau Pwyllgorau
Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001, i’r Cyngor Llawn, gan gynnwys yr
Aelodau newydd o’r Cyngor Tref, yn unol â’r telerau a roddwyd yn wreiddiol.
Caniatawyd rhoi’r oddefeb a roddwyd ar 6 Mawrth 2015 yn unol â'r amodau a nodir
isod:-
(i) mae’r Oddefeb yn berthnasol
yn unig i faterion a ystyrir gan Gyngor Tref y Rhyl o ran Pwyllgor y Rhyl yn ei
Blodau (neu beth bynnag fydd yr enw newydd);
(ii) mae’n rhaid i'r Aelodau
barhau i ddatgan cysylltiad personol yn y cyfarfod(ydd) y caiff eitemau o'r
fath eu trafod. Yna gallant
siarad a phleidleisio i'r graddau y caniateir iddynt wneud hynny gan yr Oddefeb
hon;
(iii) bydd yr Oddefeb yn gymwys am 12 mis o
ddyddiad y cyfarfod Pwyllgor Safonau hwn (6 Mawrth, 2015). Wedi hynny,
disgwylir i Glerc Cyngor Tref y Rhyl i wneud cais ysgrifenedig i'r Swyddog
Monitro am estyniad i'r Oddefeb ac i osod gweithgareddau Pwyllgor y Rhyl yn ei
Blodau (neu unrhyw enw arall y bydd yn cael ei newid iddo);
(iv) ar ethol Aelod newydd,
mae’n rhaid i Glerc Cyngor Tref y Rhyl roi gwybod i'r Swyddog Monitro yn
ysgrifenedig er mwyn cymhwyso’r Oddefeb i'r Aelod newydd.
Ers caniatáu’r oddefeb wreiddiol cafodd y Cynghorwyr Stanley Frederick
Walker, Jacquie McAlpine ac Anthony Thomas eu hethol i'r Cyngor a byddai angen
eu cynnwys yn yr oddefeb.
Yn mynychu oedd Mr Gareth Nickels, Clerc Cyngor Tref y Rhyl, a rhoddodd
grynodeb o'r cais, a manylion am gyfranogiad Aelodau Cyngor Tref y Rhyl a
gweithgareddau mewn perthynas â Phwyllgor y Rhyl yn ei Blodau. Ar y pwynt hwn
gadawodd Clerc Cyngor Tref y Rhyl y cyfarfod.
Cododd Aelodau’r Pwyllgor y pryderon a’r materion
canlynol:-
-
Aelod Annibynnol, J Hughes (JH) a gyfeirir at 4.(iv) o’r
adroddiad “wrth ethol Aelod newydd, mae’n
rhaid i Glerc Cyngor Tref y Rhyl roi gwybod i'r Swyddog Monitro yn ysgrifenedig
er mwyn cymhwyso’r Oddefeb i'r Aelod newydd”.
Mynegodd bryder y gallai Aelod
newydd ei benodi dderbyn goddefeb heb orfod eu cyfeirio at y Swyddog Monitro
neu'r Pwyllgor Safonau, a allai gael ei ystyried yn fath o ragfarn neu wendid
yn y broses.
-
Teimlai'r Aelodau y dylid caniatáu goddefeb i bob Aelod presennol o Gyngor Tref
y Rhyl, a bod y Swyddog Monitro yn cael gwybod yn ysgrifenedig ynglŷn ag
ethol unrhyw Aelod neu Aelodau newydd, a dylai unrhyw benodiadau newydd
fod yn destun Cais am Oddefeb.
-
Cefnogodd y Pwyllgor yr awgrym
bod y cyfnod o oddefeb yn dechrau ar 8 Ebrill 2016 tan 4 Mai, 2017 sef dyddiad
Etholiadau’r Llywodraeth Leol.
-
Nodwyd na fu unrhyw gyhoeddusrwydd anffafriol o ran
Aelodau Cyngor Tref y Rhyl ac unrhyw gysylltiadau â Phwyllgor y Rhyl yn ei
Blodau.
-
Cymeradwyodd y Cadeirydd Cyngor Tref y Rhyl am eu
gweithredoedd wrth gydymffurfio â'r gweithdrefnau priodol a chyflwyno Cais am
Oddefeb. Teimlai'r Aelodau y byddai'n bwysig peidio ag
anghefnogi Aelodau Cyngor Tref y Rhyl o gymryd rhan mewn gwella y gymuned leol.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunwyd bod yr
Oddefeb yn cael ei ganiatáu, yn unol â Rheoliad 2(a) a (d) o Reoliadau
Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Goddefebau) (Cymru) 2001, i bob Aelod presennol o
Gyngor Tref y Rhyl, yn seiliedig ar y telerau a roddwyd yn wreiddiol. Yr Oddefeb i'w rhoi ar gyfer y
cyfnod o 8 Ebrill 2016 i 4 Mai, 2017 a'r Swyddog Monitro i gael gwybod yn
ysgrifenedig am ethol unrhyw Aelod neu Aelodau newydd, a dylai unrhyw
benodiadau newydd fod yn destun Cais am Oddefeb.
Mae aelodaeth bresennol Cyngor Tref y Rhyl i
gynnwys:-
Y Cynghorwyr Ian Armstrong, Brian Blakeley, Mrs. Joan Butterfield, Mrs.
Jeanette Chamberlain Jones, Mrs. Ellie M. Chard, Ms. Janette Hughes, Alan R.
James, Mrs. Patricia M. Jones, Ms Jacquie McAlpine, Barry Mellor, Brian F.
Moylan, Mrs. Win Mullen-James, Peter Prendergast, Stephen H. Ratcliffe, Miss
Sarah L. Roberts, Andrew J. Rutherford, Miss Rebecca Siddall, Dave Simmons,
William N. Tasker, Anthony Thomas, Y Parch Stanley Frederick Walker, a Miss
Cheryl Williams.
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau:-
(a)
yn rhoi’r oddefeb, yn unol â
Rheoliad 2(a) a (d) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Goddefebau)
(Cymru) 2001, i bob Aelod presennol o Gyngor Tref y Rhyl, fel y rhestrir uchod,
yn seiliedig ar y telerau a roddwyd yn wreiddiol.
(b)
yn
cytuno ar gyfnod y Goddefeb i ddechrau ar 8 Ebrill, 2016 tan 4 Mai, 2017, a
(c)
bod
y Swyddog Monitro yn cael gwybod yn ysgrifenedig ynglŷn ag ethol unrhyw
Aelod neu Aelodau newydd, a dylai unrhyw benodiadau newydd fod yn destun Cais
am Oddefeb.
(LJ i
Weithredu)
Dychwelodd y
Cynghorydd Mellor a Chlerc Cyngor Tref y Rhyl i'r cyfarfod ar y pwynt yma a
hysbyswyd nhw o benderfyniad y Pwyllgor.
Dogfennau ategol: