Eitem ar yr agenda
RHEOLAU'R CYNGOR AR GYFER MYNWENTYDD A'U GORFODI
Ystyried adroddiad gan y cyn Bennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu, am y rheolau sy’n berthnasol ym mynwentydd y
Cyngor, a sut caiff y rheolau hyn eu rheoli a’u gorfodi.
11.15 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
wedi cael ei gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Wrth ei gyflwyno,
dywedodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tir y Cyhoedd fod yr adroddiad yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor i geisio cymeradwyaeth yr aelodau i reolaeth a gorfodaeth
lymach ar reolau ar gyfer mynwentydd ar draws mynwentydd glaswelltog y sir a
chefnogaeth i orfodi’r rheolau lle roeddent yn cael eu torri. Roedd yr
adroddiad hefyd yn ceisio cefnogaeth y Pwyllgor i’r dull a ddefnyddir i ateb y
galw o du’r cyhoedd am feinciau coffa ac i’r cynnig i gyflwyno Gorchmynion
Rheoli Cŵn ym mynwentydd y sir. Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol fod
cefnogaeth yr Aelodau’n cael ei cheisio i’r dull argymelledig oherwydd natur
sensitif y cynigion. Roedd disgwyl y byddai lefel o feirniadaeth gyhoeddus er
gwaethaf y ffaith bod Aelodau wedi cefnogi’r cynigion. Hysbysodd yr Aelod
Arweiniol a swyddogion y Pwyllgor fel a ganlyn:-
·
bod ‘mynwentydd glaswelltog’, sef y math o
fynwentydd a berchnogir ac a weithredir gan Gyngor Sir Ddinbych, yn cael eu
rheoli gan Reolau Mynwentydd 1999. O dan y Rheolau hyn, dim ond cofebau, a’r
rheiny wedi’u gosod ar blinth fel arfer, oedd yn cael eu caniatáu; nid oedd
unrhyw addurniadau eraill yn cael eu caniatáu;
·
pan oedd unigolion yn prynu ‘hawliau claddu’
roedd cymalau a oedd yn nodi’r uchod yn cael eu cynnwys yn y cytundeb
cyfreithiol. Mae’n hawdd deall nad oedd prynwyr o bosibl, ar adeg mor anodd yn
eu bywydau, yn darllen yr holl ‘brint mân’ ac felly roedd tuedd gynyddol i osod
addurniadau neu erddi coffa bychain dros y beddi. Roedd yr arfer hwn, a oedd yn
rhwystr i waith cynnal a chadw tiroedd yn y mynwentydd, yn arbennig o gyffredin
ym Mynwent Coed Bell ym Mhrestatyn, ond roedd hefyd yn effeithio ar fynwentydd
eraill ledled y sir;
·
er bod unigolion a theuluoedd yn prynu
‘hawliau claddu’ y Cyngor oedd yn dal i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw’r
‘mynwentydd glaswelltog’. Gyda golwg ar gadw’r amwynderau hyn yn daclus roedd
swyddogion yn ceisio cefnogaeth yr Aelodau i ysgrifennu at berchnogion hawliau
claddu neu eu teuluoedd nad oeddent yn ymlynu wrth reolau’r Cyngor ar gyfer
‘mynwentydd glaswelltog’ ar hyn o bryd yn gofyn iddynt symud unrhyw addurniadau
o fewn chwe mis. Byddai’r ohebiaeth yn nodi y byddai’r Cyngor yn symud yr
eitemau coffa hyn ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis os nad oeddent hwy wedi
cydymffurfio â’r cais;
·
roedd
problem gynyddol gyda chŵn mewn nifer o fynwentydd yn y sir, gyda
pherchnogion cŵn yn defnyddio mynwentydd fel ardaloedd hamdden ar gyfer
cŵn. Roedd hyn wedi arwain at gŵn yn gwneud dŵr am ben cerrig
beddi a phroblemau gyda chŵn yn baeddu yn y mynwentydd. Cynigiwyd felly y
byddai Adran Gwarchod y Cyhoedd yn ymgynghori’n hwyrach yn y flwyddyn ar
gyflwyno gorchmynion rheoli cŵn, yn gwahardd yr holl gŵn (ac eithrio
cŵn tywys) o fynwentydd y Cyngor;
·
roedd
problem gynyddol o ran cerbydau ffordd yn mynd i mewn i fynwentydd ac yn
difrodi llwybrau troed a mynediad at ardaloedd beddi. Roedd bolardiau a oedd yn
cael eu gosod yno i’w hatal yn cael eu difrodi neu eu symud felly yn awr roedd
y Cyngor yn cynnig gosod bolardiau parhaol cryfach. Byddai sgwteri symudedd, cadeiriau
olwyn ac ati yn dal i allu mynd o amgylch y bolardiau hyn a chael mynediad i’r
mynwentydd;
·
er
mwyn ateb y galw cynyddol am feinciau coffa mewn mynwentydd ac felly osgoi
darparu nifer gormodol roedd y Cyngor yn awr yn prynu meinciau ac yn eu gosod
mewn mynwentydd, ac roedd hyn yn sicrhau bod yr holl feinciau o’r un safon ac
ansawdd.
Fodd bynnag, gallai teuluoedd brynu placiau coffa, y byddai’r Cyngor yn eu
harchebu ar eu rhan, ac yn trefnu eu bod yn cael eu gosod ar feinciau er cof am
eu hanwyliaid.
Gan ymateb i
gwestiynau’r Aelodau hysbysodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion fel a ganlyn:-
·
byddai eitemau a osodwyd ar yr ardal ar fedd a
ddynodwyd ar gyfer plinth yn cael eu derbyn cyn belled â’u bod yn gydnaws â
diben y fynwent;
·
byddai ‘cyfnod gras’ rhesymol yn cael ei
ganiatáu mewn perthynas ag eitemau coffa derbyniol gyda golwg ar barchu cyfnod
‘galaru’ y teulu;
·
roedd y Cyngor yn gohebu’n rheolaidd gyda
chyfarwyddwyr angladdau mewn perthynas â’i reolau ar gyfer ‘mynwentydd glaswelltog’
ac fe ofynnodd iddynt ddwyn y rheolau hyn i sylw teuluoedd wrth drefnu
angladdau;
·
ar ôl y cyfnod gras o chwe mis, pe bai
addurniadau yn dal yn eu lle ar ardal bedd byddai’r Cyngor yn defnyddio’i
bwerau gorfodi ac yn eu symud. Pe bai eitemau coffa eraill yn cael eu gosod yno
wedyn byddai’r rhain yn cael eu symud hefyd, nes bod y perchnogion yn
cydymffurfio â’r rheolau.
Roedd yr
Aelodau’n llwyr gefnogol i ddull yr oeddent hwy’n ystyried ei fod yn eithriadol
o synhwyrol, mewn perthynas â’r holl faterion a oedd yn cael eu nodi yn yr
adroddiad o ran edrychiad a chynnal a chadw mynwentydd glaswelltog y Cyngor a’r
cynigion i orfodi’r Rheolau ar gyfer Mynwentydd yn llym. Ar ôl trafodaeth
fanwl:-
PENDERFYNWYD – yn amodol ar y
sylwadau uchod, cymeradwyo:
(i) y
mesurau a oedd yn cael eu cynnig i wella cydymffurfiaeth â rheolau’r fynwent:-
(ii)
y
rheolaethau gweithredol a oedd bellach wedi’u sefydlu mewn perthynas â
defnyddio meinciau coffa;
(iii) yr angen am Orchmynion Rheoli Cŵn y
gellid eu gorfodi’n gyfreithiol ym mynwentydd y Cyngor, gan nodi y byddid yn
ymgynghori ymhellach ynghylch y cynllun arfaethedig hwn yn ddiweddarach yn y
flwyddyn; a hefyd
(iv) cyn rhoi’r uchod
ar waith, anfon gohebiaeth at bartïon cysylltiedig yn datgan yn glir beth yw
dull y Cyngor, a chyhoeddi datganiad i’r wasg a’r cyfryngau yn manylu ar ddull
y Cyngor a’r rhesymeg sy’n sail iddo.
Dogfennau ategol:
- Cemeteries Report, Eitem 9. PDF 122 KB
- Cemeteries App 1, Eitem 9. PDF 43 KB
- Cemeteries App 2, Eitem 9. PDF 302 KB
- Cemeteries App 3, Eitem 9. PDF 100 KB