Eitem ar yr agenda
TREFNIADAU'R CYNGOR I DORRI GLASWELLT YN YR ARDAL WLEDIG AR GYFER 2016/17
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a
oedd eisoes wedi’i ddosbarthu, am y contract torri gwair.
10.45 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol
wedi cael ei gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Wrth gyflwyno’r
adroddiad a’r atodiadau, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tir y Cyhoedd
fod dyletswydd ar y Cyngor dan Ddeddf Priffyrdd 1980 i gadw’r briffordd yn
ddiogel i bawb a oedd yn ei defnyddio. Roedd dyletswydd statudol arno hefyd,
dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 i hybu
bioamrywiaeth. Ar adegau roedd y ddwy ddyletswydd hon yn gallu bod yn groes i’w
gilydd, a dyna pam oedd angen i’r Cyngor lunio polisi torri glaswellt yn yr
ardal wledig a fyddai’n ceisio ateb gofynion y ddwy Ddeddf – sicrhau rhwydwaith
priffyrdd diogel a hybu a chefnogi bioamrywiaeth ar yr un pryd. Roedd wedi bod
yn anodd iawn taro cydbwysedd priodol rhwng gofynion y ddwy Ddeddf, a byddai’n
dal i fod felly gan fod y tymor tyfu’n amrywio o un flwyddyn i’r llall. Roedd
swyddogion a’r Aelod Arweiniol yn teimlo bod cydbwysedd priodol wedi cael ei
daro yn 2015 er mwyn cydymffurfio â’r ddwy Ddeddf. Gan ymateb i gwestiynau’r
Aelodau hysbysodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion:
·
y byddai ymylon mewn ardaloedd gwledig, ac
eithrio’r ardal sydd o fewn terfynau’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
(AHNE), yn cael eu torri ddwywaith y flwyddyn, un ystod ym mis Mai/Mehefin, ac
un ystod neu doriad llawn wedyn ym mis Medi/Hydref;
·
y
byddai ffyrdd o fewn yr AHNE, a adwaenir fel yr ardal bioamrywiaeth, yn cael eu
torri unwaith ym mis Awst/Medi, gyda lleiniau gwelededd yn cael eu torri ym mis
Mehefin/Gorffennaf am resymau diogelwch – erbyn yr amser hwn byddai’r mwyafrif
o flodau gwyllt wedi hadu a marw yn ôl;
·
wrth dorri ymylon neu leiniau am resymau
diogelwch, roedd penderfyniadau ynghylch faint i’w dorri’n seiliedig ar
asesiadau o’r risg i ddiogelwch;
·
nid
oedd canllawiau swyddogol ar hyd na dyfnder toriadau wrth dorri ymylon, gan
mai’r unig ystyriaeth oedd diogelwch defnyddwyr y ffordd boed yn deithwyr mewn
cerbydau, yn feicwyr neu’n gerddwyr;
·
am gyfnod o amser nid oedd y Cyngor wedi bod
yn rhoi sylw digonol i ofynion Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau
Gwledig, ond gan fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 bellach
wedi sefydlu bioamrywiaeth fel ystyriaeth allweddol, byddai angen i’r Cyngor
roi sylw i ofynion bioamrywiaeth;
·
roedd y Cyngor wedi adnabod yr AHNE fel yr
ardal fwyaf priodol ar gyfer y ‘toriad bioamrywiaeth’ gan ei bod yn hawdd i’r
contractwyr a phreswylwyr ei hadnabod a’i bod felly’n haws rheoli’r rhaglen a’r
contract torri glaswellt;
·
roedd ymylon mewn rhannau eraill o’r sir
wedi cael eu hadnabod fel Gwarchodfeydd Natur Ymyl Ffordd (roedd mapiau
lleoliad ar gyfer y rhain wedi’u hatodi wrth yr adroddiad). Roedd y
‘gwarchodfeydd’ hyn yn cael eu torri pan oedd yn briodol gwneud y gwaith, gan
ddibynnu ar rywogaethau’r fflora, ffawna a bywyd gwyllt a oedd yn tyfu neu’n
byw ynddynt;
·
gan fod y tymor tyfu’n tueddu i ddechrau’n
gynharach yn agos at yr arfordir, roedd y contractwr yn tueddu i gychwyn y
rhaglen torri glaswellt yng ngogledd y sir, gan weithio’i ffordd tua’r de er
mwyn i ymylon yn Nyffryn Dyfrdwy gael eu torri mewn pryd ar gyfer Eisteddfod
Ryngwladol Llangollen ar ddechrau mis Gorffennaf (roedd hyn hefyd yn golygu bod
ardaloedd yn Nyffryn Dyfrdwy a oedd o fewn terfynau’r AHNE yn cael eu torri’n gynharach
na rhannau eraill o’r AHNE). Serch hynny, roedd yr amserlen torri glaswellt yn
ddigon hyblyg i wneud newidiadau os oes angen;
·
ar y pryd roedd disgwyl i doriad cyntaf eleni
mewn ardaloedd y tu allan i’r AHNE gael ei gwblhau erbyn canol mis Gorffennaf;
·
os oedd gan yr Aelodau bryderon neu ymholiadau
ynghylch y rhaglen dorri yn eu hardal dylent logio eu hymholiadau trwy’r system
Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
Mynegodd nifer o
Aelodau sy’n cynrychioli wardiau gwledig y pryderon canlynol mewn perthynas â’r
polisi torri glaswellt:
·
amseriad y toriad, yn enwedig yn yr AHNE/ardal
Bioamrywiaeth, ac o ganlyniad hyd a thrwch y llystyfiant y byddai angen ei
dorri ar yr adeg honno;
·
eu hofnau am ddiogelwch defnyddwyr y ffyrdd
oherwydd y polisi;
·
gan y byddai’r mwyafrif o’r blodau gwyllt wedi
hadu erbyn diwedd mis Mehefin/dechrau mis Gorffennaf oni fyddai modd torri’r
ardal bioamrywiaeth bryd hynny, neu o bosibl ei thorri’n ôl i tua 3” o dwf er
mwyn sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffyrdd – yn enwedig ffyrdd gwledig cul ag
ymylon serth lle’r oedd llystyfiant yn tueddu i dyfu allan i mewn i’r ffordd ac
felly’n beryglus;
Awgrymodd y
Rheolwr Adain – Rheoli Rhwydwaith, i leddfu pryderon yr Aelodau, y byddent yn
asesu risgiau ac yn blaenoriaethu llwybrau o fewn yr AHNE yn barod ar gyfer yr
adeg pan fyddai’r contractwr yn barod i ddechrau’r gwaith yn yr ardal honno ym
mis Gorffennaf, tra awgrymodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tir y Cyhoedd, yn
ogystal â’r dull hwn, y gallai unrhyw gwynion a geir ynghylch y rhaglen torri glaswellt
ar ochrau priffyrdd eleni gael eu dadansoddi’n fanwl i adnabod gwelliannau ar
gyfer y flwyddyn nesaf.
Ar ddiwedd
trafodaeth fanwl yn y Pwyllgor am y polisi:-
PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod:-
(i)
Cymeradwyo’r Polisi Torri Glaswellt ar Ochr
Priffyrdd Gwledig, a oedd wedi’i atodi yn Atodiad 1 wrth yr adroddiad, yn dilyn
newid y trydydd pwynt bwled ym mharagraff 3.3 (Ardaloedd Bioamrywiaeth) o’r
polisi fel ei fod yn darllen fel a ganlyn – “bydd un ystod neu led yr ymyl
gyfan yn cael ei d/thorri ar ddiwedd mis Gorffennaf/ym mis Awst. Byddai pob
ymdrech yn cael ei wneud i oedi cyhyd â phosibl cyn gwneud y toriad hwn, yn
amodol ar gwblhau asesiadau cadarn o’r risgiau i ddiogelwch priffyrdd”; ac
(ii)
ychwanegu
amserlen y contractwyr ar gyfer priffyrdd gwledig at y Bwletin Gwaith Ffordd
wythnosol a anfonir at Gynghorwyr ac a gyhoeddir ar fewnrwyd y Cyngor.
Dogfennau ategol:
- Highways Grass Cutting Report 120516, Eitem 8. PDF 88 KB
- High Grass Cut Report, Eitem 8. PDF 405 KB
- High Grass Cut App 3, Eitem 8. PDF 2 MB
- High Grass Cut App 4, Eitem 8. PDF 96 KB