Eitem ar yr agenda
GWEITHDREFNAU RHEOLEIDDIO MAES CARAFÁNNAU DRAFFT
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a oedd
eisoes wedi’i ddosbarthu, am lawlyfr y weithdrefn reoleiddio drafft.
11.45 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Datblygu: Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd wedi cael ei gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Wrth gyflwyno’r
adroddiad, cyfeiriodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tir y Cyhoedd at gefndir yr
adroddiad a’r gwaith a oedd wedi cael ei wneud hyd yma mewn perthynas â chasglu
data ar ddefnyddio meysydd carafanau ledled y sir. Pwysleisiodd bwysigrwydd y
prosiect arbennig hwn a’r goblygiadau posibl ar gyfer y Cyngor pe bai pobl yn
byw ar feysydd ‘gwyliau’ trwy gydol y flwyddyn, h.y. yn defnyddio gwasanaethau
lleol ond heb dalu’r Dreth Gyngor a’r Cyngor ei hun ar ei golled o ran cyllid y
Grant Cynnal Refeniw gan nad oedd y trigolion hyn yn cael eu cynnwys yn y
ffigyrau poblogaeth sy’n sail i’r Grant Cynnal Refeniw.
Hysbysodd yr
Aelod Arweiniol a swyddogion y Pwyllgor:-
·
fod y Weithdrefn Reoleiddiol ar gyfer Carafanau,
a oedd yn nodi’r dull corfforaethol ar gyfer rheoleiddio meysydd carafanau’n
well, yn cael ei chyflwyno i’r Aelodau gan geisio’u cytundeb â’r egwyddorion
ynddi;
·
bod llawer o ymgysylltu wedi digwydd gyda
Chymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain gyda golwg ar sefydlu
arfer gorau yn y diwydiant ac annog y diwydiant i’w reoli a’i reoleiddio ei hun
yn effeithiol;
·
bod Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau
Cartrefi Prydain wedi trefnu cynhadledd ar y cyd yn ddiweddar yng Nghanolfan
Nova ym Mhrestatyn lle darparwyd gwybodaeth mewn perthynas â chynllunio,
trwyddedu, safonau masnachu a chymorth busnes ar gyfer perchnogion meysydd
carafanau.
Gan ymateb i
gwestiynau Aelodau fe wnaeth yr Aelod Arweiniol a swyddogion:
·
gadarnhau, er bod gorfodi rheoliadau mewn
perthynas â meysydd carafanau ledled y sir i’w weld yn ymgymeriad mawr, eu bod
o’r farn, gyda lefelau staffio presennol y Gwasanaeth, bod hyn yn bosibl pe
bai’r Gwasanaeth yn canolbwyntio ar gamau gorfodi mewn ymateb i achosion o’u
torri yn awr ac yn y dyfodol ac achosion a oedd wedi digwydd yn ystod y 12 mis
blaenorol;
·
er y byddai achosion o dorri amodau cynllunio
neu drwyddedu a ddigwyddodd fwy na 12 mis yn ôl yn cael eu hadnabod ac y byddai
perchennog y garafán a’r maes carafanau’n cael llythyr rhybuddiol yn eu hysbysu
eu bod wedi torri’r amodau, gallai swyddogion benderfynu peidio â chymryd camau
dilynol mewn perthynas â’r achosion hanesyddol hyn. Fodd bynnag, yn ôl y
gyfraith gellid cymryd camau mewn perthynas ag achosion o’r fath o dorri amodau
pe baent wedi digwydd o fewn cyfnod o hyd at ddeng mlynedd. Byddai penderfyniad
yn cael ei wneud ynghylch cymryd camau mewn ymateb i achosion o dorri amodau a
ddigwyddodd fwy na deuddeng mis yn ôl yn seiliedig ar amgylchiadau a maint
unrhyw achos unigol, a byddai camau’n cael eu cymryd mewn ymateb i achosion o
dorri amodau a ddigwyddodd yn y deuddeng mis diwethaf fel y byddent mewn ymateb
i achosion yn y dyfodol;
·
byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal i achosion
honedig o dorri amodau o safbwynt perchennog y garafán a
pherchennog/gweithredydd y maes carafanau;
·
byddai mater ‘preswylio’n gyfreithlon’ yn cael
sylw ar wahân. Byddai preswylwyr a oedd wedi cael ‘Tystysgrif Cyfreithlondeb
Preswylio’ yn atebol i dalu’r Dreth Gyngor ac yn cael mynediad at wasanaethau
penodol. Byddai angen cynnal ymholiadau pellach mewn perthynas â’r agwedd hon;
·
egluro, pe bai perchnogion carafanau yr
ymchwiliwyd iddynt am feddiannu carafanau gwyliau’n anghyfreithlon yn cadarnhau
y byddent yn cydymffurfio yn y dyfodol â’r amodau cynllunio a thrwyddedu, na
fyddai hynny’n effeithio ar unrhyw gamau i ymdrin ag achosion blaenorol o dorri
amodau;
·
hysbysu, er gwaethaf y ffaith y gallai rhai o
wasanaethau’r Cyngor gael eu tynnu oddi ar berchnogion carafanau a oedd wedi
torri amodau cynllunio a thrwyddedu trwy fyw mewn carafanau ar feysydd
carafanau, na allai’r holl wasanaethau gael eu tynnu’n ôl neu eu gwrthod.
Byddai’n ofynnol yn gyfreithiol bod rhai gwasanaethau allweddol yn cael eu
darparu, e.e. gwasanaethau addysg a gofal cymdeithasol.
Wedi i’r
gweithdrefnau rheoleiddiol drafft gael eu hystyried a’u trafod yn fanwl:
PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod:-
(i)
cytuno ag egwyddorion y Gweithdrefnau
Rheoleiddiol a oedd wedi’u nodi yn Atodiad 1 i’r adroddiad;
(ii)
cytuno y byddai swyddogion y Gwasanaeth Cynllunio
a Gwarchod y Cyhoedd yn cwblhau’r Gweithdrefnau ac yn dechrau eu rhoi ar waith;
ac
(iii)
y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor ymhen deuddeng mis yn gwerthuso’r broses o roi’r Gweithdrefnau ar
waith ac yn adnabod unrhyw broblemau neu anomaleddau y daethpwyd ar eu traws
wrth eu rhoi ar waith a’u gorfodi.
Dogfennau ategol:
- Caravan Sites Report, Eitem 10. PDF 93 KB
- Caravan Sites App 1, Eitem 10. PDF 277 KB
- Caravan Sites App 2, Eitem 10. PDF 96 KB