Eitem ar yr agenda
CYFLAWNI GYDA LLAI - GWASANAETHAU HAMDDEN
Ystyried adroddiad a oedd eisoes wedi’i gyhoeddi gan y Swyddog Arweiniol:
Hamdden Masnachol, sy'n crynhoi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac yn
amlinellu perfformiad Gwasanaethau Hamdden Sir Ddinbych o gymharu ag Awdurdodau
Lleol eraill yng Nghymru.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Arweiniol: Gwasanaethau Hamdden
Masnachol (LOCL) wedi cael ei gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Cymunedol adroddiad a oedd yn crynhoi
adroddiad cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar Wasanaethau Hamdden o
safbwynt Sir Ddinbych. Eglurodd:-
·
fod
yr adroddiad cenedlaethol, ar y cyfan, yn adlewyrchu’n dda ar Wasanaethau
Hamdden yn Sir Ddinbych, gyda nifer o enghreifftiau o ‘arfer gorau’ yn cael eu
henwi fel rhai sy’n cael eu gweithredu yng Ngwasanaeth Sir Ddinbych, e.e. bod
gan y Gwasanaeth weledigaeth a strategaeth hirdymor, a bod proses fanwl iawn ar
gyfer herio’r gwasanaeth a honno’n cael ei chefnogi a’i hategu â thystiolaeth
trwy ‘ddangosfwrdd’ a oedd yn cynnwys ystod amrywiol o ddata defnyddiol ar
berfformiad;
·
er ei
fod, yn wahanol i nifer o awdurdodau lleol, wedi cadw rheolaeth ar ei
Wasanaethau Hamdden, fod Cyngor Sir Ddinbych yn defnyddio dull masnachol iawn o
ddarparu’r gwasanaeth. Roedd yn darparu’r pedwerydd cymhorthdal isaf yng
Nghymru i Wasanaethau Hamdden;
·
er
bod adroddiad cenedlaethol SAC i’w weld fel pe bai’n dadlau o blaid ‘model
ymddiriedolaeth’ fel model priodol ar gyfer darparu gwasanaethau hamdden yn
ystod cyfnod o gyfyngiadau ariannol, fod Sir Ddinbych yn credu’n gryf nad hwn
oedd y model mwyaf cost-effeithiol ar gyfer darparu’r gwasanaethau yr oedd
trigolion yn eu disgwyl. Serch hynny, roedd y Cyngor yn adolygu ei fodel busnes
ar gyfer y gwasanaeth yn rheolaidd a phe bai model mwy effeithiol ar gyfer
darparu’r Gwasanaeth yn dod i’r amlwg ar ôl arfarniad opsiynau, byddai
swyddogion yn gofyn i Aelodau ei archwilio.
Gan ymateb i
gwestiynau’r Aelodau, hysbysodd yr Aelod Arweiniol a swyddogion fel a ganlyn:-
·
roedd
peth o’r data yn yr adroddiad yn ddryslyd gan nad oedd yn cymharu ffigyrau
tebyg, e.e. nifer y defnyddwyr canolfannau hamdden – dim ond y rhai a oedd yn
mynd mor bell â defnyddio’r cyfleusterau hamdden yn y sir yr oedd Sir Ddinbych
yn eu cyfrif, tra bo rhai o’r siroedd eraill yn cyfrif ‘nifer yr ymwelwyr’ â
chanolfannau hamdden, ni waeth pa un a oeddent yn defnyddio unrhyw
gyfleusterau, dosbarthiadau neu ddigwyddiadau;
·
roedd
ffigyrau defnydd Sir Ddinbych yn seiliedig ar ddata gwirioneddol ac nid ar
amcangyfrifon;
·
roedd
cymhorthdal y Cyngor i’r Gwasanaeth yn mynd yn llai o un flwyddyn i’r llall;
·
roedd
staff y Gwasanaeth Hamdden bellach yn cael eu defnyddio’n ddoethach ac o
ganlyniad yn cael eu defnyddio pan oedd angen i leddfu pwysau o fewn y Gwasanaeth
ar adegau prysur, e.e. cwrdd ag ymwelwyr sydd ar wyliau yng Nghanolfan Nova ar
ei newydd wedd a’u cyfeirio i’r lle y maent yn dymuno mynd, gan hyrwyddo’r
gwasanaethau sydd ar gael i wella iechyd a lles defnyddwyr gwasanaethau;
·
roedd
Canolfan Nova eisoes wedi cyrraedd ei tharged gweithredol ar gyfer y flwyddyn
gyntaf ac roedd y Ganolfan Hamdden a adnewyddwyd yn ddiweddar yn Rhuthun hefyd
yn perfformio’n dda ac ar y trywydd iawn i gyflawni ei hamcanion;
·
roedd
y Gwasanaeth yn monitro ei ddefnydd o ynni drwy’r amser ac roedd yn mynd ati’n
barhaus i archwilio dulliau cost-effeithiol a datblygiadau technolegol a allai
ostwng costau rhedeg. Hyd yma roedd wedi gosod boeler biomas yn y Rhyl,
gorchuddion pwll, goleuadau LED mewn rhai adeiladau, pympiau â chyflymder
newidiol a.y.b. Nid oedd gosod paneli solar wedi cael ei ystyried yn opsiwn
dichonadwy hyd yma.
Fe wnaeth Aelodau
amlygu’r cyfleoedd amrywiol a oedd ar gael yn Sir Ddinbych i hybu a chefnogi
iechyd a lles trigolion a’r angen i hyrwyddo’r holl weithgareddau, boed yn rhai
a ddarperir gan y Gwasanaethau Hamdden neu’n rhai sydd ar gael trwy’r
Gwasanaethau Cefn Gwlad. Fe bwysleision nhw’r angen i’r ddau wasanaeth
gydweithio i hyrwyddo’r holl gyfleoedd a’r gweithgareddau a drefnir gan
fudiadau gwirfoddol yn y sir a chysylltu â’r Gwasanaeth Cyfathrebu a Marchnata
gyda golwg ar amlygu a hyrwyddo argaeledd pob math o weithgarwch corfforol i
wella iechyd a lles trigolion ar wefan y Cyngor. Yn y Pwyllgor felly:
PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod:-
(i)
llongyfarch y Gwasanaeth am ei waith rhagorol hyd
yma, ac ar ei safle o ran darpariaeth gwasanaethau hamdden o’i gymharu ag
awdurdodau lleol eraill yng Nghymru;
(ii)
annog y Gwasanaeth i barhau i ddarparu a gwella’r
gwasanaethau y mae’n eu darparu; a hefyd
(iii)
parhau i adolygu’r sefyllfa o ran ystyried
arfarniad opsiynau ar gyfer modelau gweithredu gwahanol wrth i’r dirwedd newid.
Dogfennau ategol:
- Delivering Report, Eitem 6. PDF 121 KB
- Delivering App 1, Eitem 6. PDF 5 MB
- Delivering App 2, Eitem 6. PDF 182 KB