Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYFLWYNO CYFLYMU CYMRU YN SIR DDINBYCH

Sgwrs gyda chynrychiolwyr BT ar y cynnydd hyd yma o ran cyflwyno Cyflym Cymru yn y Sir, cynlluniau cyflwyno’r dyfodol, cyfyngiadau gwasanaeth neu broblemau a nodwyd yn ystod y cyflwyno, a mentrau eraill sydd ar gael i wella cysylltiad ar gyfer busnesau a chartrefi nad ydynt yn gallu elwa o raglen Cyflymu Cymru.

 

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr BT (BTRs) Mr Martin Jones, BT/NGA Rheolwr Rhaglen Cymru, a Mr Geraint Strello, Rheolwr Rhanbarthol Cymru, i'r cyfarfod.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder er y rhoddwyd gwahoddiad i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru i fynychu’r cyfarfod a chyfrannu at y drafodaeth, roeddent wedi gwrthod y  gwahoddiad.

 

Rhoddodd Reolwr Rhaglen Cyflymu Cymru BT gyflwyniad ynglŷn â'r cefndir a'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn gyda rhaglen Cyflymu Cymru.  Fe:-

 

·                     eglurodd fod Rhaglen Cyflymu Cymru yn ychwanegol at gyflwyno ffibr optig masnachol BT ac yn ffurfio rhan o fuddsoddiad £2.5biliwn mewn band eang ffibr

·                     Roedd blaenoriaethau cyflwyno Cyflymu Cymru wedi’u diffinio gan Lywodraeth Cymru (LlC);

·                     pwysleisiodd mai nod y rhaglen oedd cyflwyno rhwydwaith band eang cost effeithiol fyddai o fudd i gymaint o bobl yng Nghymru â phosib, yn enwedig y rhai na fyddai'n elwa o raglen  ffibr optig masnachol;

·                     Nododd ei fod yn brosiect peirianneg mawr ac ar y sail hon roedd ardal ymyrryd wedi'i nodi ar draws Cymru, yn bennaf ardaloedd gwledig, y gallai 750,000 o eiddo elwa o fand eang ffibr optig cyflym iawn.  Hyd yn hyn roedd 600,000 wedi’u galluogi, gyda 150,000 pellach i'w galluogi;

·                     Er bod y rhaglen gyflwyno wedi’i dylunio i fod o fudd i’r economi h.y. drwy gyflwyno Parthau Menter a Pharthau Twf Lleol, roedd hefyd wedi’i dylunio i wella cysylltedd cymdeithasol/cymunedol a lliniaru eithrio digidol lle bo modd.  O ganlyniad roedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i ardaloedd gwledig a threfol ar yr un pryd er mwyn i gwsmeriaid busnes a defnyddwyr allu elwa;

·                     darparodd fanylion gwaith cyflwyno 'cysylltiad ffibr i’r cabinet’ a ‘chysylltiad ffibr i’r eiddo', nifer y strwythurau yr oedd yn rhaid eu hadeiladu i ddarparu’r gwasanaethau a nifer yr eiddo fyddai’n elwa o’r cynlluniau;

·                     nododd hyd yn hyn fod 111 o 'r 177 o strwythurau a gynlluniwyd wedi'u hadeiladu, gan gefnogi 22,060 o'r 29,720 eiddo a nodwyd i elwa o’r rhaglen.  Roedd hyn yn cyfateb i gwblhau 74% o’r rhaglen;

·                     cynghorodd fod 66 strwythur i’w cwblhau, gan gefnogi 7,660 eiddo – rhannwyd y ffigurau hyn fel a ganlyn, Cysylltiad Ffibr i’r Cabinet :  19 strwythur yn cefnogi 1068 eiddo a Chysylltiad Ffibr i’r Eiddo:  47 strwythur yn cefnogi 6592 eiddo.    Byddai'r strwythurau sy'n weddill yn cael eu darparu erbyn diwedd mis Mawrth 2018, gyda Chysylltiad Ffibr i'r Eiddo yn ffurfio rhan fwyaf gweddill y gwaith sydd i'w gyflawni;

·                     nododd y gallai 77% o Sir Ddinbych gael mynediad i Fand Eang Ffibr Optig Cyflym Iawn os dymunent yn awr, roedd hygyrchedd ar draws Cymru ar hyn o bryd o ddeutu 85.6%.  Fodd bynnag, y nod cyffredinol oedd bod oddeutu 95% o Sir Ddinbych yn gallu cael mynediad erbyn diwedd y rhaglen gyflwyno;

·                     cynghorodd er bod y ‘cabinetau gwyrdd’ wedi’u gosod yn y rhan fwyaf o ardaloedd erbyn hyn, nid oeddent oll yn weithredol ar hyn o bryd.  Roedd materion gyda chytundebau fforddfraint oedd yn oedi’r dyddiadau gweithredu mewn ardaloedd penodol;

·                     pwysleisiodd bod BT yn gosod isadeiledd i gyflwyno Bang Eang Ffibr Optig Cyflym Iawn i gymunedau, fodd bynnag byddai’n rhaid i ddeiliaid tai neu fusnesau unigol gyflwyno cais am wasanaeth band eang cyflym iawn i’w heiddo, nid oedd unrhyw eiddo’n cael ei gysylltu’n awtomatig i’r rhwydwaith;

·                     cynghorodd fod y gwaith ar y gweill mewn perthynas ag opsiynau cynllunio ar gyfer darpariaeth arfaethedig band eang ffibr optig i'r ardaloedd na allai'r Cysylltiad Ffibr i'r Eiddo eu cyrraedd ar hyn o bryd;

·                     Nododd fod gan BT bolisi ‘peidio dweud na’ a byddai'n ceisio gweithio gyda busnesau, cymunedau ac unigolion i geisio diwallu eu hanghenion. 

Darparwyd manylion ynglŷn â nifer y rhaglenni neu fentrau y gallai preswylwyr, na allent gael mynediad i fand eang ffibr optig gan unrhyw un o'r prif ddarparwyr ar hyn o bryd, elwa ohonynt.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor a’r uwch swyddogion, cynghorodd gynrychiolwyr BT:-

 

·                     fod gwybodaeth ar argaeledd y gwasanaeth Cyflymu Cymru mewn ardal yn cael ei gyfathrebu drwy sticeri ar gabinetau ‘gwyrdd’, hysbysebion mewn papurau newydd lleol a rhanbarthol ac ar fysiau ac ati. Defnyddir cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd i hysbysebu a hyrwyddo argaeledd y gwasanaeth.  Os yw unigolion wedi cofrestru gyda gwefan Cyflymu Cymru byddent yn derbyn e-byst a newyddlenni rheolaidd yn eu cynghori ynglŷn â chynnydd cyflwyno’r gwasanaeth;

·                     y byddai LlC yn derbyn cyfrifoldeb am gyfathrebu Rhaglen Cyflymu Cymru o fis Mehefin 2016, ac roedd trefniadau ar waith i drosglwyddo hyn o BT i LlC. 

Roedd gan BT adnoddau cyfyngol iawn i gefnogi elfen gyfathrebu'r rhaglen gyflwyno.  Er hynny roedd cynrychiolwyr BT wedi mynychu digwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol mewn ymgais i hyrwyddo cyflwyno’r rhaglen.  Er mai tîm bach ydynt byddent yn ceisio gweithio gyda’r Cynghorwyr yn eu cymunedau i hyrwyddo argaeledd Cyflymu Cymru;

·                     mai strategaeth BT oedd galluogi cynifer o eiddo â phosib i ddefnyddio band eang ffibr optig cyflym iawn os dymunent;

·                     y gallai cwsmeriaid sy’n gallu cael mynediad i Gysylltiad Ffibr i’r Cabinet wneud cais am Gysylltiad Ffibr i’r Eiddo, fodd bynnag ni ellir ei ddarparu fel rhan o’r rhaglen gyflwyno bresennol, gan mai nod y rhaglen oedd darparu gwasanaeth ffibr optig cyflym iawn yn y modd mwyaf cost effeithiol.  Roedd Cysylltiad Ffibr i’r Eiddo yn llawer drytach i'w ddarparu.  Mewn achosion o’r fath byddai BT yn derbyn y costau ar gyfer y 1,000m cyntaf ac yna byddai’n rhaid i’r cwsmer dalu gweddill y gost;

·                     Pan fydd ffibr optig yn cael ei ddarparu drwy Gysylltiad Ffibr i’r Cabinet, roedd yn gysylltiad ffibr optig i’r ‘cabinet gwyrdd’ ac yna byddai’n cael ei ddarparu drwy wifren gopr i’r eiddo.  Roedd hyn yn gweithio’n dda am bellter hyd at 3km.  Yr agosaf y mae'r eiddo i’r ‘cabinet gwyrdd' y gorau, gan fod cyflymder yn cael ei golli pan fydd yn rhaid i'r wybodaeth deithio ymhellach ar hyd y wifren gopr;

·                     y gallai gwifrau copr gael eu tynnu'n ôl yn hirdymor ond ni fyddai hyn yn digwydd yn y dyfodol agos.  Roedd cynlluniau peilot ar gyfer mathau eraill o ddarpariaethau cyflymder ffibr yn cael eu profi mewn ardaloedd penodol o’r wlad ar hyn o bryd, roedd y rhain yn cynnwys cynllun peilot G.fast yn Abertawe, oedd yn ystyried darparu cyflymder ffibr drwy'r gwifrau copr, roedd cynllun peilot arall yn treialu system Vectra.  Fodd bynnag, roedd technoleg yn datblygu’n gyflym iawn ac roedd technolegau eraill ar gael yn rheolaidd;

·                     bod tair cyfnewidfa ffôn yn Sir Ddinbych heb eu huwchraddio i ddarparu band eang ffibr optig cyflym iawn, yn Llanarmon-yn-Iâl, Llandegla a Nantglyn, y byddent yn cael eu galluogi ym mis Mehefin 2016. Roedd y gwaith ar y trywydd cywir i gael ei ddarparu.  Byddai gwybodaeth ar gael ar y wefan hefyd yn agosach at yr amser;

·                     y gallai BT nodi pa eiddo na fyddai’n gallu elwa o naill ai’r gwasanaeth Cysylltiad Ffibr i’r Cabinet neu’r gwasanaeth Cysylltiad Ffibr i’r Eiddo, ynghyd â pha rai a nodir fel ardaloedd mannau gwan;

·                     y byddai’r ffigur o 95% ar gyfer eiddo a allai, os ceisir amdano, dderbyn mynediad i fand eang ffibr optig cyflym iawn wedi’i leoli o fewn 3km o’r ‘cabinet gwyrdd’ agosaf.  Efallai y bydd eraill sydd ymhellach na 3km yn derbyn rhywfaint o fudd ar ôl cwblhau cyflwyno'r rhaglen, fodd bynnag efallai bydd oddeutu 5% o eiddo ar draws y sir yn methu â derbyn unrhyw fuddion o'r rhaglen;

·                     mewn ymateb i bryderon ynglŷn â graddau ei gyflwyno yn ardal Rhuddlan a Bodelwyddan, byddant yn gwirio'r wybodaeth ddiweddaraf ac yn adrodd yn ôl i’r Aelodau drwy’r swyddogion;

·                     na roddir blaenoriaeth i fusnesau dros eiddo preswyl o dan Raglen Cyflymu Cymru, ar wahân i'r busnesau sydd wedi'u lleoli mewn parthau menter neu dwf ac nid oedd rhai yn Sir Ddinbych;

·                     eu bod yn ymwybodol bod y diwydiant amaethyddol, conglfaen cymunedau gwledig, yn awr yn dibynnu ar isadeiledd a chysylltedd TG da a dibynadwy, felly roedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno i gymunedau trefol a gwledig ar yr un pryd;

·                     y byddai BT yn darparu isadeiledd band eang ffibr optig i ddatblygiadau tai newydd o dros 200 eiddo heb unrhyw gost ychwanegol i’r datblygwr, a byddai'n fodlon gweithio gyda datblygwyr datblygiadau llai i'w gosod ar y datblygiadau hyn am gostau a rennir.  Fodd bynnag, roedd yn bwysig fod datblygwyr pob safle posibl yn rhoi digon o rybudd i BT o'u cynlluniau i ddatblygu safleoedd;

·                     y byddent yn barod i weithio gyda’r Cyngor, ar ôl darpariaeth y rhaglen benodol yn 2017, i archwilio meysydd i’w gwella gyda’r nod o gefnogi’r economi leol a’i ddatblygu ymhellach yn y dyfodol;

·                     bod LlC wedi gosod targed o gyflawni 96% o ddarpariaeth band eang ffibr optig cyflym iawn ar draws Cymru, ar gyfer eiddo masnachol a phreswyl – roedd y targed hwn yn cynnwys ffibr optig wedi’i ddarparu gan yr holl ddarparwyr e.e. Virgin ac ati. Roedd wedi rhoi’r dasg i BT i ddarparu band eang ffibr optig cyflym iawn i 95% o’r ‘ardal ymyrryd’ – yr ardal a ddynodwyd yn 2011 nad oedd darparwyr masnachol yn debygol o fuddsoddi ynddynt erbyn 2017;

·                     bod LlC wedi cydnabod na fyddai 4% o Gymru yn gallu cael mynediad i fand eang ffibr optig erbyn 2017 ac y byddai 5% o’r ‘ardal ymyrryd’ hefyd yn methu â chael mynediad i’r gwasanaeth.  Ar ddiwedd cyfnod y contract byddai adolygiad marchnad agored yn cael ei gynnal;   

·                     y gallai preswylwyr a busnesau wirio a oedd y gwasanaeth ffibr optig ar gael yn eu hardal drwy ddefnyddio’r teclyn ‘Gwirio Band Eang’ ar wefan Cyflymu Cymru BT.  Gellir defnyddio’r gwiriwr fel canllaw ar gyfer cyflymder 'lawrlwytho' ac 'uwchlwytho' pe bai'r unigolyn neu'r busnes yn dewis darpariaeth ffibr optig.

·                     eu bod yn cydnabod fod lwfans gwallau yn gysylltiedig â defnyddio cyfleuster chwilio am god post gan na fyddai pob eiddo o fewn ardal cod post yn gallu elwa o’r gwasanaeth ffibr optig;

·                     y dylid trin ffigur Cymru gyfan o ran nifer yr eiddo sy'n gymwys ar gyfer ffibr optig gyda gofal, gan y gallant nodi fod gan Sir Ddinbych rif is (gwirioneddol a chanran) o eiddo cymwys na nifer o awdurdodau lleol eraill. 

Y rheswm dros hyn yw y gallai ffigurau siroedd eraill gynnwys cyflwyniadau masnachol mawr yn y sir honno, rhywbeth nad oedd gan Sir Ddinbych.  Yr unig ardaloedd yn Sir Ddinbych i elwa o wasanaeth ffibr optig masnachol oedd y Rhyl a Phrestatyn, roedd rhwydwaith ffibr optig cyflym yn gwasanaethu Parc Busnes Llanelwy hefyd.  Roedd Sir Ddinbych yn debygol o gael mwy o Gysylltiadau Ffibr i’r Eiddo na’r siroedd eraill, ar ôl cwblhau cyflwyniadau unigol byddai cyfanswm yr eiddo cymwys yn Sir Ddinbych yn cynyddu;

·                     er bod map lleoliad ar gyfer ‘cabinetau gwyrdd’ ar gael ni ellir rhannu hyn gyda sefydliadau allanol nac unigolion gan ei fod yn cyfrif fel gwybodaeth o fath ‘diogelwch gwladol'.

·                     bod y gyfradd sy’n manteisio ar fand eang ffibr optig cyflym iawn yn ardaloedd o Sir Ddinbych lle bo’r ‘cabinetau gwyrdd’ yn weithredol oddeutu 25%.  Rhagwelwyd y byddai hyn yn cynyddu i oddeutu 40% erbyn canol 2017. Roedd y cyfraddau yn yr ardaloedd gwledig yn llawer uwch na’r ardaloedd trefol ar hyn o bryd;

·                     roedd y rhesymau pam nad oedd pobl yn manteisio ar fand eang ffibr optig cyflym iawn yn amrywio h.y. rhai yn credu eich bod yn cael eich cysylltu'n awtomatig, diffyg sgiliau TG, costau'n atal rhai tra bo eraill eisoes yn fodlon â chyflymder eu gwasanaeth presennol ac ati;

·                     mewn perthynas â datblygiad Cynllun Datblygu Lleol Bodelwyddan byddai disgwyl i’r datblygwr gysylltu â darparwr cyfathrebu ynglŷn â gosod darpariaeth ffibr optig cyflym iawn.  Ni fyddai’n briodol i BT gysylltu â’r datblygwr oherwydd efallai y byddant eisiau dewis darparwyr amgen;

·                     Ers dechrau Rhaglen Cyflymu Cymru roedd 50,000 eiddo ychwanegol wedi’u hychwanegu at y rhaglen waith, a dyna pam yr estynnwyd y rhaglen i 2017;

·                     cydnabyddir fod cysylltedd yn rhan allweddol o fywyd dydd i ddydd yn yr 21ain Ganrif, roedd cyflymder trosglwyddo data o 20Mbps (megabeit yr eiliad) yn fwy na digon ar gyfer aelwyd.  Po agosaf yr oedd yr eiddo i’r ‘cabinet gwyrdd’ yr uwch yr oedd y cyflymder trosglwyddo data, gallai fod mor uchel â 80Mbps.  Byddai cyflymder trosglwyddo data'n cael ei golli os oedd yr eiddo yn bellach o'r cabinet gwyrdd h.y. dros 3km o'r cabinet gwyrdd lle y gallai'r cyflymder trosglwyddo leihau i 10Mbps o bosib.  Gallai cyflwr y gwifrau mewnol yn yr eiddo effeithio ar gyflymder trosglwyddo data hefyd, ynghyd â chysylltiad diwifr;  

·                     rhagwelir erbyn gorffen cyflwyno’r rhaglen byddai gan 95% o eiddo yn Sir Ddinbych fynediad i fand eang cyflym iawn petaent yn dewis ei dderbyn, a gallant ddisgwyl cyflymder cyfartalog trosglwyddo data oddeutu 24Mbps.

·                     fod gan LlC Dîm Ecsbloetio Buses oedd yn cynnig adolygiadau isadeiledd TG am ddim i fusnesau;

·                     bod BT wedi llofnodi cytundeb noddi gydag Undeb Rygbi Cymru, fel rhan o’r cytundeb hwn roeddent yn ystyried sut y gallant ddefnyddio Undeb Rygbi Cymru i hyrwyddo nwyddau ac ati, gan gynnwys dyddiadau gweithredu ‘cabinet gwyrdd' penodol;

·                     roedd y neges ar wefan Gwirio Band Eang Cyflymu Cymru yn cael ei ddiwygio i annog preswylwyr oedd yn byw mewn ardaloedd mannau gwan i ymchwilio datrysiadau amgen posibl;

·                     fod y sefyllfa o ran cyflwyno gweddill y rhaglen yn parhau’n llyfn.  Fodd bynnag, wrth i ddyddiadau gweithredu ddod yn nes byddent mewn gwell sefyllfa i benderfynu a fyddai unrhyw oedi;

·                     ei bod yn rhy gynnar i grynhoi pa effaith yr oedd caffael darparwr symudol EE gan BT yn ddiweddar yn ei gael ar fand eang yn y dyfodol, darpariaeth symudol 4G neu ardaloedd mannau gwan yn y sir;  

 

Darllenodd y Cadeirydd e-byst a dderbyniwyd gan breswylwyr  oedd yn pryderu am ddiffyg cynnydd, a'r gohebiaethau dryslyd oedd yn cael eu cyhoeddi, mewn perthynas â chyflwyno Rhaglen Cyflymu Cymru yn ardaloedd Pentrecelyn a Charrog.  Cynghorodd BT efallai bod dryswch ynglŷn â dyddiadau ‘gweithredu cyfnewidfa’ a ‘dyddiadau gweithredu cabinet gwrydd'.  Hefyd pe bai dwythellau’n cael eu gosod byddai hyn yn nodi efallai y byddai’r dyddiad gweithredu gwirioneddol ryw ddau neu dri mis yn y dyfodol.  Roedd oedi hefyd pan fo peirianwyr yn cael mynediad i ddwythellau i osod y ceblau ffibr optig ac roeddent yn darganfod fod rhai heb eu hagor ers blynyddoedd ac wedi malu.  Roedd yn rhaid atgyweirio’r rhain cyn y gellir dechrau unrhyw waith gosod, gan achosi oedi.  Gofynnodd cynrychiolwyr BT am gopi o ymholiad Carrog er mwyn gallu cyflawni ymholiadau pellach.

 

Eglurodd cynrychiolwyr BT y byddent yn darparu map yn nodi ardaloedd masnachol ac ardaloedd ‘ymyrryd’ yn Sir Ddinbych, yn nodi’r ardaloedd a alluogwyd hyd yn hyn, y rhai a gynlluniwyd ar gyfer gweddill y rhaglen, a manylion ardaloedd mannau gwan gyda manylion niferoedd sy'n manteisio ar ffibr optig ar draws y sir.  Maent hefyd wedi cytuno i holi LlC a Llywodraeth y DU a ellir gwneud mwy i sicrhau fod datblygwyr yn cynnwys cynlluniau gosod llinell ffôn / ffibr optig yn eu cynlluniau gwasanaethau wrth gynllunio safleoedd datblygu.

 

Anogodd yr Aelodau BT i rannu'r holl wybodaeth sydd ar gael gyda'r Aelodau Etholedig, undebau ffermio a chynrychiolwyr busnes gyda'r nod o gynyddu'r nifer sy’n cofrestru ar gyfer darpariaeth band eang ffibr optig cyflym iawn.  Gofynnwyd i'r Bwrdd Uchelgais Economaidd a Chymunedol / Adran Gynllunio nodi bod angen i ddatblygwr safle Bodelwyddan wneud y trefniadau priodol er mwyn gallu gosod darpariaeth ffibr optig cyflym iawn ar y safle.

 

Cadarnhaodd yr aelodau a’r swyddogion eu parodrwydd i weithio gyda BT i hyrwyddo argaeledd Band Eang Cyflym Iawn i fusnesau, sefydliadau a chymunedau yn Sir Ddinbych.  Fe wnaethant hefyd ymrwymo i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt rannu map BT/LlC ar gynnydd darpariaeth ffibr optig cyflym iawn yn Sir Ddinbych a’r ardaloedd mannau gwan gyda’r Cyngor a budd-ddeiliaid gyda'r nod o gynyddu'r niferoedd sy'n cofrestru a chynorthwyo preswylwyr sydd methu ag elwa o'r rhaglen i geisio datrysiadau amgen.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr BT am fynychu ac ateb cwestiynau’r Aelodau.  Felly:

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar y sylwadau uchod, a chynnydd y camau a nodwyd, y dylid derbyn y cyflwyniad.