Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0427/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif  15/0427/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/0427/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol wrth ymgymryd â chontract cludiant ysgol;

 

(ii)          manylion ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi (roedd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad);

 

(iii)         y Gyrrwr wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i gefnogi'r adolygiad o'i drwydded a oedd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad, a

 

(iv)         bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod tra adolygir ei drwydded er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod yng nghwmni ei Gynrychiolydd Undeb a chyd-dyst.  Cadarnhaodd y Cynrychiolydd Undeb dderbyn yr adroddiad a'r gweithdrefnau pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu yr achos fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Cyflwynodd y Cynrychiolydd Undeb achos y Gyrrwr.  Dywedodd nad oedd y datganiadau tystion wedi’u teipio a gyflwynwyd gan y Swyddog Ymchwilio wedi cael eu llofnodi a gofynnodd am iddynt gael eu diystyru.  Cyflwynodd hefyd nad oedd yr ymchwiliad wedi cael ei gynnal mewn modd teg ac agored gan amlygu lle roedd yn ystyried bod yna feysydd o ragfarn o fewn yr achos.  Dadleuwyd nad oedd llwybrau ymholiadau penodol a allai fod wedi bod o blaid y Gyrrwr wedi cael eu dilyn a chwestiynwyd hefyd hygrededd tystiolaeth benodol.  Cyflwynwyd hefyd sylwadau ynglŷn â safon y dystiolaeth sy'n ofynnol mewn achosion o'r fath o ystyried bod yr hawl i apelio trwy’r Llys Ynadon.  O ran yr honiadau a nodwyd yn yr adroddiad, eglurodd y Cynrychiolydd Undeb yr honiadau hynny a gyfaddefwyd gan y Gyrwyr a'u rhoi mewn cyd-destun, gan roi fersiwn y Gyrrwr o’r digwyddiadau.  Cafodd y pwyllgor hefyd wybod am yr honiadau a wadwyd gan y Gyrwyr.  Amlygwyd nad oedd unrhyw gwynion wedi’u gwneud yn erbyn y Gyrrwr gan ddefnyddwyr gwasanaeth eraill neu'r cyhoedd.  O ystyried y dystiolaeth wrthgyferbyniol a gyflwynwyd a’r  gefnogaeth a fynegwyd yn y geirdaon (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gofynnodd y Cynrychiolydd Undeb i’r Gyrrwr gael cadw ei drwydded a pharhau fel gyrrwr trwyddedig.

 

Ar y pwynt hwn trafodwyd y mater o ddatganiadau tystion heb eu harwyddo, a dosbarthwyd copïau o'r datganiadau tyst gwreiddiol wedi’u llofnodi. Dadleuodd y Cynrychiolydd Undeb nad oedd wedi cael y cyfle i edrych ar y dogfennau a gofynnodd am iddynt gael eu diystyru er budd gwrandawiad teg.  Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd safbwynt cyfreithiol ar y sefyllfa a thegwch y trafodion.  Cadarnhaodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu bod y datganiadau wedi cael eu teipio i sicrhau eu bod yn ddarllenadwy a’u bod wedi cael ei gwirio am gywirdeb.  Torrodd y pwyllgor i ystyried y dadleuon cyfreithiol.  Ar ôl ailddechrau'r trafodion dywedwyd wrth bawb am benderfyniad y pwyllgor i dderbyn y datganiadau fel tystiolaeth a pharhau â’r achos.  Nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod annhegwch sylweddol ar y sail y rhoddwyd sicrwydd gan y Swyddog Gorfodi Trwyddedu, a oedd â dyletswydd o onestrwydd i'r pwyllgor, bod y fersiynau a deipiwyd wedi'u trawsgrifio’n gywir a bod yr wybodaeth a gynhwyswyd yn y datganiadau wedi bod ar gael ymlaen llaw a gallent fod wedi eu hegluro yn gynharach yn y broses.  Wrth wneud eu penderfyniad roedd y pwyllgor hefyd wedi ystyried cyngor gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ynglŷn â safon y dystiolaeth ofynnol.  Eglurwyd bod penderfyniad y pwyllgor ynghylch a oedd y Gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yn seiliedig ar yr hyn sy'n debygol.  Nid oedd y pwynt bod y llwybr apêl i’r Llys Ynadon yn newid y ffaith honno o ystyried nad oeddent yn eistedd ar sail droseddol wrth ystyried apeliadau o'r fath ac felly nid oedd baich y dystiolaeth tu hwnt i bob amheuaeth resymol.  Gallai cyfweliadau a gynhaliwyd o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol eu defnyddio mewn achosion sy'n cynnwys tebygolrwydd a safonau tystiolaeth troseddol.

 

Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i holi'r Gyrrwr a'i dystion ynglŷn â ffeithiau'r achos er mwyn canfod a oeddent yn ystyried y Gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded.  Eglurodd y tyst ei berthynas â'r Gyrwyr a maint ei ran yn yr achos a’r dystiolaeth y gallai ategu.  Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau ynghylch yr honiadau a wnaed ac ymhelaethodd ar amgylchiadau'r digwyddiadau ac anghysondebau penodol rhwng ei fersiwn o ddigwyddiadau a datganiadau tystion.

 

Cymerodd y Cynrychiolydd Undeb y cyfle i wneud datganiad terfynol.  Cyfeiriodd at y modd yr oedd y Gyrrwr wedi ymateb i sefyllfaoedd arbennig heb y fantais o hyfforddiant ffurfiol priodol fel y gofynnwyd yn flaenorol gan y pwyllgor.  Nid oedd unrhyw wadu bod camgymeriadau wedi eu gwneud neu na ellid dysgu gwersi o'r broses.  Fodd bynnag, gan gymryd i ystyriaeth yr esboniad o'r digwyddiadau a gwadu honiadau penodol, ac o ystyried y pryderon a godwyd ynghylch y broses ymchwilio, gofynnodd i’r Gyrrwr gael cadw ei drwydded a chael cymorth priodol er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau yn yr achos hwn.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif  15/0427/TXJDR.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yn ofalus cynnwys yr adroddiad a’r sylwadau a gyflwynwyd gan y Gyrrwr yn yr achos hwn a’i ymateb i gwestiynau.  Canfu'r pwyllgor, yn ôl yr hyn sy'n debygol, fod y Gyrrwr wedi ymddwyn mewn ffordd amhriodol gan resymau ei weithredoedd, y rhai yr oedd wedi eu cyfaddef a’r rhai yr oedd y pwyllgor wedi dod o hyd iddynt.  Roedd y camau gweithredu hynny wedi achosi i'r pwyllgor ystyried nad oedd y gyrrwr yn berson addas a phriodol i ddal trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat.  Roedd y pwyllgor yn arbennig o bryderus am ymddygiad amhriodol a sylwadau tuag merch 16 mlwydd oed.  O gofio mai eu hystyriaeth bwysicaf oedd gwarchod y cyhoedd, roedd yr aelodau o blaid diddymu'r drwydded ar unwaith am resymau diogelwch y cyhoedd.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr a’i Gynrychiolydd Undeb.  Gan nad oeddent wedi cael cyfle blaenorol i ymateb i'r sail am ddiddymu am resymau diogelwch y cyhoedd, gwahoddwyd y Gyrrwr a'i Gynrychiolydd Undeb i roi sylwadau yn hynny o beth.

 

Dadleuodd y Cynrychiolydd Undeb nad oedd y dystiolaeth wedi cael ei phrofi’n briodol yn yr achos hwn ac ailadroddodd bryderon ynghylch y broses ymchwilio.  Tynnodd sylw'r aelodau at y geirdaon ysgrifenedig yn ardystio cymeriad da'r Gyrrwr a dywedodd nad oedd cyfiawnhad am ddiddymu’r drwydded ar unwaith yn yr achos hwn.

 

Torrodd y pwyllgor i ystyried sail y diddymiad a -

 

PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gyrrwr rhif  15/0427/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

Ar ôl ystyried y sylwadau a gyflwynwyd ar ran y Gyrrwr o ran y sail ar gyfer diddymu, roedd yr aelodau’n parhau i fod o'r farn, o ystyried eu pryderon ynghylch ei ymddygiad, y dylid diddymu’r drwydded ar unwaith ar sail diogelwch y cyhoedd.  Mynegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd benderfyniad y pwyllgor i'r Gyrwyr a'i Gynrychiolydd Undeb ac eglurodd oblygiadau'r penderfyniad hwnnw.  Cynghorwyd y Gyrwyr a'i Gynrychiolydd Undeb hefyd y byddent yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad a'r rhesymau dros y penderfyniad yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol ynghyd â'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.50pm.

 

Dogfennau ategol: