Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) i roi
gwybod i Aelodau am gasgliad a chynigion gwella SAC, ac i sicrhau cymeradwyaeth
y Cyngor o ymateb i'r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Arweinydd Arweiniol dros Gyllid ac Asedau,
Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru (a ddosbarthwyd eisoes) i
roi gwybod i’r Cyngor am ganlyniad y Swyddfa Archwilio a chynigion ar gyfer
gwella, ac i gael cymeradwyaeth y Cyngor o ran ymateb i’r Adroddiad.
Yn unol â’r Mesur
Llywodraeth Leol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal adolygiad blynyddol o
gynnydd y Cyngor wrth gyflawni ei amcanion, a’r rhagolygon ar gyfer parhau i
wella yn y flwyddyn i ddod.
Cadarnhaodd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury, mai hwn fyddai’r adroddiad
Blynyddol olaf yn ei ffurf bresennol. Yn y dyfodol, byddai pedwar adroddiad
byrrach yn cael eu llunio yn ystod y flwyddyn, fel a ganlyn:
(i)
Cydnerthedd
ariannol;
(ii)
Trefniadau
Gweddnewid;
(iii)
Trefniadau
llywodraethu a
(iv)
Threfniadau
corfforaethol.
Yn gyffredinol,
roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn ac ni wnaed argymhellion, fodd bynnag,
roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at rai meysydd a oedd yn peri pryder lle’r
ystyrid bod angen mwy o waith. Roedd y rhain fel a ganlyn:-
· Daeth AGGCC i’r casgliad nad oedd y
trefniadau o ran diogelu oedolion sy’n agored i niwed yn foddhaol. Mynegodd y
rheoleiddiwr bryderon hefyd ynglŷn â’r ffordd y caiff ansawdd Gofal y Cartref ei fonitro. Cymerwyd nifer o
gamau i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.
· Roedd presenoldeb aelodau yng
nghyfarfodydd Archwilio wedi lleihau, ynghyd â phresenoldeb Aelodau Archwilio
yng nghyfarfodydd Her y Gwasanaethau. Roedd y Cyngor wedi cymryd camau i geisio
gwella’r sefyllfa.
· Dylai’r Cyngor ffurfioli ei ddull o
ddefnyddio modelau cyflenwi amgen, er mwyn nodi gwerth am arian yn fwy eglur.
Cynigir hefyd y dylai’r Cyngor atgyfnerthu ei ddull o gynhyrchu incwm er mwyn
gwella cysondeb. Mae’r Cyngor eisoes wedi datblygu nifer o fodelau cyflenwi
amgen llwyddiannus.
· Gwerthusiad Estyn o berfformiad ysgolion.
Yn gyffredinol, roedd y gwerthusiad yn gadarnhaol. Roedd perfformiad Sir Ddinbych wedi gwella
rhywfaint ers y llynedd ond wedi gostwng ychydig o’i gymharu â Chynghorau
eraill. Gofynnodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg am gymryd arian i ystyriaeth
oherwydd fod un Cyngor yn ne Cymru wedi derbyn £4miliwn ond £800,000 yn unig a
roddwyd i wella ysgolion ar draws Gogledd Cymru.
Trafodwyd y mater
yn helaeth a chodwyd y pwyntiau a ganlyn:
· Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer
cynyddol o bobl ag anawsterau dysgu ac anghenion cymhleth yn aml o’r tu allan
i’r sir a hyd yn oed y tu hwnt i Gymru wedi cael eu lleoli gyda darparwyr
annibynnol yn Sir Ddinbych. Canfu AGGCC fod nifer sylweddol o bobl yn y
gwasanaethau hyn yn annhebygol o fod yn hysbys i’r Cyngor, ac y bydd angen
iddynt efallai, ar ryw adeg, fanteisio ar wasanaethau iechyd a gofal
cymdeithasol sylfaenol, a manteisio hefyd ar ddiogelwch y prosesau diogelu a
weithredir gan y Cyngor. Byddai angen i’r Cyngor (a phartneriaid) wneud mwy o waith
i asesu a rhagweld angen ac adnoddau yn y dyfodol yn hyn o beth, ac ystyried
effaith bosibl unrhyw newid o’r cymorth dwys i leoliadau cymunedol yn y sir.
· Er bod presenoldeb aelodau yng
nghyfarfodydd y pwyllgorau Archwilio wedi bod yn broblem roedd gan Sir Ddinbych
bwyllgorau Archwilio effeithiol a dyma un o’r rhesymau pam yr oedd Sir Ddinbych
yn Awdurdod Lleol mor llwyddiannus.
· Cyflenwi Gwasanaethau – roedd Sir Ddinbych
wedi llwyddo i gyflenwi’r un gwasanaethau ag a wnaeth 5-6 blynedd yn ôl ond
gyda llawer llai o arian. Yn anffodus, nid oedd yr adroddiad yn cydnabod hyn.
· Mae Sir Ddinbych yn Sir uchelgeisiol.
Roedd ysgolion newydd yn mynd i gael eu hagor ar draws y sir a fyddai’n
fanteisiol iawn i ddisgyblion.
· Roedd trefniadau monitro yn eu lle a oedd
yn rhan o Brotocol yr Awdurdod Lleol.
Eglurodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau fod Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa
Archwilio Cymru yn ymdrin â’r flwyddyn ariannol 14 mis yn ôl. Roedd crynodeb
o’r gwelliannau a wnaed er 2014/15 wedi bod ar gael er gwybodaeth. Roedd prosesau wedi gwella’n sylweddol ac
roedd AGGCC wedi gweld gwelliannau yn digwydd yn gyflym.
Mae Sir Ddinbych
yn cymryd y lleoliadau o’r tu allan i’r sir o ddifrif. Roedd protocolau yn eu
lle gydag Awdurdodau Lleol yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd fod bob amser lle i
wella ac roedd Sir Ddinbych yn gweithio’n agos gyda’r darparwyr.
Mynegodd y Prif
Weithredwr ei ddiolch i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru am yr adroddiad
cadarnhaol. Cadarnhaodd fod Sir Ddinbych yn ymateb i welliant ar bob cyfle.
Cyfeiriwyd at ddulliau cyflenwi amgen ond byddai cyfyngiadau ariannol yn
ffactor pwysig yma a byddent yn cael eu trafod o fewn proses y gyllideb.
Dywedodd y Prif
Weithredwr ei fod wedi ymrwymo i ganlyniadau gwell ac yn ei farn ef, nid oedd
canlyniadau’r ysgolion gystal ag yr oeddynt 2-3 blynedd yn ôl.
Diolchodd y Prif
Weithredwr gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury a’i gydweithwyr
am eu holl waith gan iddynt ddod i nifer o gyfarfodydd.
Gofynnodd y
Cadeirydd i’r aelodau ddangos eu dwylo i dderbyn yr adroddiad. Derbyniwyd yr adroddiad yn unfrydol.
PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, bod y Cyngor yn nodi ac yn derbyn Adroddiad Gwella
Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru.
Dogfennau ategol:
- 10 05 16 Council - WAO AIR Report (Cymraeg), Eitem 9. PDF 131 KB
- 214A2016-denbighshire-cym, Eitem 9. PDF 574 KB