Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 3 – 2015/16
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi
wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17
ar ddiwedd chwarter 3 2015/16.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn
nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd
chwarter 3 2015/16.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf hyd at ddiwedd chwarter 3 o 2015/16
am gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 – 17.
Roedd yr adroddiad perfformiad yn crynhoi’r
sefyllfa o ran pob canlyniad ac yn dadansoddi unrhyw eithriadau allweddol. Cafodd pob canlyniad ei werthuso’n dderbyniol
neu’n well. Esboniwyd beth oedd wrth
wraidd statws pob dangosydd ac ymhelaethwyd ymhellach yn y cyfarfod ar faterion
allweddol ynghyd â’r hyn a gyflawnwyd yn chwarter 3. Roedd y Pwyllgor Archwilio – Perfformiad wedi
ystyried yr adroddiad ac wedi galw materion yn ymwneud â’r dangosyddion addysg
a thai i mewn i graffu ymhellach arnynt.
Roedd Bwrdd Gwella’r Cynllun Corfforaethol wedi cael ei sefydlu i
fonitro sut y cyflawnir y Cynllun dros ddeunaw mis olaf y weinyddiaeth.
Wrth ystyried yr adroddiad trafododd yr aelodau’r
canlynol –
·
Dangosydd
JHLAS03i – nodwyd bod y dangosydd hwn yn wyrdd wrth fesur y blynyddoedd o
gyflenwad tir tai a bod hynny’n anghyson â’r sgôr goch yn Adroddiad Blynyddol y
CDLl a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio’i dull cyfrifyddu hi. Roedd y swyddogion yn amau bod y casgliadau
hyn sy’n groes i’w gilydd i’w priodoli i ddefnyddio mesur gwahanol ond
cytunasant i ymchwilio i’r mater ymhellach ac adrodd yn ôl
·
CES111a
– roedd lleihau’r ddibyniaeth ar lety symudol wedi cael ei ddyfarnu’n las
(wedi’i gwblhau) am fod polisi wedi’i sefydlu i fynd i’r afael â’r mater hwnnw;
nodwyd bod nifer y lleoedd ysgol a ddarparwyd drwy ystafelloedd dosbarth
symudol wedi cael ei ddyfarnu’n felyn o ran ysgolion cynradd ac oren i’r rhai
uwchradd
·
roedd
y perfformiad yn erbyn y dangosydd i ddisgyblion sy’n cyrraedd trothwy lefel 2
yn cynnwys Cymraeg/Saesneg a Mathemateg wedi cynyddu o 55% yn 2013-14 i 56% yn
2014-15. Fodd bynnag, golygai’r
gwelliant mewn rhannau eraill o Gymru fod perfformiad Sir Ddinbych wedi gostwng
islaw’r canolrif a châi ei ystyried yn flaenoriaeth wella. Dywedodd y Cynghorydd Eryl Williams fod y
dangosydd yn annheg oherwydd y gwahaniaeth enfawr yn yr arian sy’n cael ei
ddyrannu gan Lywodraeth Cymru i’w wario ar wella ysgolion a chodi safonau ar
draws y rhanbarth
·
THS012:
% y prif ffyrdd (A) a’r ffyrdd eraill (B) ac (C) sydd mewn cyflwr gwael yn
gyffredinol – cydnabuwyd y gallai’r dangosydd gwyrdd fod yn gamarweiniol ond
mewn gwirionedd roedd yn ganlyniad cadarnhaol gyda’r lefel sydd mewn cyflwr
gwael wedi gostwng drwyddi draw. Nid
oedd yn bosibl newid y geiriad i’w wneud yn gliriach gan fod y dangosydd yn
cael ei osod yn genedlaethol. Soniodd y
Cynghorydd David Smith am y ffigurau diweddaraf sydd ar gael a oedd yn dangos
gwelliant yng nghyflwr prif ffyrdd a ffyrdd eraill er 2012. Cydnabuwyd ei bod yn her cynnal ffyrdd y sir
yn barhaus
·
roedd
y dangosydd coch o ran argaeledd band eang yn bryder difrifol a oedd wedi’i alw
i mewn i graffu arno a byddai’r oedi’n cael ei drafod yn uniongyrchol gyda BT
·
Arolwg
Trigolion 2015 – defnyddiwyd yr ymatebion diweddaraf fel sail i ganlyniadau’r
cynllun ac roedd yn siom, os nad yn syndod, nodi bod lefelau boddhad cwsmeriaid
yn dal yn goch ac nad oedd yr adroddiad cadarnhaol at ei gilydd yn cael ei
adlewyrchu yn ymatebion trigolion
·
Trefi
a Chymunedau Bywiog – roedd gweithgareddau’n ymwneud â’r Clwb Mêl a Queen
Street, y Rhyl wedi cael eu dyfarnu’n wyrdd gan fod gwaith y Cyngor yn y
cyswllt hwnnw yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen – gofynnodd y Cabinet am fwy
o eglurder yn adroddiadau’r dyfodol o ran pa elfen perfformiad o’r prosiect
oedd yn cael ei mesur
·
roedd
y gyfradd digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn uchel oherwydd y ffordd y caiff
digwyddiadau eu cofnodi yn y sir ac nid oedd y ffigurau wedi cynyddu yn sgil
cyflwyno taliadau gwastraff gwyrdd
·
roedd
nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn dibynnu i raddau helaeth ar faint
a hyfywdra datblygiadau tai.
Roedd y Cabinet yn falch o nodi fod yr adroddiad
yn gadarnhaol at ei gilydd a bod y pwyllgorau archwilio wedi galw nifer o
faterion i mewn er mwyn eu harchwilio ymhellach.
PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r cynnydd o ran cyflawni
Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 fel yr oedd y sefyllfa ar ddiwedd chwarter 3 o
2015/16.
Dogfennau ategol:
- CORPORATE PERFORMANCE REPORT Q3, Eitem 8. PDF 86 KB
- CORPORATE PERFORMANCE REPORT Q3 - APPENDIX, Eitem 8. PDF 2 MB