Eitem ar yr agenda
Y RHYL YN SYMUD YMLAEN – ADOLYGU A CHAMAU NESAF
Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros yr Economi
(copi'n amgaeedig) yn amlinellu adolygiad o'r cynnydd gyda Rhaglen Adfywio y
Rhyl yn Symud Ymlaen ac asesiad o le mae angen i'r Rhaglen fynd nesaf.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) nodi'r cynnydd a wnaed â phrosiectau adfywio yn y Rhyl;
(b) cymeradwyo'r cynigion ar gyfer y cam nesaf o weithgaredd adfywio yn y Rhyl
a nodir isod ac a ddangosir yn Atodiad 2 yr adroddiad a chytuno y dylid eu
defnyddio i lywio blaenoriaethau ar gyfer unrhyw gyllid adfywio a allai fod ar
gael; a
(c) cymeradwyo'r trefniadau rheoli rhaglen a llywodraethu a nodir isod yn yr
adroddiad ac a ddangosir yn Atodiad 3 yr adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn adolygu cynnydd Rhaglen Adfywio Y Rhyl Yn
Symud Ymlaen a chynigion o ran gweithgarwch adfywio i’r dyfodol. Roedd y Rhyl wedi bod yn flaenoriaeth adfywio
am fwy na deng mlynedd.
Crynhodd y
Cynghorydd Evans yn adroddiad a oedd yn rhoi rhywfaint o gyd-destun hanesyddol
i ddirywiad trefi glan y môr ac asesiad o weithgarwch adfywio blaenorol yn y
Rhyl. Roedd angen ymdrin â gweithgarwch
adfywio yn y dyfodol drwy gydweithio.
Roedd croeso arbennig i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i nifer o
gynlluniau, yn fwyaf diweddar prosiect Glan y Môr, ynghyd â phartneriaethau a
buddsoddiad sector preifat. Y nod oedd
ail-greu’r Rhyl fel lle dymunol i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef, ac er
bod hynny’n her enfawr teimlai’r Cynghorydd Evans fod cynllun cydlynol wedi’i
sefydlu erbyn hyn ac y gellid gwneud cynnydd drwy’r strategaethau adfywio a’r
cynigion ar gyfer cam nesaf y gwaith, yn unol â’r manylion yn yr adroddiad.
Tynnodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a Thir y Cyhoedd sylw at nifer o
lwyddiannau a chyfeiriodd at y meysydd hynny lle’r oedd angen gwaith pellach a
lle nad oedd y canlyniadau cystal â’r disgwyl.
Dywedodd y dylai’r ffocws fod ar weithgareddau sy’n cynyddu nifer yr
ymwelwyr â’r dref, yn denu trigolion sy’n fwy gweithgar yn economaidd i fyw yn
y Rhyl, yn mynd i’r afael ag argraffiadau negyddol, ac yn meithrin hyder a thwf
busnesau. O ganlyniad roedd tair ffrwd
waith wedi’u hawgrymu, yn cynnwys prosiectau sy’n canolbwyntio ar Dwristiaeth
ac Ymwelwyr, Canol y Dref a Byw a Gweithio yn y Rhyl. Argymhellwyd bod y Cabinet yn cymeradwyo’r
cynigion hynny ynghyd â threfniadau i reoli a llywodraethu’r rhaglenni.
Croesawai’r
Cabinet y cynllun i fynd i’r afael ag adfywio yn y Rhyl a’r cynigion i ddenu
pobl yn ôl i’r dref ar draws y tair ffrwd waith. Y gobaith oedd gallu efelychu llwyddiant
gwreiddiol yr Heulfan gyda chyfres o atyniadau gan na fyddai unrhyw welliannau
i’r ddarpariaeth fanwerthu yn ddigon ynddynt eu hunain i ddenu pobl yn ôl i’r
Rhyl. Tynnwyd sylw hefyd at yr angen i
gynhyrchu incwm cynaliadwy ynghyd â buddsoddi parhaus mewn cyfleusterau fel bod
y ddarpariaeth hamdden wastad yn ffres a chyffrous. Cytunai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol na fyddai
darpariaeth fanwerthu yn unig yn cynnal y dref ac ymhelaethodd ar brosiect Glan
y Môr a fyddai’n darparu gweithgareddau, digwyddiadau a chyfleusterau ac yn
cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r dref, gan gyfrannu’n gadarnhaol at yr
adfywio. Ymddiheurodd hefyd na
chyfeiriwyd at y cynnydd o ran cyflwyno traeth y Rhyl am wobr glan y môr a
chytunodd i gylchredeg y wybodaeth honno i’r aelodau.
Dywedodd y
Cynghorydd Joan Butterfield fod Aelodau’r Rhyl yn llwyr gefnogi’r Rhyl fel
blaenoriaeth adfywio ond mynegodd nifer o bryderon, fel a ganlyn –
·
y
diffyg mewnbwn gan Aelodau’r Rhyl wrth lunio’r cynllun adfywio a’r ffaith nad
ydynt yn rhan o’r byrddau prosiect sy’n goruchwylio cynlluniau penodol
·
y
diffyg buddsoddi ar gynnal cyfleusterau’r Rhyl, megis y Tŵr Awyr a’r
Heulfan, tra buddsoddir mewn cyfleusterau mewn rhannau eraill o’r sir
·
pryderon
ynglŷn â’r oedi ar ran Grŵp Tai Pennaf (sy’n cynnwys Cymdeithas Tai
Clwyd Alyn) rhag gwireddu elfen datblygu tai Prosiect Gwella Tai Gorllewin y
Rhyl
·
tynnodd
sylw at y buddsoddi sylweddol yng Ngorllewin y Rhyl a oedd wedi arwain at ddim
effaith, neu effaith fach iawn, ar ganlyniadau, a diffyg buddsoddi mewn
ardaloedd eraill
·
croesawai’r
buddsoddi yn Ysgol Newydd y Rhyl ond nododd na fu unrhyw gynnydd pellach o ran
yr Ysgol Ffydd newydd.
Ymatebodd yr
Aelodau Arweiniol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol i’r materion a godwyd fel a
ganlyn –
·
cafodd
yr adroddiad ei rannu gydag Aelodau’r Rhyl cyn ei gyflwyno i’r Cabinet a byddai
unrhyw gynigion adfywio newydd yn cael eu croesawu a’u hystyried
·
roedd
y strwythur llywodraethu yn dangos rhan Aelodau’r Rhyl ar Grŵp Cyfeirio’r
Rhyl a’r Pwyllgorau Archwilio a byddent hefyd yn cael eu cynnwys ar wahanol
fyrddau prosiect penodol – roedd aelodaeth y Bwrdd Cyfleusterau Arfordirol a
Bwrdd Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl hefyd yn cynnwys Aelodau o’r Rhyl
·
soniwyd
am y buddsoddi sylweddol yn y Rhyl dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys
Harbwr y Foryd, yr Apollo, y Clwb Mêl, Ysgol Newydd y Rhyl, Amddiffynfeydd rhag Llifogydd a Thai, a Datblygiad
Glan y Môr a gyhoeddwyd yn ddiweddar
·
derbyniwyd
nad yw effaith buddsoddiadau penodol a’u canlyniadau bob amser yn glir nac yn
hawdd eu mesur
·
roedd
Grŵp Tai Pennaf yn cael ei alw i sesiwn graffu i drafod pam fod Prosiect
Gwella Tai Gorllewin y Rhyl yn cymryd yn hirach na’r disgwyl, gyda golwg ar
gyflymu’r gwaith o godi’r datblygiad tai.
Roedd Pennaf yn ymwybodol o farn y Cyngor y dylai’r tai a godir gael eu
marchnata i’w gwerthu yn hytrach na’u rhentu
·
roedd
addysg hefyd yn dyngedfennol i adfywio a byddai Ysgol Newydd y Rhyl yn
gweithredu fel catalydd i ddod â phobl i’r dref.
Lleisiodd y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones bryderon ynglŷn â’r effaith ar
fusnesau canol y dref a gofynnodd am wneud rhagor o ran gostwng ardrethi busnes
a ffioedd parcio ceir i geisio cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol y dref. Croesawai’r Cynghorydd Barry Mellor lawer o
gynnwys yr adroddiad ond tynnodd sylw at yr angen am amserlenni priodol i
ddatblygiadau neilltuol a rhaglenni cynnal a chadw ar gyfer cyfleusterau. Argymhellodd hefyd fod y Cyngor yn codi tai
ar gyfer ei stoc dai ei hun, a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar adfywio
economaidd.
Darparwyd yr
ymatebion canlynol –
·
mae
gostyngiad dros dro ar hyn o bryd i ardrethi busnes yn Stryd Fawr y Rhyl am fod
yr amodau masnachu yn araf a’r tebygolrwydd yw y byddai’r ailbrisio ar
werthoedd ardrethu sydd i’w gynnal yn fuan yn arwain at ostyngiad i adlewyrchu
gwerthoedd rhentu is, gyda hynny’n arwain at ardrethi busnes is i fusnesau yng
nghanol y dref, o 2017 gobeithio
·
roedd
y Cyngor Tref yn Rhuthun wedi sybsideiddio taliadau meysydd parcio yn y
gorffennol ond nid oedd unrhyw dystiolaeth fod hynny wedi arwain at fwy o
ymwelwyr yn y dref. Serch hynny, byddai
modd i Gyngor Tref y Rhyl sybsideiddio taliadau parcio fel sy’n digwydd ar hyn
o bryd ym Mhrestatyn drwy’r Cyngor Tref.
Roedd angen i’r Cyngor Sir allu mantoli ei gyllideb barcio, a dyna pam y
codwyd y taliadau parcio ar draws y sir yn ddiweddar
·
dywedwyd
ei bod yn bosibl y câi eiddo a thir eu prynu i’w hailddatblygu’n dai
cymdeithasol mewn rhannau o’r Rhyl er mwyn ychwanegu at stoc dai’r Cyngor, a
·
chyfeiriwyd
at y problemau a etifeddwyd oddi wrth Hamdden Clwyd Cyfyngedig a’r sicrwydd a
roddwyd ynglŷn â’r asesu parhaus ar gyfleusterau hamdden arfordirol y
Cyngor.
Pwysleisiodd yr
Arweinydd ymrwymiad y Cyngor i adfywio’r Rhyl gan ychwanegu bod y cynigion
adfywio yn darparu cyfleoedd enfawr i’r Rhyl.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn nodi’r cynnydd a wnaed ar
brosiectau adfywio yn y Rhyl;
(b) yn cymeradwyo’r cynigion ar
gyfer cam nesaf y gweithgarwch adfywio yn y Rhyl sydd wedi’u nodi yn yr
adroddiad (gyda darluniau yn Atodiad 2 ato), ac yn cytuno y dylid eu defnyddio
fel sail i’r blaenoriaethau ar gyfer unrhyw arian adfywio a allai ddod ar gael,
ac
(c) yn cymeradwyo trefniadau
rheoli a llywodraethu’r rhaglen a nodwyd yn yr adroddiad ac sydd wedi’u
darlunio yn Atodiad 3 at yr adroddiad.
Yn y fan hon
(11.20 a.m.) cafwyd toriad byr yn y cyfarfod (lluniaeth ac ati).
Dogfennau ategol:
- RHYL GOING FORWARD, Eitem 7. PDF 274 KB
- RHYL GOING FORWARD - APP 1, Eitem 7. PDF 838 KB
- RHYL GOING FORWARD - APP 1B, Eitem 7. PDF 56 KB
- RHYL GOING FORWARD - APP 2, Eitem 7. PDF 158 KB
- RHYL GOING FORWARD - APP 3, Eitem 7. PDF 391 KB