Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD EICH LLAIS – CHWARTER 3 2015/16
Ystyried copi o adroddiad gan y Swyddog Cwynion
Corfforaethol, sy’n darparu trosolwg o’r canmoliaethau, awgrymiadau a’r cwynion
y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi eu derbyn dan bolisi adborth cwsmeriaid y
cyngor, ‘Eich Llais’, yn ystod Chwarter 3 2015/16, wedi’u dosbarthu yn flaenorol.
10.20 a.m. – 10.55 a.m.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad y Swyddog Cwynion Corfforaethol, a ddarparodd
drosolwg o ganmoliaethau, awgrymiadau a chwynion a ddaeth i law Cyngor Sir
Ddinbych dan bolisi adborth cwsmeriaid y cyngor ‘Eich Llais’ yn ystod Ch3
2015/16 gyda’r agenda.
Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol dros Gwsmeriaid a
Llyfrgelloedd yr adroddiad ar berfformiad y Cyngor wrth ddelio ag adborth y
cwsmeriaid yn ystod trydydd chwarter 2015/16. Dywedodd fod nifer y cwynion yn
ystod y trydydd chwarter i lawr o gymharu â chwarter 2, ac roedd nifer y
canmoliaethau wedi codi. Dros y pedair blynedd diwethaf, cafwyd tuedd am i lawr
yn nifer y cwynion a ddaeth i law. Er bod y ffordd y caiff cwynion eu cofnodi
erbyn hyn i’w cyfrif yn rhannol am y duedd am i lawr, cafwyd llai o gwynion
gwirioneddol hefyd.
Dywedodd y Prif Reolwr: Cymorth Busnes yn ystod y pedair blynedd
diwethaf fod nifer gyfartalog y cwynion fesul chwarter wedi bod rhwng 80 a 150.
Dywedodd y byddai’n werth ymgymryd â rhywfaint o ddadansoddi ychwanegol petai’r
cwynion mewn unrhyw chwarter yn codi i uwchlaw 150, oherwydd gallai ddynodi
problem sylfaenol yr oedd angen mynd i’r afael â hi.
Gosododd y Cyngor darged hynod uchelgeisiol i ddelio â 95% o gwynion
ymhen 10 niwrnod gwaith o’u derbyn. Roedd y targed hwn yn un heriol i’w
fodloni, ond teimlai’r swyddogion fod hyn yn briodol er mwyn codi safonau a
disgwyliadau. Dywedodd, yn unol â chais y Pwyllgor, fod paragraff 4.4 yr
adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y broses o ddelio â chwynion mewn perthynas
â gwasanaethau a gomisiynwyd.
Disgwyliwyd y byddai adroddiadau
perfformiad chwarterol y dyfodol yn cynnwys manylion cwynion a wnaed mewn
perthynas â gwasanaethau a gomisiynwyd ar wahân. Wrth ymateb i gwestiynau’r
Aelodau, cynghorodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:-
·
Petai
unigolyn yn herio dilysrwydd rhybudd o gosb benodol neu’n apelio yn erbyn ei
gyhoeddi, ni fyddai’n cael ei gyfrif fel cwyn;
·
Ychydig
werth oedd gan gymharu nifer y cwynion a chanmoliaethau a ddaeth i law yn erbyn
y nifer a gofnodwyd gan awdurdodau lleol eraill, gan fod gan bob awdurdod lleol
wahanol ddulliau cofnodi. Llawer gwell oedd astudio arfer gorau wrth ddelio â
chwynion a sut i’w defnyddio i wella’r dull cyflwyno gwasanaethau yn y dyfodol;
·
Dim ond lleiafrif bach iawn o gwynion yr ystyriwyd
eu bod yn gwynion annifyr. Fodd bynnag, oherwydd eu natur gymhleth a hynafedd
yr unigolion oedd weithiau’n nodi’r cwynion hyn, cymerodd rai cwynion amser hwy
i’w hymchwilio ac yn aml, defnyddiant adnoddau sylweddol i ddod â’r mater i
gasgliad; ac
·
Amrywiodd
nifer y cwynion a restrwyd yn yr adroddiad yn erbyn pob maes gwasanaeth yn sgil
maint a natur pob gwasanaeth h.y. roedd y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol yn un gwasanaeth mawr iawn sy’n wynebu’r cyhoedd, ac oherwydd ei
faint a’r mathau o wasanaethau mae’n ei ddarparu, roedd disgwyl iddo gael y
nifer uchaf o gwynion o gymharu â gwasanaethau eraill mwy mewnol eu ffocws.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl:-
PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr arsylwadau uchod i gael
yr adroddiad ar berfformiad y Cyngor yn ystod Chwarter 3 2015/16 wrth ddelio â
chwynion a chanmoliaethau yn unol â’i Weithdrefn Gwyno ‘Eich Llais’
Dogfennau ategol: