Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 3 2015/16

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad Strategol, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu’r Cynllun Corfforaethol, a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu.

                                                                                       9.35 a.m. – 10.10 a.m.

 

Cofnodion:

Dosbarthwyd copi o adroddiad y Pennaeth Busnes, Gwella a Moderneiddio, sy’n rhoi diweddariad ar gyflawniad y Cynllun Corfforaethol 2012-17 fel yr oedd ar ddiwedd chwarter 3 2015/16, gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Amlinellodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad oedd yn cyflwyno’r adroddiad y crynodeb perfformiad allweddol a phwysleisiodd:-

 

·                     bwysigrwydd perfformiad y Cyngor wrth fodloni ei Gytundebau Canlyniad gyda Llywodraeth Cymru;

·                     bod y Cyngor yn parhau i ystyried gwella lefelau absenoldeb salwch corfforaethol yn flaenoriaeth ar gyfer gwelliant, ac felly’r rheswm am osod targed mor uchelgeisiol. Er na fodlonwyd y targed, roedd y Cyngor yn dal i gymharu’n ffafriol gydag awdurdodau eraill Cymru a byddai’n parhau i ymdrechu ar gyfer gwelliant;

·                     y dylai’r wybodaeth am ollyngiadau carbon fod ar gael yn y dyfodol agos. Gan fod disgwyl i’r Cyngor newid ei gyflenwr ynni ym mis Ebrill 2016, ni fyddai hyn yn broblem yn y dyfodol oherwydd bod y cyflenwr newydd wedi mynd ati i ddarparu’r wybodaeth fel mater o arfer. Nid oedd Sir Ddinbych yn unigryw wrth fethu ag adrodd ar wybodaeth am ollyngiadau carbon ar hyn o bryd, roedd yn effeithio ar fwyafrif awdurdodau lleol Cymru;

·                     roedd nifer y staff oedd yn cael adroddiadau arfarnu perfformiad bellach wedi cyrraedd 90%

 

Gan ymateb i bryderon yr Aelodau mewn perthynas â thwf a datblygiad economaidd, cynghorodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad a’r swyddogion:-

 

·                     y dylai’r Strategaeth Gaffael newydd a’r Rheolau Trefniadau Contract diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor yn ddiweddar gefnogi datblygu economaidd. Bydd y Bwrdd Caffael yn monitro gweithrediad y Strategaeth a’r Rheolau Trefniadau Contract newydd. Yn ogystal, bydd yn sicrhau bod swyddogion mewn gwahanol wasanaethau yn ogystal â chyflenwyr yn cael hyfforddiant priodol i gyflawni’r Strategaeth a chefnogi twf economaidd;

·                     fod twf economaidd yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor. Er bod bellach dîm llai o swyddogion sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd yn gorfforaethol, roedd hwn yn dîm cryf iawn a oedd yno i gefnogi swyddogion eraill yn amryw wasanaethau’r Cyngor i gyflawni’r flaenoriaeth datblygu economaidd. Roedd y busnesau yn y sir bellach yn fwy cadarnhaol ynghylch rhagolygon y Cyngor o gyflawni twf economaidd. Roedd buddsoddiad sylweddol yn digwydd ar draws y sir, cyfanswm o oddeutu £200m, trwy godi adeiladau ysgol newydd, gwelliannau i lyfrgelloedd ac ati;

·                     roedd angen dathlu’r cyflawniadau a’r buddsoddiadau  a wireddwyd hyd yma gan y Cyngor a busnesau, yn y Rhyl ac ar draws y sir, gan gynnwys y gyfradd goroesi uchel i fusnesau newydd yn Sir Ddinbych;

·                     er bod gan yr awdurdod lleol rôl i’w chwarae mewn datblygu economaidd, dim ond un o nifer o sefydliadau ydoedd a allai ddylanwadu ar y maes hwn, roedd gan eraill megis Llywodraeth Cymru, addysg uwch a busnesau gymaint o rôl i’w chwarae â’r Cyngor er mwyn gwireddu’r uchelgais;

·                     gallai’r Cyngor gefnogi datblygu economaidd yn lleol, ond ni allai reoli’r economi leol. Roedd rhai ardaloedd o’r sir yr oedd angen dull cydweithredol arnynt gan nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat er mwyn gwella sgiliau a lefelau incwm gyda’r bwriad o ysgogi’r economi leol a ffyniant

·                     cyfeiriwyd at Ruddlan fel enghraifft o rywle lle’r oedd busnesau bach i weld yn ffynnu, gyda safleoedd adwerthu gwag yn ddigwyddiad prin

 

Cododd yr aelodau bryderon mewn perthynas â pherfformiad yn y meysydd canlynol:-

 

·                     diffyg canfyddedig cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Barc Busnes Llanelwy ac argaeledd unedau busnes i fusnesau newydd symud iddynt ar ôl iddynt sefydlu eu hunain a’u bod yn barod i dyfu. Collwyd nifer o fusnesau a dyfwyd gartref o Sir Ddinbych oherwydd prinder y safleoedd addas;

·                     tai cyngor – y cyfnod amser y mae tai’n wag oherwydd gofynion adnewyddu cyn iddynt gael eu hailosod;

·                     datblygiad tai fforddiadwy;

·                     blaenoriaethu gwaith cynnal a chadw’r priffyrdd; ac

·                     addysg – cymerodd berfformiad addysgol y disgyblion ers GwE gyfrifoldeb am welliant ysgolion a nifer y disgyblion a waharddwyd o ysgolion y sir

 

Gan ymateb i’r uchod, dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:-

 

·                     petai gan Aelodau bryderon penodol am berfformiad mewn meysydd penodol, gallent ddilyn y broses a sefydlwyd gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio i alw ar Aelodau Arweiniol a swyddogion i drafod y pryderon hynny;

·                     yn ystod yr haf 2016, bydd y Pwyllgor yn dechrau monitro’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni Thema 2 Strategaeth Tai’r Cyngor, a oedd yn gysylltiedig â chreu cyflenwad o dai fforddiadwy;

·                     mewn perthynas â gwaith cynnal a chadw priffyrdd, wynebodd y Cyngor, fel llawer o awdurdodau lleol eraill, ôl-groniad o waith drud a fyddai’n debygol o gostio oddeutu £25m i’w cywiro’n foddhaol a dim ond oddeutu £1m y flwyddyn y gellid ei ymroi tuag at y gwaith hwnne ar hyn o bryd. Felly, roedd rhaid blaenoriaethu’r gwaith ar sail risg;

·                     Roedd GwE’n ymwybodol iawn nad oedd y Cyngor yn fodlon â’r gwasanaeth a ddarparwyd i’r sir hyd yma. Er nad oedd perfformiad disgyblion yn y sir wedi llithro ers i GwE gymryd dros y swyddogaeth gwella ysgolion, nid oedd eu perfformiad wedi cadw i fyny gyda’r awdurdodau lleol eraill. Cafodd y gefnogaeth a roddwyd gan GwE i’r sector cynradd groeso mawr ac roedd yn llwyddiannus, ond nid dyma oedd yr achos yn y sector uwchradd a’r sector hwn a ddioddefodd. Er bod cydberthyniad rhwng amddifadedd economaidd a pherfformiad y disgyblion, nid dyma’r unig ffactor a effeithiodd ar berfformiad, ac ar y cyfan roedd Sir Ddinbych mewn ardal gyfoethog ac felly dylai’r cyrhaeddiad addysgol fod yn uwch.

 

Wrth gloi’r drafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr arsylwadau uchod, a llenwi ‘ffurflenni cynnig Archwilio’ ar y meysydd pryder mwyaf a amlygwyd uchod, i dderbyn y wybodaeth a ddarparwyd am berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol hyd at a chan gynnwys diwedd Chwarter 3 2015/16.

 

 

Dogfennau ategol: