Eitem ar yr agenda
UNO GWASANAETHAU ADDYSG A GWASANAETHAU PLANT
Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau (copi ynghlwm) ar y
canfyddiadau o'r Prawf Sicrwydd ar gyfer uno Gwasanaethau Addysg a Gwasanaethau
Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Sir Ddinbych (CSDd).
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau (CDC) eisoes wedi cael ei ddosbarthu.
Eglurodd y CCC y gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi adroddiad Prawf Sicrwydd a
oedd yn cyflwyno canfyddiadau’r Prawf Sicrwydd ar gyfer uno Gwasanaeth Addysg a
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Sir Ddinbych. Mae'r ddau
wasanaeth wedi bod yn gweithredu fel un gwasanaeth, gwasanaethau Addysg a
Phlant, ers mis Ionawr, 2016.
Mae'r adroddiad wedi cael ei
gyflwyno i'r Pwyllgor er gwybodaeth ac i gynnig sicrwydd bod y broses o
drosglwyddo i'r gwasanaeth newydd wedi cael ei reoli'n dda a risgiau wedi’u
lliniaru. Ym mis Medi 2014, datganodd y Prif Swyddog Gweithredol newidiadau
arfaethedig i strwythur sefydliad y Cyngor, gan gynnwys dwyn ynghyd y
Gwasanaeth Addysg a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i greu gwasanaeth newydd,
Gwasanaethau Addysg a Phlant. Mae hyn wedi bod yn orfodol yn Lloegr ers dros
ddegawd ac mae’n dod yn fwyfwy cyffredin yng Nghymru.
Cytunwyd y dylid datblygu Prawf
Sicrwydd a’i gynnal fel rhan o'r broses o drosglwyddo i'r strwythur sefydliad
newydd. Nod y Prawf Sicrwydd oedd darparu sicrwydd y byddai dyletswyddau statudol
y Cyngor tuag at blant a phobl ifanc yn cael eu cynnal a'u cryfhau drwy'r
strwythur sefydliad newydd. Bydd ailadrodd y Prawf Sicrwydd yn cynnig sicrwydd
dros gyfnod o amser bod y gwasanaeth newydd yn cydymffurfio â'r atebolrwydd
statudol.
Eglurodd y CCC fod y Prawf
Sicrwydd yn darparu sicrwydd ar:-
ü
gyflawni
dyletswyddau statudol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cyfarwyddwr
Addysg.
ü
penderfyniadau
dirprwyedig ac unrhyw risgiau cysylltiedig a sut y byddai'r rhain yn cael eu
rheoli.
ü
cryfderau
a meysydd i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth newydd, o
ran bodloni a rhagori ar ddyletswyddau statudol, a gwneud y mwyaf o botensial
tîm Addysg a Phlant cyfunol.
ü
mewnbwn
i adolygiad parhaus y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd o gyfansoddiad y
Cyngor, yn benodol o amgylch atebolrwydd dirprwyedig swyddogion allweddol.
Roedd yr offerynnau statudol
allweddol a oedd wedi llywio datblygiad y Prawf Sicrwydd wedi’u rhestru yn y
Prawf Sicrwydd sydd wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Roedd y Prawf Sicrwydd yn
cynnwys y canlynol:-
·
Adolygiad pen-desg
a dogfennaeth o bob atebolrwydd statudol
·
Proses o
gyfweliadau strwythuredig gydag uwch reolwyr Gwasanaethau Addysg a Phlant a
Theuluoedd a'r Cyfarwyddwr, Cymunedau
·
Adolygiad o
gyfarfodydd a fynychwyd gan aelodau'r ddau dîm rheoli
·
Adolygiad o'r
penderfyniadau dirprwyedig ar gyfer y ddau dîm rheoli
·
Ymgynghori parhaus
gyda staff yn gysylltiedig â newidiadau sefydliadol
·
Ymgysylltiad
parhaus ag aelodau etholedig, gan gynnwys y ddau aelod Arweiniol a'r Arweinydd
yn uniongyrchol, a mynychu pob Grŵp Ardal Aelodau yn hydref 2015.
Roedd canfyddiadau allweddol/camau
gweithredu wedi’u eu cynnwys yn y Prawf Sicrwydd yn Atodiad 1.
·
Cafodd strwythur y
sefydliad ei ddiwygio a dyrannwyd swyddi uwch fel y nodir ar dudalen 4 yn
Atodiad A.
· Cafodd presenoldeb mewn cyfarfodydd allanol eu
hadolygu a chytunwyd ar ddirprwyaethau
· Cafodd cyfarfodydd rheoli mewnol eu hadolygu a
chytunwyd ar strwythur
· Cafodd penderfyniadau dirprwyedig eu bwydo i mewn
i'r adolygiad gan y gwasanaethau Cyfreithiol, o Gyfansoddiad y Cyngor
· Cafodd y risgiau a chamau lliniaru eu nodi a'u
cytuno arnynt.
Roedd canfyddiadau allweddol Asesiad Effaith Cydraddoldeb
yn cynnwys:-
·
Ar y cyfan, gwelwyd rhai canlyniadau cadarnhaol mewn perthynas â
diogelu plant a phobl ifanc, er enghraifft.
·
Dylai'r gwaith colegol ar draws y gwasanaeth alluogi mwy o gyfle
cyfartal ar gyfer y grŵp diamddiffyn hwn
·
Roedd risg posibl i'r tîm rheoli o'r llwyth gwaith ychwanegol a'r
newidiadau mewn strwythur rheoli. Byddai hyn yn cael ei adolygu ar sail barhaus drwy gyfarfodydd rheoli
rheolaidd.
Roedd unrhyw risgiau a chamau i'w lliniaru wedi'u
hamlinellu yn y Gofrestr Risg.
Darparodd y CCC yr ymatebion canlynol i gwestiynau a gyflwynwyd gan Aelodau
o’r Pwyllgor:-
-
Cadarnhawyd na fyddai uno'r ddau wasanaeth yn cael ei
weld fel meddiannu gan un gwasanaeth. Mae'r ddau dîm rheoli wedi
cael sicrwydd y byddai elfennau o'r gwaith a oedd yn waith cymdeithasol neu
addysg yn unig yn aros yr un fath. Fodd bynnag, byddai
elfen o gydweithio a oedd eisoes ar waith yn parhau a fyddai'n cynorthwyo i
wella lefel y gwasanaeth a ddarperir.
-
Nid oedd modd i’r CCC gadarnhau y bu effaith ar y
gwasanaeth CAMHS a oedd y tu allan i'r strwythur priodol gan ei fod yn
wasanaeth iechyd. Fodd bynnag, roedd mynediad at wybodaeth bellach ar
gael yn fwy hwylus, ac roedd mesurau i leihau'r rhestr aros yn cael eu
harchwilio.
-
Eglurwyd y byddai meini prawf llwyddiant yr uno, o ran
cynllunio prosiect, yn cael ei asesu drwy dair ffrwd gwaith yn seiliedig ar
Ddiogelu, Plant ag Anableddau ac Anghenion Addysgol Arbennig, ac Ymyrraeth
Gynnar ac Ataliaeth.
-
Cafodd rolau'r Swyddogion Adolygu, tudalen 28 yr
adroddiad, eu hamlinellu a'u crynhoi gan y CCC.
-
Eglurodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd
yn ymwybodol o unrhyw bryderon sydd wedi'u nodi gan AGGCC mewn perthynas â
diogelu a Gwasanaethau Plant, ac amlinellodd rôl AGGCC wrth fonitro strwythurau
a'r trefniadau a oedd wedi’u cychwyn.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd gofynnodd y Pwyllgor fod yr adroddiad
Herio Gwasanaeth, fel yr amlinellir gan y Pennaeth Gwella a Moderneiddio
Busnes, yn cael ei gyflwyno i Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio ym mis Medi 2016. Cytunodd yr Aelodau y dylai adroddiad cynnydd ar
ddatblygiad y gwasanaeth gael ei gynnwys yn y rhaglen waith i’r dyfodol ar
gyfer mis Tachwedd 2016.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys yr adroddiad.
(b)
yn cytuno bod adroddiad
cynnydd yn cael ei gynnwys yn rhaglen waith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis
Tachwedd, 2016, a
(c)
gofyn bod adroddiad Herio
Gwasanaethau cael ei gyflwyno i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio ym mis Medi, 2016.
(NS i weithredu)
Dogfennau ategol:
- Join Ed & SS Report, Eitem 5. PDF 123 KB
- Join Ed & SS App 1, Eitem 5. PDF 1 MB
- Join Ed & SS EIA, Eitem 5. PDF 136 KB