Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1123/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi’n amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1123/TXJDR.

 

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat Gyrrwr Rhif  15/1123 / TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd ymlaen llaw) ynglŷn ag –

 

(i)           addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1123/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat ar ôl cael 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig am brawf mewn cyflwr anniogel a pheryglus;

 

(ii)          roedd manylion am y diffygion a nodwyd ar ôl i’r cerbyd gael ei gyflwyno am brawf Cydymffurfio/MOT wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd â datganiadau tyst a’r dogfennau cysylltiedig, a

 

(iii)         roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i fynychu’r cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded ac ateb cwestiynau’r aelodau wedi hynny.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gorfodaeth yr adroddiad a manylodd ynghylch ffeithiau’r achos. Mewn achosion lle mae 20 neu fwy o bwyntiau cosb gan yrrwr mewn cyfnod o 24 mis, yr arfer yw cyfeirio’r mater i’r pwyllgor ei adolygu.

 

Cyflwynodd y Gyrrwr ymateb ysgrifenedig i gefnogi ei achos gan ddweud ei fod yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddiogelwch teithwyr ac na fyddai’n cludo teithwyr mewn cerbyd os gwyddai ei fod mewn cyflwr peryglus. Roedd y cerbyd wedi bod yn cael ei drwsio yn syth cyn ei gyflwyno ar gyfer MOT/Cydymffurfio a bu anghytuno ynglŷn â rhai o’r pethau a oedd wedi methu’r prawf. Cyn belled ag y gwyddai’r Gyrrwr roedd y cerbyd wedi bod mewn cyflwr da ar wahân i un broblem gyda’r brêcs. Roedd wedi bod yn yrrwr tacsis am gryn amser heb gŵyn flaenorol yn ei erbyn.

 

Manteisiodd yr Aelodau ar y cyfle i holi’r Gyrrwr am amgylchiadau’r achos yn cynnwys cyflwr cyffredinol y cerbyd a’r drefn gynnal a arweiniodd at dynnu sylw at y ffaith bod y cerbyd mewn cyflwr peryglus ac yntau’n gyrru’r cerbyd gan wybod hynny. Mewn ymateb i gwestiynau  ailadroddodd y Gyrrwr ei fod wedi mynd â’r cerbyd i’w drwsio wythnos cyn yr archwiliad a bod gwaith wedi ei wneud arno gan gofio cyflwr y cerbyd. Roedd llwch y tu mewn a thu allan i’r cerbyd ar ôl y gwaith trwsio ac roedd wedi ceisio ei lanhau yn yr amser cyfyngedig a oedd ar gael. Roedd wedi gyrru’n syth o’r garej i’r orsaf brawf pan sylwodd fod problem gyda’r brêcs ond ni allai ddwyn i gof eu bod wedi dweud wrtho ar yr adeg y methodd y prawf nad oedd y cerbyd yn ddiogel i’w yrru. Roedd wedi gyrru’r cerbyd o’r orsaf brawf gyda’r bwriad o’i drwsio. Sicrhaodd y Gyrrwr y pwyllgor ei fod yn archwilio ‘r cerbyd bob dydd a’i fod yn cael ei wasanaethu bob tri mis.

 

Wrth wneud datganiad terfynol dywedodd y Gyrrwr ei fod yn ystyried ei hun yn yrrwr da a’i fod yn fodlon derbyn awgrymiadau gan y pwyllgor ynglŷn â threfn gynnal a chadw’r cerbyd yn y dyfodol yn sgil y methiannau presennol.

 

Neilltuodd y pwyllgor i ystyried yr achos -

 

PENDERFYNWYD atal y drwydded yrru cerbyd hacni a cherbyd hurio preifat a roddwyd i Yrrwr Rhif. 15/1123/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd yn syth.

 

Dyma resymau a roddwyd am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Yn ystod trafodaethau rhoddodd aelodau ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd a chais y Gyrrwr i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded. Nid oedd y pwyllgor yn ystyried bod adroddiad y Gyrrwr o’r digwyddiadau’n gredadwy oherwydd byddai wedi gwybod bod y cerbyd mewn cyflwr budr iawn, yn ogystal â’r llwch ar ôl y gwaith trwsio, gan fod rhai i’w gweld yn amlwg ac roedd nifer o arwyddion eraill nad oedd yn cael ei gynnal yn briodol. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, cyflwynodd y Gyrrwr ei gerbyd i gael ei archwilio gan wybod bod problem gyda’r brêcs, a theimlai’r pwyllgor ei fod yn amlwg nad oedd yn deall ei gyfrifoldebau fel gyrrwr trwyddedig a’r angen i gynnal ei gerbyd i safon dderbyniol. Mynegwyd pryderon difrifol fod y Gyrrwr wedi methu â chynnal y cerbyd i safon ddiogel a’i fod wedi gyrru’r cerbyd gan wybod bod diffygion difrifol arno ar ôl methu’r prawf MOT a’i fod wedi rhoi’r cyhoedd mewn perygl. O ganlyniad ystyriai’r pwyllgor nad oedd y Gyrrwr yn unigolyn addas a phriodol i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat a phenderfynwyd atal ei drwydded yn syth er mwyn diogelwch y cyhoedd.

 

Felly cafodd penderfyniad a rhesymau’r pwyllgor eu cyfleu i’r Gyrrwr a dywedwyd wrtho fod ganddo hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Llys Ynadon o fewn un diwrnod ar hugain.

 

 

Dogfennau ategol: