Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PWYNT MYNEDIAD SENGL

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal y Gogledd (copi’n amgaeedig) i ddiweddaru Aelodau ar gynnydd Pwynt Mynediad Sengl Sir Ddinbych ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol  

                                                                                    10.20 a.m. – 10.55 a.m.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant ac Oedolion) yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth gyfredol i'r aelodau am y Pwynt Mynediad Sengl yn Sir Ddinbych.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol fod yr un rhif ffôn ar gyfer mynediad i Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi bod yn weithredol ers 2014. 

 

Roedd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru wedi sôn yn benodol am wasanaeth Pwynt Mynediad Sengl Sir Ddinbych yn ddiweddar yn ystod lansiad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn y Senedd.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion:

 

·       mewn cyfarfod y diwrnod cynt gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) derbyniwyd cadarnhad bod arian bellach yn ei le ar gyfer y Gwasanaeth am y flwyddyn ariannol 2016/17

·       roedd cost y Gwasanaeth oddeutu £660k y flwyddyn, y rhan fwyaf wedi’i ariannu drwy'r Grant o'r Gronfa Gofal Canolraddol a ddyfarnwyd yn flynyddol

·       nawr bod y strwythurau ardal newydd yn eu lle o fewn y Bwrdd Iechyd, byddai cynrychiolwyr perthnasol yn bresennol mewn cyfarfodydd yn trafod cydweithio er mwyn galluogi'r gwaith i symud ymlaen a datblygu ymhellach

   Erbyn hyn ystyrir bod y dull Pwynt Mynediad Sengl yn fusnes o ddydd i ddydd yn ardal Sir Ddinbych ac roedd y sir ar y blaen i ardaloedd Awdurdodau Lleol eraill â'r dull hwn, a oedd yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).  Serch hynny, roedd yna bob amser le i wella ac, felly, roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn ymgais i atgyfnerthu a gwella'r gwasanaeth.  Roedd angen gwneud rhagor o waith er mwyn integreiddio holl wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael drwy Bwynt Mynediad Sengl.

        Roedd y gwasanaeth yn gweithredu ar strwythur un Arweinydd Tîm, a gefnogir gan 9 o weithredwyr Pwynt Mynediad Sengl (4 ohonynt yn siarad Cymraeg, a 4 arall oedd yn dysgu’r iaith).  Roedd y tîm bellach yn gallu cynnig gwasanaeth saith diwrnod dwyieithog.  Roedd yna hefyd gydlynydd trydydd sector a chydlynwyr oedd yn arbenigo mewn meysydd penodol e.e. cwympiadau, gofalwyr, Pwyntiau Siarad, addasiadau ac ati

        tra bod y gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl yn gweithredu ar sail saith diwrnod, nid oedd penwythnosau mor brysur ag yn ystod yr wythnos, felly, roedd staff ar y penwythnos fel arfer yn cynnwys un gweithredwr Pwynt Mynediad Sengl a gefnogir gan Nyrs Ardal.  O ganlyniad i'r nifer llai o ymholiadau dros y ffôn ar y penwythnos, roedd staff yn gallu prosesu unrhyw geisiadau gwasanaeth a dderbyniwyd o ysbytai i osgoi unrhyw ôl-groniad gwaith

·ar hyn o bryd Pwynt Mynediad Sengl Sir Ddinbych oedd yr unig un yng Ngogledd Cymru oedd yn cynnig mynediad at y Gwasanaeth Nyrsio Cymunedol

·       roedd y Gwasanaeth yn fwy na pharod i edrych ar ymarferoldeb gweithio gydag unrhyw wasanaeth sy'n mynegi diddordeb mewn gweithio gydag ef

·       Roedd y Gwasanaeth wedi'i leoli yn swyddfeydd Ffordd Brighton y Cyngor yn y Rhyl ond arhosir am gadarnhad ynghylch lle byddai'r Gwasanaeth yn cael ei leoli pan fydd swyddfeydd Ffordd Brighton yn wag.  Fodd bynnag, y cynllun tymor hir oedd y byddai'r Gwasanaeth yn y pen draw yn cael ei leoli yn barhaol ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra sydd wedi’i ail-ddatblygu yn Y Rhyl.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:-

 

   bod pob meddygfa wedi cael ymweliad o leiaf ddwywaith a chael gwybod am y gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl ac roedd gwybodaeth wedi ei gadael yn y meddygfeydd at sylw aelodau o'r cyhoedd.  Gellid ymweld â meddygfeydd eto i'w hatgoffa am y Gwasanaeth a hefyd gofynnwyd i'r Aelodau etholedig i atgoffa meddygfeydd yn eu hardaloedd am fodolaeth y Gwasanaeth a'r hyn y gellid ei gynnig i gleifion

·byddai'r Ganolfan Prestatyn Iach, maes o law, yn "ganolfan iechyd" a allai helpu i hyrwyddo'r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl

·       o ran ynysu cymdeithasol ac unigrwydd, gall y trydydd sector a'r gwasanaeth ail-alluogi hefyd gynghori defnyddwyr gwasanaethau am grwpiau neu unigolion a allai eu helpu a'u cefnogi

·       ymholiadau gan neu ynghylch pobl ag anableddau dysgu yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd o dan "llwybr atgyfeirio - Gofal Cymdeithasol", fodd bynnag, yn y dyfodol, gallai’r atgyfeiriadau hynny gael eu cynnwys mewn categori anableddau dysgu ar wahân

·       tra bod y rhan fwyaf o waith y Pwynt Mynediad Sengl yn cael ei ariannu gan grant y Gronfa Gofal Canolraddol, byddai unrhyw wariant sydd dros ben yn cael ei ariannu gan y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor ar sail gyfartal.

 

Cyn ymweld â'r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl, llongyfarchodd yr Aelodau y Gwasanaeth ar y cynnydd a wnaed hyd yma wrth ddarparu'r gwasanaethau ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)              yn amodol ar y sylwadau uchod, parhau i gefnogi a hyrwyddo datblygiad Pwynt Mynediad Sengl fel ffordd o hyrwyddo annibyniaeth dinasyddion a chwrdd â'r ddyletswydd statudol i ddarparu Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn ôl gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a

(ii)             bod adroddiad cynnydd ar ddatblygiad y Gwasanaeth yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ymhen 12 mis, neu'n gynt os bydd yna bryder ynglŷn â chyllid ar gyfer y Gwasanaeth.

 

 

Dogfennau ategol: