Eitem ar yr agenda
BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU) DRAFFT
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) yn hysbysu’r aelodau o
ddarpariaethau Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft sy’n gysylltiedig â'r
pwyllgor.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi gwybod i’r aelodau am
ddarpariaethau Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft sy’n gysylltiedig â'r
pwyllgor.
Cyfeiriwyd at ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar ddarpariaethau’r Mesur Drafft ynghyd ag ymateb y Cyngor. Roedd 8 rhan i'r Mesur Drafft a fyddai,
o’u gweithredu, yn arwain at y diwygiadau llywodraeth leol mwyaf sylweddol yng
Nghymru ers Deddf Llywodraeth Leol 2000. Rhoddodd y Swyddog Monitro drosolwg
cyffredinol o brif ddarpariaethau'r Mesur Drafft, gan gynnwys cynigion uno, ond
dywedodd mai’r rhan fwyaf perthnasol i'r pwyllgor oedd Rhan 4: Swyddogaethau
Cynghorau Sir a'u Haelodau, a oedd yn ceisio cyflwyno dyletswyddau statudol
newydd ar aelodau etholedig. Ymhelaethodd ar y darpariaethau a gynhwysir yn Rhan 4 a oedd yn cynnwys y
canlynol -
·
rhaid
i Aelod fod yn bresennol ym mhob cyfarfod perthnasol oni bai bod ganddynt reswm
da dros beidio - nid oedd unrhyw newid i'r gofyniad cyfreithiol bod Aelod yn
cael ei ddiarddel os yw ef / hi yn methu â bod yn bresennol am 6 mis
·
rhaid i Aelod gynnal o leiaf pedwar
cymhorthfa ym mhob 12 mis ar ôl cymryd ei swydd oni bai bod ganddynt reswm da
dros beidio, gyda manylion y gymhorthfa’n cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor
ymlaen llaw
·
rhaid
i Aelod ymateb i'r holl ohebiaeth a anfonir i’w gyfeiriad/chyfeiriad swyddogol
o fewn 14 diwrnod o’i derbyn oni bai bod ganddo/ ganddi reswm da dros beidio â
gwneud
·
rhaid
i Aelod gwblhau'r holl gyrsiau hyfforddi gorfodol oni bai bod ganddynt reswm da
dros beidio â gwneud
·
rhaid i Aelod lunio adroddiad
blynyddol o'u gweithgareddau aelodau y mae'n rhaid ei gyflwyno i'r Pennaeth
Gwasanaethau Democrataidd a gyhoeddwyd - nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer
cael rheswm da dros beidio â gwneud hyn
·
gosodir
dyletswydd personol ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gydweithredu â'r
Pwyllgor Safonau a chymryd camau rhesymol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o
ymddygiad gan aelodau eu grwpiau - rhaid i’r Pwyllgorau Safonau drefnu
hyfforddiant i Arweinwyr Grwpiau a monitro eu cydymffurfiad â'r ddyletswydd
hon.
Roedd y Bil Drafft yn awgrymu
mecanwaith gorfodi ar gyfer torri rheolau fel a ganlyn -
·
gall
unrhyw un wneud cwyn i'r Swyddog Monitro am achos lle mae’n bosibl fod Aelod
wedi mynd yn groes i unrhyw un o’r dyletswyddau a nodir uchod, ac eithrio i
lunio adroddiad blynyddol
·
rhaid
i'r Swyddog Monitro gyfeirio unrhyw gŵyn a dderbynnir i Gadeirydd y
Pwyllgor Safonau a gyda'i gilydd, rhaid iddynt benderfynu a ddylid ymchwilio
i'r mater
·
os
byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn credu fod Aelod wedi torri'r
ddyletswydd i lunio adroddiad blynyddol gallai ef / hi ei gyfeirio at y Swyddog
Monitro a fyddai’n gorfod ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor Safonau ynghylch
yr angen i ymchwilio
·
os
byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal, mae'n rhaid darparu adroddiad i'r Pwyllgor
Safonau gydag unrhyw argymhellion roedd y Swyddog Monitro yn teimlo a oedd yn
briodol
·
os
byddai’r Pwyllgor Safonau yn penderfynu bod Aelod wedi torri un o'r
dyletswyddau gallai gyflwyno cerydd, a gwaharddiad neu waharddiad rhannol am hyd
at chwe mis neu beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.
Tynnwyd sylw'r Pwyllgor hefyd
at ymateb y Cyngor i Ran 4 y Bil Drafft a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad. Yn fyr, roedd yr ymateb wedi'i fesur ac er
bod aelodau wedi ymateb yn gadarnhaol i rai agweddau ar y Bil Drafft o ran
llywodraethu, adolygiadau cyfoedion a rheoleiddio archwilio ac arolygu, roedd
rhai elfennau yn rhy ragnodol, gan greu mwy o fiwrocratiaeth a chostau ar adeg
o galedi ac roedd yna hefyd rai datganiadau anghyson. Un rhwystredigaeth fawr oedd y diffyg
diffiniad ynghylch beth fyddai rheswm da wrth orfodi'r dyletswyddau newydd a
phryder o ran y mecanwaith gorfodi ar gyfer torri’r rheolau. Roedd gan y cynigion y potensial o gynyddu
llwyth gwaith y Swyddogion Monitro a’r Pwyllgorau Safonau yn sylweddol ac
arwain at greu cyfundrefn safonau unigol y tu allan i ddarpariaethau'r Cod
Ymddygiad. Yn olaf, cyfeiriwyd at faterion eraill gan gynnwys trefniadau etholiadol yn
ystod cyfnod pontio ac yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol. Roedd disgwyl i gynghorau cymuned llai
niferus, mwy o faint gyfateb yn agos â'r pwyllgorau ardal gymunedol.
Manteisiodd yr aelodau ar y cyfle i roi eglurhad ar
feysydd penodol o'r Mesur Drafft gyda'r Swyddog Monitro a nododd agweddau
cadarnhaol a meysydd a oedd yn peri pryder fel yr amlygwyd yn ymateb y Cyngor. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol
-
·
pe
bai’r uno’n digwydd roedd y Cyngor yn parhau i fod o'r farn y dylai Sir
Ddinbych uno â Chonwy. Credai'r Cadeirydd y gellid gwneud achos cryf drwy ddadlau y byddai'r
Gymraeg yn cael ei chefnogi’n well drwy greu tri awdurdod yn hytrach na dau yng
Ngogledd Cymru fel y cyfeirir ato ar dudalen 10 y ddogfen ymgynghori
·
roedd yn bosibl y gellid
cynnwys y diffiniad ynghylch beth fyddai’n cael ei ystyried yn rheswm da mewn
canllawiau yn y dyfodol ac os nad oedd esboniad diffiniol byddai’n debyg o gael
ei ddiffinio mewn cyfraith achosion yn y dyfodol
·
roedd
rhai anghysondebau rhwng bwriad swyddogion a realiti darpariaethau drafft, fel
gwe-ddarlledu’r Pwyllgorau Ardal Gymunedol
·
trafodwyd
creu Pwyllgorau Ardal Gymunedol statudol ynghyd â'u grymoedd a’u cyfrifoldebau
- roedd rhai cynghorwyr sir wedi mynegi pryder ynghylch yr hyn roeddent yn
ystyried i fod yn erydu grymoedd awdurdodau lleol
·
ystyriwyd
y cynnydd posibl yn llwyth gwaith y Pwyllgor Safonau a chadarnhaodd y Swyddog
Monitro y byddai angen talu aelodau annibynnol am ddod i unrhyw gyfarfodydd
ychwanegol
·
Mynegwyd
pryderon y byddai’r gostyngiad yn nifer y cynghorau cymuned yn arwain at wneud
cymunedau yn anghysbell ac yn atal unigolion rhag cynrychioli'r ardaloedd
hynny, ac amlygwyd hefyd bwysigrwydd cadw asedau cymunedol presennol. Fodd bynnag, nodwyd y gallai'r newid roi
cyfle i ymgeiswyr gyda mwy o gymysgedd sgiliau a chymhwysedd
·
gallai'r
gofyniad am glerc cymunedol gyda chymhwyster proffesiynol perthnasol beri baich
ariannol sylweddol ar rai cynghorau cymuned ac nid oedd yn glir a fyddai'r
hawliau taid yn berthnasol i glercod presennol nad oedd yn bodloni'r gofyniad
newydd
·
tra'n
cydnabod y rhesymeg y tu ôl i'r cyfyngiadau ariannol arfaethedig sydd i'w gosod
ar yr awdurdodau sy’n uno mynegwyd pryderon y gallai fod yn rhwystr i
awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau - nodwyd y byddai arweiniad pellach
ar y cyfyngiadau ariannol yn dilyn yn yr haf
·
trafododd
yr amserlen ar gyfer creu’r ardaloedd llywodraeth leol newydd ynghyd â'r broses
ar gyfer sefydlu cynghorau newydd a threfniadau pontio. Nodwyd bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i
nifer priodol o gynghorwyr ar gyfer y cynghorau newydd. Roedd rhywfaint o bryder y gallai'r
amserlen chwe blynedd sy’n rhychwantu diwedd y cynghorau presennol a sefydlu
rhai newydd fod yn rhwystr i ymgeiswyr posibl ac yn arwain at densiynau rhwng y
rhai a etholwyd yn y gwahanol awdurdodau. Yn ei ymateb roedd y Cyngor wedi mynegi pryder y
byddai dau dymor tair blynedd yn cyfyngu ar allu’r naill Gyngor neu’r llall i
fod yn uchelgeisiol a gwneud gwelliannau sylweddol i’w gwasanaethau.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am ei
adroddiad cynhwysfawr a -
PENDERFYNWYD nodi cynnwys y Bil Drafft ac ymateb Y
Cyngor i'r ymgynghoriad drafft a amlinellir yn Atodiad 3.
Dogfennau ategol:
- DRAFT LG BILL, Eitem 10. PDF 90 KB
- DRAFT LG BILL - APP 1, Eitem 10. PDF 230 KB
- DRAFT LG BILL - APP 2, Eitem 10. PDF 2 MB
- DRAFT LG BILL - APP 3, Eitem 10. PDF 83 KB
- DRAFT LG BILL - APP 4, Eitem 10. PDF 1 MB