Eitem ar yr agenda
SCHOOLS FINANCIAL MANAGEMENT - UPDATE
Ystyried adroddiad
llafar mewn perthynas â Rheolaeth Ariannol Ysgolion.
Cofnodion:
Darparwyd
adroddiad llafar ar drefniadau rheolaeth ariannol ysgolion gan y Pennaeth
Archwilio Mewnol, y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau Addysg a’r Rheolwr Cyllid
Ysgolion.
Cyfeiriodd
y Pennaeth Archwilio Mewnol at drafodaethau yn y cyfarfod blaenorol mewn
perthynas â’r Cynllun Adfer Ariannol ar gyfer Ysgol Mair, Rhyl, ynghyd â
phryderon a chwestiynau a godwyd gan Aelodau mewn perthynas â threfniadau a
phrosesau Rheolaeth Ariannol Ysgolion, a rôl Rheolwyr Busnes a Chyllid
Ysgolion. Mynegodd y Cadeirydd bryder nad oedd ysgolion oedd wedi profi
anawsterau ariannol wedi cael Ymgynghorydd Ariannol ar gyfer Ysgolion, a cheisiwyd
eglurhad ynghylch y ddarpariaeth o gyngor ac arweiniad ariannol sydd ar gael i
ysgolion ynghyd â manylion y prosesau sydd yn eu lle i ddarparu cymorth.
Amlinellodd
y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau Addysg y broses mewn ysgolion
clwstwr, yr oedd ganaddynt Reolwr Busnes a Chyllid ym mhob un o’r Ysgolion
Uwchradd sydd wedyn yn darparu cymorth i’w hysgolion bwydo priodol. Cyfeiriodd
at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac eglurodd yr ystyriwyd bod y broses a
fabwysiadwyd yn Sir Ddinbych yn enghraifft dda, a’i bod yn cael ei gweld fel
model ar gyfer Cymru yn nhermau y gweithdrefnau a’r prosesau a fabwysiadwyd.
Cyfeiriwyd at yr heriau sy’n cael eu wynebu gan ysgolion i’r dyfodol oedd yn
profi pwysau ariannol cynyddol. Cadarnhawyd y byddai’r Rheolwr Cyllid Ysgolion
yn ymweld ag ysgolion sy’n cael anawsterau i ddarparu cymorth a chyngor, ac y
byddai’r cymorth a’r help o’r clwstwr yn cynorthwyo i fynd i’r afael â
phroblemau. Eglurodd Mr P. Whitham y nodwyd na fu Ysgol Mair, y Rhyl, yn rhan o
Glwstwr y Rhyl.
Mewn ymateb i
bryder a godwyd gan y Cynghorydd S.A. Davies ynghylch y newidiadau mewn
amcanestyniadau, darparodd y Rheolwr Cyllid Ysgolion gadarnhad y gallai
prosiectau newid ar fyr rybudd am sawl rheswm ac amlygodd yr anawsterau a
wynebir o ran rhagweld a mynd i’r afael â’r amcanestyniadau. Yn ogystal,
awgrymodd y Cynghorydd Davies y gellid cysylltu â’r Esgobaeth gyda gylwg ar
geisio cynnydd yn lefel y gefnogaeth a’r cymorth ariannol ar gyfer eu hysgolion
priodol.
Cyfeiriodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau at y Darpariaethau Statudol yr oedd yn
ofynnol i ysgolion eu cyflawni oedd yn cyfrannu at yr anawsterau a wynebir wrth
ragweld amcanestyniadau, gyda chyfeiriad arbennig at y cymarebau athro i
ddisgybl, materion iechyd a diogelwch a ffigurau derbyn.
Rhoddodd
y Prif Gyfrifydd wybod i’r Aelodau bod ffigurau mewn perthynas â demograffi
wedi eu hymgorffori yn y broses, a darparodd fanylion goblygiadau effaith
Cronfa Bensiwn yr Athrawon ar y gyllideb ysgolion.
Mewn
ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd P.C. Duffy ynghylch lefel y
gefnogaeth a ddarperir i Ysgol Mair, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Cymunedau y gwahoddwyd y swyddogion i fynychu’r cyfarfod blaenorol gan y gellid
fod wedi darparu rhagolwg manylach o’r amgylchiadau. Cadarnhaodd bod cymorth a
chefnogaeth, a ddarperir gan dîm rhagweithiol ac ymroddedig iawn, ar gael i bob
ysgol, ac na dderbyniwyd unrhyw gwynion ynghylch lefel neu ansawdd y gefnogaeth
a’r cymorth a ddarparwyd. Cefnogodd yr Aelodau’r farn a fynegwyd gan y
Cadeirydd sef, yn achos bod unrhyw achosion tebyg yn cael eu cyflwyno gerbron y
Pwyllgor am ystyriaeth, byddai’r swyddogion priodol yn cael eu gwahodd i
fynychu. Cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio ac Adnoddau Addysg bod cefnogaeth a
chymorth ar gael i Ysgol Mair, a rhoddodd fanylion y materion a’r problemau a
brofwyd yn yr ysgol.
Mewn
ymateb i gwestiynau gan Aelodau ynghylch y mecanweithiau a roddwyd ar waith i
wella’r broses amcanestyniadau, eglurodd y Prif Gyfrifydd, er mai’r cynnig oedd
i anrhydeddu amddiffyniad ar gyfer Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, rhagwelwyd
y gallai nifer yr ysgolion oedd yn profi anawsterau gynyddu oherwydd pwysau
chwyddiant a’r gostyngiad ym malansau ysgolion dros flynyddoedd diweddar, sydd
wedi lleihau’r lefel o hyblygrwydd.
Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai adroddiad cynnydd
o ran Ysgol Mair yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Medi 2016, a chytunwyd
y byddai’r swyddogion priodol yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cytuno:-
(a)
bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a’i nodi.
(b)
i wahodd swyddogion i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ym
mis Medi 2016 i ystyried yr adroddiad cynnydd mewn perthynas ag Ysgol Mair, y
Rhyl ac
(c)
yn achos cyflwyno unrhyw achosion tebyg gerbron y
Pwyllgor ar gyfer eu hystyried, y byddai’r swyddogion priodol yn cael eu
gwahodd i fod yn bresennol.
(IL, CJ, IB i Weithredu)