Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNIG CAU YSGOL LLANBEDR DC AR 31 AWST 2016 GYDA’R DISGYBLION PRESENNOL YN TROSGLWYDDO I YSGOL BORTHYN, RHUTHUN, YN DIBYNNU AR DDEWIS Y RHIENI

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi’n amgaeedig) yn cyflwyno'r adroddiad gwrthwynebiad i'w ystyried a gofyn i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu’r cynnig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad, ac

 

 (b)      yn amodol ar ystyried yr uchod, bod y Cabinet yn  cymeradwyo'r gweithredu’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Cofnodion:

[Ceisiodd yr Arweinydd gael sicrwydd gan aelodau’r Cabinet a gadarnhaodd eu bod yn fodlon iddynt gael digon o gyfle i astudio’r holl wybodaeth mewn perthynas â’r eitem hon er mwyn gwneud penderfyniad deallus.]

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd at y Cod Trefniadaeth Ysgolion ac esboniodd fod rhaid i’r Cabinet benderfynu ar y cynnig gyda meddwl agored gan ystyried y ffactorau perthnasol a osodwyd ym mharagraffau 4.5, 4.8 a 4.9 yr adroddiad.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad sy’n rhoi manylion y gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn cyhoeddiad yr hysbysiad statudol o’r cynnig i’w hystyried. Cyfeiriodd at weledigaeth y Cyngor ar gyfer addysg a buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion fel rhan o’r agenda moderneiddio ysgolion. Gwnaed y cynnig fel rhan o adolygiad ardal ehangach Rhuthun a gosodwyd yr achos am newid yn yr adroddiad yn seiliedig ar amcanion y Cyngor i leihau’r lleoedd dros ben, cyflawni dosbarthiad tecach a mwy cyfiawn o gyllid ysgol a darparu mwy o effeithlonrwydd  ac effeithiolrwydd o ystâd yr ysgol. Roedd y ddarpariaeth addysgol yn yr ardal yn cynnwys (1) Addysg Cyfrwng Cymraeg, (2) Addysg Cyfrwng Saesneg, (3) Addysg Seiliedig ar Ffydd Cyfrwng Cymraeg, a (4) Addysg Ffydd Cyfrwng Saesneg. Rhoddodd wybod y byddai pedair elfen y ddarpariaeth yn parhau o weithredu’r cynnig.

 

Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau yn yr adroddiad ynghyd â’r dadleuon ar gyfer y cynnig a’r ffactorau y manylwyd arnynt yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Ceisiodd yr aelodau gael eglurder ynghylch y cyfeiriadau at ffedereiddio yn ymatebion yr ymgynghoriad ac a fyddai’r dewis hwn yn bodloni amcanion allweddol y Cyngor a chwestiynwyd pam nad ymgynghorwyd ynghylch cynigion eraill. Codwyd cwestiynau hefyd mewn perthynas â chapasiti Ysgol Borthyn i letya disgyblion Ysgol Llanbedr a chynnig darpariaeth gofal plant cofleidiol. Ceisiwyd sicrwydd  hefyd mai’r cynnig hwn oedd yn cynrychioli’r dewis gorau i fodloni amcanion y Cyngor.

 

Ymatebodd y swyddogion fel a ganlyn –

 

·         esboniwyd bod dewisiadau eraill i’r cynnig wedi’u hystyried, gan gynnwys yr achos o blaid ffedereiddio, yn gynharach yn y broses ymgynghori. Ystyriwyd y manteision a’r anfanteision ac er bod gan ffedereiddio nifer fawr o fanteision, nid aeth i’r afael ag amcanion allweddol y Cyngor i fynd i’r afael â’r lleoedd dros ben, cyflawni dosbarthiad tecach a mwy cyfiawn o gyllid ysgol, na darparu mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ystâd yr ysgol

·         roedd y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn gofyn i’r Cyngor weithio gyda phartneriaid allweddol megis yr Esgobaeth a chynhaliwyd ymgynghoriad ym mis Ebrill/Mai. Cynhaliwyd dadansoddiad o ddewisiadau eraill a rhoddwyd rhesymau o ran pam nad aed ar drywydd y dewisiadau hynny, gan gynnwys ffedereiddio. Cynhwyswyd y dewisiadau eraill hyn yn yr adroddiad ymgynghori ffurfiol ochr yn ochr â’r dewis oedd yn cael ei ffafrio gan y Cyngor

·         rhoddwyd sicrwydd fod y cynnig yn bodloni gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion ac yn cynrychioli’r dewis gorau i fodloni amcanion allweddol y Cyngor i fynd i’r afael â lleoedd dros ben, gostwng y gost fesul disgybl a darparu ystâd ysgol effeithlon a chynaliadwy

·         cadarnhawyd petai pob plentyn o Ysgol Llanbedr yn dewis trosglwyddo i Ysgol Borthyn, byddai lle i gefnogi’r trosglwyddiad hwnnw – gallai fod angen rhywfaint o waith mân gyflunio i’r lle addysgu

·         derbyniwyd bod y cyfleuster gofal plant cofleidiol presennol yn Ysgol Llanbedr yn cael ei werthfawrogi’n fawr ond roedd darpariaeth gofal cofleidiol ar gael mewn ysgolion eraill yn yr ardal, gan gynnwys Ysgol Borthyn a phetai’r cynnig yn mynd yn ei flaen, byddai’r swyddogion yn gweithio i helpu cefnogi’r ddarpariaeth honno.

 

Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn y cynnig a chwestiynodd y gost oedd ynghlwm, gan gynnwys addasu Ysgol Borthyn i letya disgyblion ychwanegol. Amlygodd nad oedd y cyllid i fwrw ymlaen â chynigion adolygu gweddill ardal Rhuthun yn dibynnu ar gau’r ysgol a byddai cau’r cyfleuster gofal plant cofleidiol yn arwain at golli pedair swydd amser llawn. Dadleuodd y Cynghorydd Williams y dylid mynd ar drywydd y dewis ffedereiddio a nododd faint y gwrthwynebiad i’r cau gan ddweud y byddai’r ysgol yn debygol o fod yn llawn pe na bai dan fygythiad o gael ei chau. Yn olaf, holodd a oedd y Cabinet yn hyderus y byddai’r Gweinidog yn cynnal ei benderfyniad os byddent yn penderfynu cau’r ysgol.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams a’r Pennaeth Addysg fel a ganlynol –

 

·         byddai unrhyw addasiadau i Ysgol Borthyn yn golygu ail-gyflunio lle dysgu a byddai’r costau’n fach iawn - ni fyddai angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol

·         byddai’r swyddogion yn gweithio gyda darparwyr gofal plant cofleidiol ac yn cynnig cefnogaeth fel y bo’n briodol

·         derbyniwyd nad oedd cyflawni gweddill cynigion adolygiad ardal Rhuthun yn dibynnu’n ariannol ar gau unrhyw ysgol unigol ond ni fyddai cadw’r ysgol yn agored yn mynd i’r afael â’r amcanion a’r ffactorau allweddol a nodwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion o ran lleoedd dros ben, ysgolion cynaliadwy a sicrhau dosbarthiad tecach o gyllid disgyblion

·         byddai’r Cabinet yn gwneud penderfyniad deallus ar rinweddau’r cynnig ac ni allai rhagatal camau gweithredu yn dilyn y broses honno.

 

Siaradodd y Cynghorydd Dewi Owens hefyd yn erbyn y cynnig gan gredu iddo gael ei ddatblygu gyda chau mewn golwg yn hytrach nag achub yr ysgol. Roedd yn beio’r Cyngor am y cwymp yn niferoedd y disgyblion a theimlai y dylid gwneud mwy i fynd i’r afael â hynny. Cododd y Cynghorydd Martyn Holland bryderon hefyd yn dadlau bod cau ysgolion eraill wedi arwain at ysgolion ardal newydd ond roedd yr achos hwn yn ymwneud â throsglwyddo disgyblion i Ruthun a chodwyd cwestiynau mewn perthynas â chapasiti yn Ysgol Borthyn. Dywedodd hefyd y byddai costau’n gysylltiedig â throsglwyddo disgyblion ac ni fyddai’r cyngor yn elwa’n ariannol ar dderbyniad cyfalaf oherwydd nid oedd yn berchen ar y tir nac adeilad yr ysgol - byddai ffedereiddio’n arwain at arbed costau. Rhybuddiodd yn erbyn gwneud penderfyniad i gau’r ysgol ar hyn o bryd oherwydd nid oedd effaith ysgolion newydd Glasdir ar ymarferoldeb Ysgol Borthyn i’r dyfodol yn hysbys eto - gallai ymadawiad disgyblion i’r ysgolion newydd arwain at golli darpariaeth seiliedig ar ffydd yn yr ardal.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams fod galw am addysg seiliedig ar ffydd cyfrwng Saesneg yn yr ardal a allai gael ei bodloni gan Ysgol Borthyn ac ystyriwyd bod yr ysgol yn gynaliadwy wrth symud ymlaen – byddai gweithredu’r cynnig yn sicrhau bod y cyfuniad presennol o ddarpariaeth addysgol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg ac ysgolion seiliedig ar ffydd cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn cael eu cadw. Ailadroddwyd hefyd fod yr holl ddewisiadau eraill wedi’u hystyried, gan gynnwys ffedereiddio, ond yn dilyn dadansoddiad, penderfynwyd peidio â dewis ffedereiddio oherwydd nid oedd yn bodloni amcanion allweddol y Cyngor.

 

Rodd y Cabinet yn fodlon fod prosesau priodol wedi’u dilyn a’u bod yn cydymffurfio â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Derbyniodd y Cabinet fod angen gwneud penderfyniadau anodd wrth symud yr agenda moderneiddio ysgolion ymlaen ond ystyriwyd mai gweithredu’r cynnig oedd y dewis gorau er mwyn sicrhau cymysgedd priodol o ddarpariaeth addysg gynaliadwy yn ardal Rhuthun i’r dyfodol. Wrth symud yr argymhellion, cydnabyddodd y Cynghorydd Eryl Williams y penderfyniad anodd ond ailadroddodd ei ymrwymiad i sicrhau darpariaeth a chyfleusterau addysg gynaliadwy ansawdd uchel i bob disgybl yn y sir.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn nodi canfyddiadau’r adroddiad yn gwrthwynebu, ac

 

(b)       yn dilyn ystyriaeth o’r uchod, bod y Cabinet yn cymeradwyo gweithrediad y cynnig i gau Ysgol Llanbedr o 31 Awst 2016 ymlaen gyda’r disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ffafriaeth y rhieni.

 

Gohiriwyd y cyfarfod yn y fan hon (11.10 a.m.) am luniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: