Eitem ar yr agenda
DATBLYGU YSBYTY CYMUNED YN Y RHYL
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 25 Chwefror 2016 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
I ystyried
cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar eu
bwriadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn perthynas â safle Ysbyty Brenhinol
Alexandra, Y Rhyl.
9.35 a.m. – 10.15 a.m.
Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ar eu bwriadau ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol o safbwynt safle Ysbyty
Frenhinol Alexandra, Y Rhyl.
Mynychodd
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chyfarwyddwr Ardal Gwasanaeth Clinigol
(Ardal Ganolog) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y cyfarfod er mwyn
diweddaru Aelodau ar y cynnydd hyd yn hyn o safbwynt y prosiect uchod. Eglurwyd bod y
cyflwyniad wedi ei ddwyn o flaen y cyfarfod gan fod pryderon yn codi nad oedd y
prosiect i’w weld yn cael ei roi ar waith. Cynghorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr bod:-
·
Yr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer ysbyty
yng ngogledd Sir Ddinbych wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis
Rhagfyr 2013 ac er yr amser sydd wedi pasio mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru
i’r cynllun yn parhau;
·
y prosiect bellach ar y cam Achos Busnes Amlinellol
– mae’r cam hwn yn gofyn am ymgysylltu dwys gyda sefydliadau partner, cyrff
trydydd sector, y cyhoedd a staff y Bwrdd Iechyd er mwyn cynllunio cwmpas
gwasanaeth a chynlluniau manwl ar gyfer y prosiect;
·
O ganlyniad i’r ymgysylltu gyda’r partneriaid
uchod mae’r cwmpas gwasanaeth arfaethedig yn cynnwys y meysydd canlynol:
gwasanaethau cleifion mewnol, clinigau cleifion allanol, diagnosteg,
gwasanaethau therapi, gwasanaethau deintyddol cymunedol, Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a'r Glasoed, gwasanaethau iechyd rhywiol, Pwynt Mynediad Sengl/
gorsaf weithio integredig a canolfan gymunedol (caffi, trydydd sector ac
ystafelloedd cyfarfod);
·
talu sylw i’r nifer o wasanaethau a fyddai ar
y safle pe byddai’r holl wasanaethau a restrwyd yn y cwmpas gwasanaeth yn cael
lle, roedd gwasanaethau unigol wedi eu hasesu er mwyn penderfynu a fyddent yn
addas i gael eu cyd-leoli ar yr un safle e.e. CAHMS gyda gwasanaethau plant
ychwanegol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ayb. Yn
ogystal roedd safleoedd posib wedi eu hasesu er mwyn cadarnhau os oedd modd
cyd-leoli nifer o wasanaethau cymunedol yno.
·
yn dilyn dau asesiad ar wahân roedd safle
Ysbyty Frenhinol Alexandra, y Rhyl wedi ei glustnodi fel yr hoff safle, er
gwaetha’r cyfyngiadau cynllunio a’r gost ychwanegol y byddai statws cyfredol yr
ysbyty fel adeilad rhestredig yn ei roi ar y Bwrdd Iechyd fel datblygwr;
·
un o’r camau gweithredu yng nghynllun
gweithredu adfer mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd
fod yn rhaid iddo gyfathrebu’n well gyda’i fudd-ddeiliaid, oedd yn cynnwys
trigolion ac awdurdodau lleol. Fel rhan o hyn, yn ystod haf 2015,
cynhaliodd ‘ymarfer gwrando' er mwyn penderfynu beth ddylai ei flaenoriaethau
fod wrth symud ymlaen. Byddai’r blaenoriaethau hyn a chydymffurfio gydag
anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, yn siapio unrhyw
gynigion gwasanaeth yn y dyfodol a fyddai’n cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth symud ymlaen;
·
o ganlyniad i’r ymarfer sgwrs gymunedol uchod
cytunwyd ar y chwe blaenoriaeth strategol ganlynol:-
Ø symud ffocws gwasanaethau iechyd tuag at atal
a gwella iechyd, o ganlyniad byddai angen ail-drefnu gwasanaethau cyfredol er
mwyn cyflawni’r dyhead hwn;
Ø cryfhau gofal sylfaenol a chymunedol, gyda
phwyslais arbennig ar fodelau newydd o ofal y tu allan i’r model gofal ysbyty
traddodiadol;
Ø darparu mwy o ofal integredig drwy ddatblygu
partneriaethau cryfach gyda’r sectorau eraill e.e. llywodraeth leol, y trydydd
sector, gofalwyr a’r gymuned;
Ø darparu gwasanaethau wedi eu lleoli yn yr
ysbyty sy’n darparu’r canlyniadau gorau posib i bobl ac sy’n gynaliadwy ar
gyfer y dyfodol;
Ø sicrhau mai’r claf fyddai canolbwynt pob
agwedd o waith y Bwrdd; a
Ø datblygu, rheoli a gwerthfawrogi gweithlu’r
Bwrdd Iechyd a’i holl asedau ac adnoddau eraill er mwyn cefnogi gweledigaeth a
blaenoriaethau strategol y Bwrdd ar draws yr ardaloedd;
·
Roedd gweledigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr am ysbyty yng ngogledd Sir Didnbych yn ffitio i fewn gyda’r
blaenoriaethau strategol uchod, ac roedd y Bwrdd wedi ymrwymo i gyflawni’r
cynllun, er bod y cwmpas wedi ei ehangu yn dilyn ymgynghori ac er gwaetha’r
premiwm o ran cost oedd ynghlwm â safle Ysbyty Frenhinol Alexandra;
·
Byddai’r datblygiad ar safle Ysbyty Frenhinol
Alexandra ac roedd ceisiadau diweddar am leoli Uned Mân Anafiadau ar y safle yn
cael eu hystyried;
·
Byddai gan yr ysbyty newydd welyau cleifion
mewnol ac ardal ddiagnosteg o leiaf;
·
Y camau nesaf fyddai adolygu canlyniadau'r
ymarfer cwmpas a’r cynllun, byddai hyn yn cynnwys ystyriaeth unigol a
dadansoddiad o’r gwasanaethau a awgrymwyd fel rhai posib i fod ar y
safle. Unwaith byddai penderfyniad wedi ei wneud o ba wasanaethau fydd ar
y safle byddai cynlluniau manwl ar gyfer lleoli’r gwasanaethau hynny yn cael eu
gwneud cyn i’r Achos Busnes Amlinellol gael ei gytuno a’i gyflwyno i Lywodraeth
Cymru er mwyn ei gymeradwyo.
Wrth ymateb i’r
cyflwyniad bu i aelodau’r Pwyllgor:
·
fynegi pryderon ar gynnydd araf y prosiect, yn
arbennig o ystyried y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian wedi
ei roi o’r neilltu ar gyfer y prosiect;
·
mynegi pryder bod y Bwrdd Iechyd i'w gweld yn
ceisio lleoli gormod o wasanaethau gwahanol ar safle cymharol fychan Ysbyty
Frenhinol Alexandra;
·
pwysleisio bod Uned Mân Anafiadau yn
angenrheidiol ar gyfer ardal gyda dwysedd poblogaeth fel gogledd Sir Ddinbych,
poblogaeth sy’n cynyddu’n sylweddol yn ystod tymor twristiaid;
·
pwysleisiwyd bod gwelyau cleifion mewnol yn angenrheidiol
yn yr ardal er mwyn lleihau’r pwysau ar Ysbyty Glan Clwyd ac ysbytai cymunedol
yn yr ardal;
·
awgrymwyd y posibilrwydd o gynnal rhai
clinigau a llawdriniaethau clinigol bychain yn y Clarence Medial Practice, gan
fod ganddo theatr bwrpasol ac ystafelloedd clinigol nad oedd i’w gweld yn cael
eu defnyddio’n llawn;
·
pwysleisio’r angen am leoli ysbyty gymuned
gyda chanolfan gysylltiedig ar safle Ysbyty Frenhinol Alexandra, fodd bynnag
buont yn cwestiynu'r angen i sefydlu amrywiaeth o wasanaethau iechyd meddwl
yno;
·
teimlo bod y Bwrdd Iechyd, drwy aros gyda safle
Ysbyty Frenhinol Alexandra, wedi hepgor y potensial i wireddu derbyniad cyfalaf
sylweddol, a allai fod wedi ei ail-fuddsoddi mewn ysbyty newydd sbon pe
byddai’r hen ysbyty wedi ei werthu;
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd swyddogion BIPBC:-
·
eu bod wedi edrych ddwywaith, yn 2012 a 2015,
ar safleoedd posib i ddatblygu ysbyty cymuned ar gyfer gogledd sir
Ddinbych. Er y cyfyngiadau, yr unig safle addas oedd wedi cyflwyno ei hun
oedd Ysbyty Frenhinol Alexandra. Waeth be fo cyfyngiadau adeilad
rhestredig, ni fyddai’n rhwystro’r safle rhag cael ysbyty modern, sy’n addas i
alw trigolion, gan y byddai cynllunwyr yn gweithio o amgylch unrhyw rwystrau
wedi eu creu gan yr ‘hen’ adeilad;
·
pe byddai gwasanaethau yn cael eu had-leoli
i’r safle newydd, byddai staff yn symud gyda’r gwasanaeth;
·
roedd rhai elfennau o wasanaethau iechyd
meddwl eisoes yn cael eu cyflawni o Ysbyty Frenhinol Alexandra e.e.
gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Byddai galw lleol am wasanaeth yn
ffactor wrth benderfynu ar ba wasanaethau i’w lleoli ar y safle;
·
Byddai technoleg fodern hefyd yn cael ei
ystyried wrth benderfynu pa wasanaethau fyddai angen eu lleoli ar safle ysbyty
gogledd Sir Ddinbych;
·
roedd
achos cryf yn cael ei gyflwyno ar fanteision cael Uned Mân Anafiadau ar safle
ysbyty cymuned newydd gogledd Sir Ddinbych, a hefyd o bosib, ganolfan i ddelio
gydag anhwylderau bychain, gan y gallai hyn leihau’r pwysau ar yr ysbyty
rhanbarthol a’i gynorthwyo i ganolbwyntio ar ofal heb ei drefnu;
·
roedd angen gwir drafodaeth ar fanteision
lleoli Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a gwasanaethau plant a
theuluoedd perthnasol eraill yn yr ysbyty newydd. Roedd trafodaethau
cychwynnol eisoes wedi cychwyn ar hyn o fewn yr awdurdod lleol;
·
beth bynnag fyddai cost cynllun terfynol yr
ysbyty newydd, byddai angen iddo fod yn realistig. Mewn ymateb i awgrym
gan y Pwyllgor, bydd y swyddogion yn mynd ati i holi os gallai Cadw ddarparu
cyllid ar gyfer gwaith adnewyddu e.e.
oherwydd statws cofrestredig yr adeilad;
·
nid oedd cyfathrebu gyda thrigolion a
budd-ddeiliaid yn y gorffennol wedi bod yn foddhaol, fodd bynnag roedd hyn yn
gwella bellach;
·
Roedd gofynion Iaith Gymraeg yn cael eu
hystyried fel rhan hanfodol o gynllunio gwasanaethau’r Bwrdd Iechyd ar hyn o
bryd ac ar gyfer y dyfodol;
·
Byddai adnoddau parcio yn cael eu ffactora i
mewn i’r prosiect ar y cam cynllunio manwl;
·
Roedd anghenion twf cyffredinol y boblogaeth
a’r cynllun datblygu lleol a’r pwysau ar
y sector gofal sylfaenol yn destun trafod rheolaidd rhwng y Bwrdd Iechyd a'r
awdurdod Cynllunio Lleol;
·
Ni fyddai’n ymarferol ail-agor rhai o’r
wardiau sydd wedi eu cau yn Ysbyty Frenhinol Alexandra yn y cyfamser gan bod
risgiau a nodwyd o safbwynt deddfwriaeth Diogelwch Tan yn dal yn bresennol;
·
Roedd yn rhy gynnar ar hyn o bryd i benderfynu
pryd byddai’r Achos Busnes Amlinellol yn barod i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru,
gan nad oedd cwmpas a maint y prosiect terfynol wedi eu cytuno eto. Fodd
bynnag unwaith y byddai’r Achos Busnes Amlinellol wedi ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru dylent ei gymeradwyo o fewn 2 – 3 mis. Byddai gwaith gwirioneddol
yn cychwyn ar y prosiect wedi hynny.
Cyn cau’r
drafodaeth ategodd swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod
ymrwymiad hir dymor gan y Bwrdd i ddod a darpariaeth cleifion mewnol i ardal
gogledd Sir Ddinbych a’u bod yn bwriadu cyflawni hynny. Er mwyn darparu
prosiect hir dymor cynaliadwy roedd y Bwrdd Iechyd yn edrych ar gyfuno darparu
hynny gyda darpariaeth gwasanaethau cymunedol eraill. Cytunodd
swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i friffio aelodau ar gynnydd
y prosiect.
Diolchodd y
Cadeirydd iddynt am y cyflwyniad ac am ateb cwestiynau Aelodau a:-
PHENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn:
(a)
derbyn y wybodaeth a
gyflwynwyd i’r Pwyllgor, yn amodol ar y sylwadau uchod
(b) cytuno ac yn gwahodd cynrychiolwyr o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyfarfod y Pwyllgor ar 7 Gorffennaf, 2016 i
ddiweddaru Aelodau ar gynnydd prosiect Ysbyty Gogledd Sir Ddinbych.
Gofynnodd
y Cadeirydd pe bai modd anfon crynodeb o'r prif bwyntiau uchod at bob
Cynghorydd Sir er gwybodaeth.