Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIOGELU OEDOLION DIAMDDIFFYN

I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion Diamddiffyn (POVA) (copi ynghlwm) ar y dilyniant i'r adroddiad perfformiad blynyddol ar gyfer Diogelu Oedolion a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ym mis Tachwedd, 2015.

10.25 a.m. – 11.05 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan Gydlynydd Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (PC) wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr adroddiad gan nodi ei fod yn cael ei gyflwyno ar gais yr Aelodau, fel dilyniant i'r adroddiad blynyddol ar gyfer 2014/15 yr oedd y Pwyllgor wedi ei ystyried ym mis Tachwedd, 2015, gan fod Aelodau eisiau sicrhad ynghylch rheoli'r risg i unigolion a oedd wedi eu clustnodi fel bod mewn peryg o gael eu cam-drin.  Cynghorodd:-

 

·                     bod tua 1,300 gwely gofal cartref ar draws Sir Ddinbych;

·                     bod 73 atgyfeiriad o gam-drin wedi eu cwblhau yn 2014/15; roedd 56 o’r atgyfeiriadau hyn yn honni bod y cam-drin wedi digwydd o fewn cartref gofal neu gartref preswyl neu yng nghartref yr unigolyn ei hun, ac ohonynt honnwyd bod 43 wedi digwydd o fewn cartref preswyl neu gartref nyrsio;

·                     manylion sut roedd y risg yn cael ei reoli o safbwynt yr unigolion a restrir yn yr adroddiad;

·                     bod erlyniadau troseddol yn y math yma o achosion yn brin, dim ond un fu yn ystod 2014/15 – mewn rhai achosion nid oedd yr unigolyn neu'r teulu eisiau dwyn cyhuddiad unwaith roedd y risg wedi ei ddileu;

·                     tra bo’r awdurdod lleol yn delio gydag atgyfeiriadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed, nid oedd yr holl atgyfeiriadau’n ymwneud â staff gofal. Roedd astudiaeth achos yn yr adroddiad yn amlinellu sut bod un atgyfeiriad yn erbyn aelod o staff y Gwasanaeth Iechyd, a gwnaed honiadau eraill yn erbyn aelodau o’r teulu neu ffrindiau;

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a Rheolwr Gwasanaeth:  Gwasanaethau Arbenigol bod:-

 

·                     y Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am ddarparu matresi pwysau, ac roedd yn cynyddu’r nifer o fatresi yr oedd yn ei archebu;

·                     roedd perchnogion cartrefi gofal ar y cyfan yn cydweithio gydag ymholiadau atgyfeiriadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed ac yn cydymffurfio gydag unrhyw argymhellion perthnasol, oherwydd byddai rhestru eu cartref o dan ‘bryderon cynyddol’ yn gwneud niwed i’w busnes;

·                         roedd tua dau gartref gofal o dan ‘bryderon cynyddol’ ar unrhyw adeg fel arfer.  Ni fyddai'r Cyngor yn atgyfeirio unrhyw breswylwyr newydd i’r cartrefi tra bod y cartrefi hynny o dan y rhestr ‘pryderon cynyddol’.

·                     roedd honiadau o natur rywiol yn eithaf anodd i ymchwilio iddynt, gallent amrywio o fod yn honiadau bychan i rai difrifol iawn;

·                     dylid adrodd am unrhyw honiadau i’r Cyngor, hyd yn oed os nad oedd yr unigolyn eisiau mynd a'r ymchwiliad ymlaen, gan y byddai hyn o gymorth i’r Cyngor adnabod meysydd o bryder neu batrymau o ymddygiad cyn iddynt gynyddu;

·                     os yw’r cam-drin honedig yn digwydd o fewn lleoliad teulu, byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol bob amser yn hysbysu’r Heddlu byddai i fyny i’r unigolyn, os oedd ganddi hi/ef y gallu meddyliol, neu aelod o’r teulu i gytuno os oeddynt am fynd ymlaen ag ymchwiliad troseddol ac / neu i ddwyn cyhuddiad.  Mewn achosion o’r fath bydd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud trefniadau i gadw’r unigolyn agored i niwed allan o niwed.

·                     roedd recriwtio nyrsys cymwys yn broblem benodol i'r gwasanaethau iechyd,  a pherchnogion cartrefi nyrsio ar hyn o bryd.

·                     roedd yr adroddiad yn dilyn yr adolygiad cenedlaethol o ofal cartref ar fin cael ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad hwn yn debygol o amlygu’r problemau sydd wedi eu cael gyda galwadau gofal 15 munud.

 

Gan gymryd poblogaeth y sir, a’r ffaith bod gan y sir broffil demograffeg sy’n heneiddio i ystyriaeth, roedd aelodau yn teimlo bod angen gwneud mwy o waith i amlygu i drigolion bwysigrwydd paratoi ar gyfer eu hanghenion yn y dyfodol, ee, ysgrifennu dogfennau Atwrneiaeth, ysgrifennu ewyllys ayb.

 

Diolchodd Aelodau i swyddogion am adroddiad llawn gwybodaeth a gofynnwyd am gynnwys y lefel o fanylder o fewn yr adroddiad fel atodiad i Adroddiadau Blynyddol Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed yn y dyfodol.  Yna:-

 

PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau, yn amodol ar y sylwadau uchod yn: -

 

(a)          derbyn yr adroddiad a chydnabod natur bwysig ymagwedd gorfforaethol at Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed a chyfrifoldeb y Cyngor i weld hyn fel maes blaenoriaeth allweddol ac i’w osod ochr yn ochr â'r ymrwymiad a'r arwyddocâd a roddwyd gan Sir Ddinbych i Amddiffyn Plant; ac

(b)          yn cytuno y dylai adroddiadau blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn Sir Ddinbych gynnwys astudiaethau achos a dadansoddiad data manwl, fel sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad cyfredol, fel atodiad i’r adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: