Eitem ar yr agenda
EICH LLAIS – ADRODDIAD CHWARTER 2 2015/16
Ystyried
adroddiad gan Brif Reolwr – Cefnogaeth Busnes (copi ynghlwm) sy’n darparu
trosolwg o’r sylwadau da, awgrymiadau a chwynion y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi
eu derbyn dan bolisi adborth cwsmeriaid y Cyngor ‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter
2 2015/16.
11.30 a.m. - 12 hanner dydd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Reolwr - Cymorth Busnes (a ddosbarthwyd
yn flaenorol) yn darparu trosolwg o’r canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion a
ddaeth i law dan bolisi adborth cwsmeriaid y Cyngor
‘Eich Llais’ yn ystod Chwarter 2 2015/16.
Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd yr
adroddiad a rhoddodd y Prif Reolwr - Cymorth Busnes fanylion ar ei gynnwys,
gyda phwyslais penodol ar y graffau tuedd dadansoddi 4 blynedd. Yn ystod ei
gyflwyniad, esboniodd -
·
fod y
gwasanaeth wrthi’n gweithio ar ddiwygiadau i system Rheolwr Perthynas â
Chwsmeriaid a fyddai’n hwyluso’r gwaith o lunio adroddiadau a data ystyrlon
·
bod y
staff cwynion wedi bod yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau dros y misoedd
diwethaf gyda’r bwriad o sefydlu’r ffeithiau y tu ôl i’r ffigurau, yn enwedig
mewn perthynas â’r rhesymau am golli’r targedau gosod
·
byddai
nifer o gwynion drwy’r amser a fyddai’n colli’r dyddiadau targed gosod ar gyfer
delio â chwynion. Fel arfer, byddai’r rhain yn gwynion cymhleth, weithiau’n
amlwynebog, a fyddai oherwydd eu hunion natur yn gofyn am broses penderfyniadau
manwl
·
amrywiodd
perfformiad mewn perthynas â Chwynion Cam 2 yn fwy yn ystod y flwyddyn
bresennol na’r blynyddoedd blaenorol
·
daeth
12 cwyn i law gan un unigolyn. Roedd y math hwn o gŵyn a chwynion yn erbyn
uwch swyddogion yn ddrud iawn i’w hymchwilio oherwydd hynafedd y swyddog yr
oedd ei angen i’w hymchwilio a’r cyfnod amser y byddai’n rhaid i’r swyddog
hwnnw ymroi i’r broses.
Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, cynghorodd y
swyddogion ar y canlynol –
·
cydnabuwyd pob cwyn o’u
derbyn, gan roi manylion yr amserlen ddisgwyliedig i ymateb i’r gŵyn
·
roedd
data ar gael ar sail Cymru gyfan sy’n cymharu perfformiad awdurdodau lleol wrth
ddelio â chwynion
·
cynigiwyd
hyfforddiant i swyddogion ym mhob adran mewn perthynas â delio â chwynion a’r
weithdrefn i’w dilyn
·
weithiau gallai cwynion o
natur weithredol gymryd mwy o amser i’w datrys yn sgil yr angen i ymweld â
safleoedd penodol ac ati
·
mewn perthynas â chwynion
trallodus, gallai’r Cyngor ddefnyddio’i bolisi ar gyfer delio ag ymddygiad
annerbyniol gan gwsmeriaid, gallai’r swyddogion hefyd gysylltu â Swyddfa
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am gymorth gyda chwynion o’r fath
·
er
bod mwyafrif y gwasanaethau wedi bod yn destun toriadau yn ystod y blynyddoedd
diwethaf, roedd nifer y cwynion a ddaeth i law ar duedd am i lawr yn
gyffredinol. Fodd bynnag, gallai effeithiau toriadau effeithlonrwydd gyniwair
eu hunain mewn ffordd wahanol h.y. gostyngiad mewn perfformiad gwasanaethau
·
bydden nhw’n archwilio a
gafodd yr holl ganmoliaethau a ddaeth i law gan y Penaethiaid Gwasanaeth, boed
y rheiny’n uniongyrchol gan y cyhoedd neu drwy gynghorwyr, eu cofnodi ar y
system
·
cadarnhau bod y dyddiadau
targed ar gyfer delio â chwynion wedi’u gosod gan y Cyngor fel rhan o’i waith
wrth lunio’r Cynllun Corfforaethol.
·
roedd hi’n llawer gwell gosod
targedau uchel ac uchelgeisiol yn hytrach na rhai isel a fyddai’n hawdd eu
bodloni
·
bydden nhw’n gofyn i’r Uwch
Dîm Arweinyddiaeth drafod y potensial i ostwng y trothwy ar gyfer cofrestru
cwyn fel un ‘trallodus’ er y gallai hynny godi’r risg o fod yn groes i
safbwyntiau’r Ombwdsmon
·
byddai cwynion a ddaeth i law
gan y Cyngor am bartner neu sefydliadau’n cael eu hailgyfeirio i’r sefydliad
dan sylw. Serch hynny, rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r aelodau y byddai am wybod am gwynion am sefydliadau
partner oedd yn cyflwyno gwasanaethau ar ran y cyngor, megis GwE, Civica ac
ati.
·
er bod cymhlethdodau penodol
ynghlwm â delio â chwynion iechyd a gofal cymdeithasol integredig, h.y. wrth
ymateb, roedd dulliau i ddelio â’r mathau hyn o gŵynion h.y. mewn ymateb,
roedd angen i’r ddau barti ystyried sut roedd yr achwynydd yn teimlo am y
mater.
Roedd gan yr aelodau bryderon am wasanaeth ymholiadau cynghorydd EMMA a
chyfeillgarwch y system newydd hwn i ddefnyddwyr. Cytunodd y swyddogion godi’r
pryder hwn gyda’r swyddog perthnasol.
Ar ôl ystyried y wybodaeth –
PENDERFYNODD yr aelodau yn amodol
ar yr arsylwadau uchod a datblygu’r camau a nodwyd, i gael y wybodaeth am
berfformiad y Cyngor wrth ddelio â chwynion yn ystod Chwarter 2 2015/16 yn unol
â pholisi adborth cwsmeriaid ‘Eich Llais’.
Dogfennau ategol: