Eitem ar yr agenda
LLYWODRAETHWYR YSGOLION A CHYRFF LLYWODRAETHU YSGOLION
- Meeting of Pwyllgor Craffu Perfformiad, Dydd Iau, 28 Ionawr 2016 9.30 am (Item 8.)
- View the declarations of interest for item 8.
Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn manylu ar rôl a chyfrifoldebau
llywodraethwyr ysgol a chyrff llywodraethu ysgolion.
11.00 a.m.– 11.30 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion rôl a chyfrifoldebau’r llywodraethwyr
ysgol a chyrff llywodraethu’r ysgolion, gan gynnwys y gefnogaeth a’r
hyfforddiant sydd ar gael iddynt gan yr
awdurdod lleol, GwE a sefydliadau eraill. Esboniodd fod elfen o gyfrifoldeb ar
gyfer dyletswyddau’r llywodraethwyr ysgol yn sefyll gyda’r awdurdodau addysg
lleol, a chyfrifoldeb GwE oedd yr elfennau eraill. Rhoddwyd gwybod i’r aelodau
–
·
bod
yna bryderon mewn perthynas ag ymgysylltiad rhai llywodraethwyr unigol yn y
rhaglen hyfforddiant a defnwyd gan yr Awdurdod. Ymddengys nad oedd rhai llywodraethwyr
yn ymwybodol na allent ddiwallu’u rolau’n llawn os nad oeddent yn cymryd
rhan yn y cyrsiau hyfforddiant gorfodol
·
darparwyd
amryw ddulliau hyfforddiant ar gyfer
llywodraethwyr e.e. pecynnau hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein
·
bu gan Sir Ddinbych Gymdeithas
Cadeiryddion Llywodraethwyr. Mynychodd y Pennaeth Addysg gyfarfodydd y Fforwm i
drafod gydag aelodau faterion cyfredol cysylltiedig ag addysg. Er gwaetha’r
ffaith y cafodd y gwahoddiad i fynychu cyfarfodydd Fforwm eu hymestyn i bob
llywodraethwr ysgol, ni chafwyd nifer dda iawn yn y Fforwm.
Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, rhoddodd yr
Aelod Arweiniol dros Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Rheolwr Adnoddau a
Chynllunio Addysg bod –
·
presenoldeb
mewn cyfarfodydd llywodraethwyr ysgol yn broblem mewn rhai ysgolion fel ag yr
oedd diffyg cyflwyno ymddiheuriadau
·
roedd
lleoedd gwag ar rai cyrff llywodraethu. Gyda’r bwriad o oresgyn rhai o’r
problemau a achoswyd gan leoedd gwag a maint bach rhai cyrff llywodraethu
ysgolion, hysbysebodd y sir am gronfa o lywodraethwyr ac ymdrechodd i’w gosod
mewn ysgolion
·
cofnodion
presenoldeb wedi’u cadw ar gyfer pob sesiwn hyfforddiant ac roedd y rhain yn
cael eu harchwilio gyda chofnodion y sir ar lywodraethwyr ysgolion i sicrhau
bod pob un ohonynt wedi mynychu eu digwyddiadau hyfforddiant gorfodol. Yn
ogystal, cysylltwyd â chyrff llywodraethu gyda chais eu bod yn gwneud
archwiliad sgiliau, wedyn gallai canlyniadau’r archwiliad hwn gael ei
ddefnyddio gan y Cyrff Llywodraethu i sicrhau eu bod yn gweithredu’n effeithiol
·
mewn cyfarfod Cadeiryddion
Llywodraethwyr diweddar, trafodwyd y posibilrwydd o gyfethol ymgynghorwyr nad
oeddent yn pleidleisio ar gyrff llywodraethu ysgolion
·
roedd gan gyrff llywodraethu
ysgolion ystod eang o gyfrifoldebau’n amrywio o gynnal a chadw adeiladau,
iechyd a diogelwch, diogelu a chyllidebu. Monitrodd Grŵp Monitro Safonau
Ysgolion y Cyngor yn agos gyfrifoldebau’r cyrff llywodraethu mewn perthynas â’r
rhain. Gwahoddwyd cadeiryddion cyrff llywodraethu ysgolion i fynychu
cyfarfodydd y Grŵp pan oeddent yn monitro’u hysgol benodol. Yn ogystal,
astudiodd gyfarfod rheolaidd yr awdurdod addysg lleol gyda GwE yr un meysydd
·
o’r Pasg 2016 ymlaen, byddai
Llywodraethwyr Cymru’n disodli’r Cynllun Gwobr Efydd blaenorol gyda gwobr debyg
arall
·
rhoddwyd
gwybod i’r Cyngor os oedd clerc i gorff llywodraethu ysgol yn absennol o
gyfarfod am unrhyw reswm
·
gwiriodd
a heriodd yr awdurdod addysg lleol aelodaeth cyrff llywodraethu i sicrhau eu
bod yn dryloyw ac yn deg
·
cafwyd canllawiau cyhoeddedig
i gynorthwyo llywodraethwyr mewn perthynas â’u gwaith ar gyrff llywodraethu
ysgolion ac i ddeall y fframwaith moesegol yr oedd disgwyl iddynt lynu wrthynt
·
rhoddwyd
gwybod i’r awdurdod addysg lleol yn awtomatig petai llywodraethwr ysgol neu
glerc yn ymddiswyddo er mwyn iddynt gychwyn proses recriwtio/penodi
·
roedd
gan yr awdurdod lleol bwerau ymyrryd hefyd i gymryd dros y gwaith o redeg ysgol
os ystyrid bod y corff llywodraethu yn methu.
Rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg wybod ei fod o’r farn y dylai’r
holl gynghorwyr sir fod yn aelodau o un corff llywodraethu ysgol o leiaf, yn ei
farn ef, dylai hyn fod yn ofyniad gorfodol ar gyfer cynghorydd sir oherwydd
byddai’n sicrhau bod ganddynt well dealltwriaeth o faterion cysylltiedig ag
addysg ar lefel bersonol a chorfforaethol.
Canmolodd yr aelodau’r gefnogaeth a roddwyd gan y
Cyngor i lywodraethwyr ysgol. Serch hynny, teimlwyd y dylai GwE gymryd rhan yn
fwy gyda chyrff llywodraethu a’u gwaith. Fodd bynnag, teimlwyd y byddai’r
gymhareb aelodau staff ar gyrff llywodraethu i rai’r cynrychiolwyr eraill yn
elwa ar gael eu hastudio, yn enwedig mewn ysgolion gwledig bach, oherwydd y
gallai gael effaith andwyol ar rediad yr ysgol.
Mewn ymateb i gais gan aelodau, aeth y swyddogion
ati i ddarparu rhestrau i’r pwyllgor yn rhoi manylion nifer y cynghorwyr sir
sy’n gwasanaethu ar gyrff llywodraethu ysgolion ac ar gyfer lleoedd gwag ar
gyrff llywodraethu ysgolion.
Cytunodd y Cydlynydd Craffu i ofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol/Swyddog Monitro ar oblygiadau ad-drefnu arfaethedig y llywodraeth
leol ar benodi llywodraethwyr AALl rhwng nawr a’r dyddiad urddo’r awdurdodau
newydd, a allai ddigwydd ym mis Ebrill 2020.
Yn dilyn ystyriaeth o’r wybodaeth –
PENDERFYNODD y pwyllgor, yn amodol
ar yr arsylwadau uchod, derbyn a chymeradwyo’r gefnogaeth a’r hyfforddiant a
ddarperir i Lywodraethwyr i’w cynorthwyo i gefnogi a herio ysgolion.
Dogfennau ategol: