Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIADAU ARHOLIADAU CYFNOD ALLWEDDOL 4 AC ÔL 16

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE (copi ynghlwm) yn manylu ar berfformiad wedi'i ddilysu o ganlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16 gyda dadansoddiad o ganlyniadau yn erbyn gwybodaeth wedi’i feincnodi a pherfformiad yn erbyn awdurdodau lleol eraill.

10.15 a.m.– 10.45 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE (Porth Conwy/Sir Ddinbych) (dosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi manylion perfformiad wedi’i wirio canlyniadau arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yng Nghyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16 gyda dadansoddiad o’r canlyniadau yn erbyn gwybodaeth a pherfformiad wedi’u meincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill. [Ystyriwyd canlyniadau arholiadau dros dro gan y pwyllgor ym mis Hydref 2015].

 

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE yr adroddiad a rhoesant esboniad manwl o’i gynnwys i aelodau. Yn ystod eu cyflwyniad, pwysleision nhw –

 

·         mewn perthynas  â Throthwy Lefel 2 (5 TGAU A*-C), roedden nhw wedi gobeithio y byddai pob ysgol yn chwarteli 1 neu 2, ond yn anffodus roedd 3 ysgol yn y 4edd chwartel oedd yn hynod siomedig

·         ystyriodd y gwaith cenedlaethol o gategoreiddio ysgolion, a ddisodlodd y fethodoleg flaenorol o roi ysgolion mewn bandiau, ystadegau presenoldeb yr ysgolion. Roedd hi’n ddymunol adrodd na chwympodd ysgolion Sir Ddinbych i’r 4ydd categori

·         bod gwefan ‘Fy Ysgol Leol’ Llywodraeth Cymru ar gael o’r dyddiad presennol a oedd yn rhoi cyfoeth o wybodaeth am berfformiad, cefnogaeth ysgol a gwybodaeth gysylltiedig arall i rieni a gwarcheidwaid

·         er bod presenoldeb Sir Ddinbych mewn ysgolion uwchradd wedi parhau’n sefydlog yn 2014 ar 93%, a raddiodd yr awdurdod lleol yn yr 21ain safle yng Nghymru o gymharu ag awdurdodau addysg leol eraill, roedd yr ardal hon yn gwella. Roedd y ffigurau presenoldeb cyfredol dros 94%

·         ar hyn o bryd, roedd bechgyn a merched y sir yn perfformio ychydig yn ia na chyfartaledd Cymru ar gyfer Lefel 2 oedd yn cynnwys Saesneg/Cymraeg neu fathemateg, wrth i’r bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched fod yn unol â chyfartaledd Cymru

·         mewn ymgais i osgoi amrywiaeth y llynedd rhwng y perfformiad amcanol a gwir berfformiad yr arholiadau, rhoddwyd nifer o fesurau ar waith yn lleol ac yn rhanbarthol - roedd y rhain yn cynnwys ysgolion unigol yn gosod eu targedau eu hunain, aseswyd a heriwyd y targedau hyn ar hyd y flwyddyn i sicrhau eu bod yn rymus ac yn debygol o gael eu bodloni; roedd strategaeth ranbarthol ar waith ar gyfer ‘ysgolion mewn perygl’ at y diben o dargedu’r gefnogaeth angenrheidiol i’r ysgolion hynny; ffurfiodd trafodaethau ar dargedau a pherfformiad ran o’r busnes ym mhob cyfarfod Fforwm y Penaethiaid a chafodd ei gynnwys hefyd mewn trafodaethau rheolaidd rhwng cynrychiolwyr Porth GwE a’r Penaethiaid Adrannau; nodwyd ysgolion sampl  i gydweithio ar draws y rhanbarth, Cymru ac ymhellach i ffwrdd gydag adolygiad i rannu arfer gorau a byddai cynhadledd ranbarthol yn cael ei chynnal ar 12 Chwefror ar osod targedau, arfer gorau ac ati.

·         ynghlwm â’r adroddiad roedd copi o nodau ac amcanion Cynllun Busnes GwE mewn perthynas â’r canlyniadau addysgol i fyfyrwyr Sir Ddinbych – manylodd hyn ar y gwaith oedd yn cael ei wneud ac yn cael ei gyflawni yn Sir Ddinbych i sicrhau gwell perfformiad a chanlyniadau

·         y prif amcan cyffredinol ar gyfer 2015/16 oedd gwella perfformiad cynhwysol Lefel 2 o ffigur blwyddyn ddiwethaf o 56.1%, oedd yn siomedig,  i 60.8%. Pe cyflawnir hyn, byddai’r swyddogion yn hynod bles. Nododd y wybodaeth gyfredol y byddai hyn yn cael ei gyflawni

·         yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15, roedd nifer o ysgolion unigol yn Sir Ddinbych wedi cofrestru  cwymp sylweddol mewn perfformiad. Gyda’r bwriad o gefnogi gwelliant yn yr ysgolion hyn, sefydlwyd ‘bwrdd adfer’ i fonitro’u perfformiad a nodi unrhyw bryderon yn gynnar. Cyflwynwyd rhybudd swyddogol i un ysgol wella.

 

Rhoddodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg wybod i’r Pwyllgor fod Aelodau Bwrdd Gwaith GwE yn siomedig gyda pherfformiad arholiadau 2014/15 ac o ganlyniad, rhoesant gyfarwyddyd i’r swyddogion weithio ar wella cyrhaeddiad. Pwysleisiodd hefyd fod Llywodraeth Cymru’n tueddu i ganolbwyntio’u sylw ar berfformiad cynhwysol Lefel 2 yn hytrach nag ar ddatblygu pob agwedd ar alluoedd y myfyrwyr, sef gweledigaeth yr Athro Donaldson ar gyfer addysg.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cododd yr aelodau ac uwch swyddogion y Cyngor y pwyntiau canlynol –

 

·         yr angen am her effeithiol yng ngoleuni llithriant y llynedd mewn perfformiad

·         yr angen am fformiwla ddibynadwy i gyfrifo’r   sefyllfa prydau ysgol am ddim, y grant amddifadedd disgyblion, a’u cydberthyniad gyda pherfformiad addysgol cyffredinol

·         cynaliadwyedd gwell perfformiad mewn rhai ysgolion heb gefnogaeth a mewnbwn ychwanegol parhaus

·         pryderon mewn perthynas â phwysau ychwanegol sy’n cael eu rhoi ar benaethiaid yn sgil disgwyliadau’r GwE ohonynt i asesu eu cyd-benaethiaid a herio ysgolion eraill

·         diffyg meincnodi ar gyfer ysgolion arbennig i’w cynorthwyo i gymharu eu perfformiad a’u canlyniadau gydag ysgolion arbennig eraill

·         y risg sy’n gysylltiedig gan y defnydd o ffigurau canran i gamliwio ffigurau perfformiad cyffredinol

·         pryderon nad oedd gwelliant mewn perfformiad ar draws Gogledd Cymru’n cael ei gyflawni mor gyflym â rhanbarthau eraill Cymru

·         rôl y cyrff llywodraethu wrth herio a chefnogi gwelliant

·         yr angen i fodloni’r targed o 60.8% a osodwyd ar gyfer 2015/16, neu fydd awdurdodau addysg lleol yn hynod siomedig â’r model effeithiolrwydd ysgolion rhanbarthol a’r gwasanaeth gwella, a

·         phryderon mewn perthynas â recriwtio penaethiaid o safon uchel a’u cadw i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i’r pwyntiau uchod, gwnaeth Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, yr Uwch Ymgynghorydd Her a’r Pennaeth Addysg –

 

·         roi gwybod ers i GwE gael ei sefydlu tair blynedd yn ôl roedd canlyniadau arholiadau 2015 wedi gweld yr amrywiaeth fwyaf mewn ffigurau rhwng y canlyniadau targed a a’r gwir ganlyniadau yn Ysgol Gyfun y Rhyl, roedd yr amrywiaeth mewn ysgolion eraill yn rhai bach iawn

·         cydnabod bod cynnydd a’r gyfradd wella ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol heb fod cystal ag yr oedd GwE wedi’u disgwyl, felly roedd angen rheoli tynnach ar asesiadau perfformiad i sicrhau bod y targedau disgwyliedig yn agosach at y ffigurau canlyniad gwirioneddol. Tra’r oedd yr ysgolion yn rhagweld eu bod yn debygol o berfformio dros y ffigur targed o 60.8% eleni a gytunwyd gan GwE, roedd GwE wedi cytuno’r ffigur o 60.8% gyda nhw er mwyn darparu ar gyfer ffactorau annisgwyl a pherfformiad ysgolion arbennig. Byddai’r gwir ffigurau perfformiad yn dod yn llawer cliriach ar ddechrau mis Mawrth ar ôl cadarnhau  canlyniadau ceisiadau cynnar Saesneg a Mathemateg. Eoedd y canlyniadau Mathemateg eisoes ar gael ac yn ffafriol

·         cadarnhau bod gan gyrff llywodraethu yr ysgolion ran hanfodol i’w chwarae wrth wella ysgolion ar draws y bwrdd

·         er yr ymddengys bod cyflawni targed o 60.8% yn 2015/16 yn arwydd o welliant sylweddol ar ganlyniadau 2014/15, teimlai’r swyddogion bod modd ei gyflawni oherwydd bu canlyniadau llynedd yn hynod siomedig. Er mwyn cyflawni’r targed a osodwyd, roedd angen i’r gwasanaeth sicrhau bod y strategaethau ymyrryd yn gweddu i anghenion y disgyblion unigol

·         rhoi sicrwydd bod y penodiadau penaethiaid diweddar yn Sir Ddinbych wedi bod yn ymgeiswyr cryf iawn. Roedden nhw’n hyderus hefyd y byddai ganddynt gronfa ddigonol o ymgeiswyr yn gwneud cais am y ddwy swydd pennaeth ysgol uwchradd wag sy’n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd, ond cydnabuwyd bod heriau cenedlaethol mewn perthynas â nifer y darpar ymgeiswyr penaethiaid. Mewn cyfarfod Bwrdd Gwaith diweddar, trafododd GwE yr angen i gael digon o unigolion gyda chymwysterau addas ym mhob maes addysg i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl, yn ogystal ag argaeledd cyfleoedd am welliant parhaus a datblygiad personol i bobl yn y proffesiwn i sicrhau ei gynaliadwyedd tymor hir.

 

Wrth gloi’r drafodaeth –

 

PENDERFYNODD yr aelodau wneud y canlynol yn amodol ar yr arsylwadau uchod -

 

(a) derbyn y wybodaeth am berfformiad ysgolion yn erbyn perfformiad blaenorol a’r meincnodau allanol oedd ar gael ar hyn o bryd, a

 

(b) phwysleisio’r angen am her reolaidd a pharhaus o’r asesiadau a monitro’r targedau i sicrhau y byddai perfformiad gwirioneddol yn cael ei fodloni ac o bosibl yn rhagori ar y targed a osodwyd.

 

Torrodd y pwyllgor yn y fan hon (10.45 a.m.) am egwyl â lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: