Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CLUDIANT YSGOLION CYNRADD

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn darparu eglurder ar y polisi ynghylch Cludiant Ysgolion Cynradd.

9.40 a.m. - 10.15 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn rhoi eglurhad ar y polisi’n ymwneud â Chludiant Ysgolion Cynradd a’i ddefnydd. Gofynnwyd am yr adroddiad gan y Cynghorydd Arwel Roberts yng ngoleuni’r newidiadau diweddar i’r ddarpariaeth cludiant yn ardaloedd Rhuddlan a Diserth ac roedd yn cynnwys cyfeiriad at y sail ddeddfwriaethol i ddarparu cludiant ysgol fel y manylir yn y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

 

Rhoddwyd gwybod i’r aelodau nad oedd y polisi ar Gludiant Ysgolion Cynradd wedi newid yn ystod adolygiad diweddar Medi 2015. Fodd bynnag, yn dilyn yr adolygiad hwn, sicrhaodd y Gwasanaeth fod y cludiant Cynradd ac Uwchradd i’r ‘ysgol addas agosaf’ yn cael ei roi ar waith yn gywir. Canlyniad y defnydd cywir o’r polisi oedd y sefyllfa sydd wedi codi yn Rhuddlan. Roedd niferoedd y disgyblion oedd yn mynychu Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl o Ddiserth wedi cwympo yn sgil y disgyblion yn mynychu Ysgol y Llys yn gywir.  Felly, ailaseswyd y gwasanaeth o Ddiserth  i Dewi Sant gan fod y cerbyd yn llawer gormod o faint ar gyfer y niferoedd oedd yn teithio arno. Roedd y gwasanaeth hwn yn dod trwy Ruddlan lle’r oedd rhai rhieni’n talu consesiwn bach i ddefnyddio’r bws; fodd bynnag, wrth newid maint y cerbyd, ni fyddai teithio am gonsesiwn bellach ar gael ac felly, cynhaliwyd asesiad o lwybrau cerdded diogel i’r ysgol o Ruddlan. Cynhaliwyd asesiad diogelwch newydd o’r llwybr yn ystod mis Rhagfyr 2015. Casglodd yr asesiad, oherwydd y cynnydd yng nghyfaint y traffig sy’n defnyddio’r A547 a achoswyd yn sgil cyflwyno traffig un lôn ar draws y bont yn Rhuddlan ei hun, na allai’r llwybr gael ei ystyried yn llwybr diogel i’r ysgol ar hyn o bryd. Gyda’r bwriad o leihau unrhyw risg i’r dyfodol  yn yr ardal hon, roedd gwaith gwella’n cael ei gomisiynu i groesfan y ffordd. Yn dilyn cwblhau’r gwaith hwn, byddai diogelwch y llwybr yn cael ei ailasesu. Tan i’r gwaith gael ei wneud a’r llwybr ei ailasesu, bydd cludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol yn cael ei ddarparu i’r disgyblion sy’n cael eu heffeithio o ardal Rhuddlan.

 

Dyfynnodd y Cynghorydd Arwel Roberts o Ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru diweddar i’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a gyfeiriodd at bwerau disgresiwn awdurdodau lleol i “ddarparu cludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg ni waeth beth yw’r meini prawf pellter er mwyn hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg” ac i’w “dyletswydd gyffredinol i hyrwyddo mynediad i addysg trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymarfer eu swyddogaethau dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr 2008.”

 

Cododd yr aelodau’r pwyntiau canlynol –

 

·         dylai’r Awdurdod ddefnyddio’i bwerau disgresiwn yn yr ardal hon, oherwydd, er gwaetha’r gwelliannau arfaethedig i’r groesfan wrth Fryn Cwybr, byddai’r llwybr yn parhau i fod yn beryglus yn y fan honno a hefyd ym Mryn Cwnin

·         gallai problemau tebyg ddigwydd mewn perthynas â llwybrau ysgolion cynradd eraill

·         holwyd a oedd y polisi’n gyson â chanllawiau’r   Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau

·         cwestiynon nhw a oedd y defnydd o’r polisi yn yr achos penodol hwn yn gosod polisi cyn diogelwch y plant

·         holwyd a oedd yr holl bolisïau ym maes addysg yn cyd-fynd â’i gilydd, oherwydd yn yr achos hwn, ymddengys bod y polisi cludiant ysgolion cynradd yn groes i’r Polisi Cymraeg mewn Addysg.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, gwnaeth yr Aelod Arweiniol dros Addysg, y Pennaeth Addysg a’r Rheolwr Adnoddau a Chynllunio Addysg -

 

·         bwysleisio nad oedd y polisi cludiant o’r cartref i’r ysgol ar gyfer Ysgolion Cynradd wedi newid, ond roedd yn cael ei roi ar waith yn fwy trwyadl nag a wnaed yn y gorffennol

·         rhoi gwybod bod defnydd y Cyngor o’r polisi’n gyson â darpariaethau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

·         cadarnhau bod y llwybr presennol wedi’i ystyried yn anniogel tan i’r Gwasanaeth Priffyrdd ymgymryd â’r gwelliannau angenrheidiol ac ailasesu diogelwch y llwybr. Hyd nes i’r gwaith a’r asesiad hwnnw ddigwydd, byddai cludiant am ddim yn cael ei ddarparu i’r disgyblion yr effeithir arnynt o ardal Rhuddlan

·         pwysleisio nad oedd y Cyngor yn disgwyl i’r disgyblion gerdded ar eu pen eu hunain o’u cartrefi i’r ysgol nac i’r gwrthwyneb. Cyfrifoldeb y rhieni oedd cael disgyblion ysgol gynradd i’r ysgol, pan oeddent yn byw llai na 2 filltir o’r ysgol

·         rhoi gwybod bod y wybodaeth am yr asesiad llwybr diogel ar gael petai’r aelodau am ei weld

·         cadarnhau bod yr ysgol ar agor i drafod amrywiaeth o atebion i’r broblem h.y. bws cerdded, cynnwys y gymuned ac ati.

 

Tynnodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg sylw’r aelodau at oblygiadau posibl argymell rhoi disgresiwn ar waith dan yr amgylchiadau penodol hyn, gan y byddai’n gosod cynsail anghynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth ar yr uchod, tynnodd y Rhiant-Lywodraethwr a’r Aelod Cyfetholedig ar gyfer y sector Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) sylw at faterion yn ymwneud â darpariaeth cludiant ysgol ar gyfer disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol yn y sir. Teimlai fod angen mwy o hyfforddiant ar yrwyr a hebryngwyr ysgol ar sut i ddelio gydag anghenion meddygol penodol a oedd yn fwy amlwg mewn disgyblion ADY cynradd ac uwchradd ill dau. Cydnabyddodd y Pennaeth Addysg fod hwn yn faes oedd angen ei adolygu. Rhoddodd wybod ei bod hi eisoes wedi cynnal trafodaethau rhagarweiniol gyda Rheolwr Cludiant Teithwyr y Cyngor yr wythnos flaenorol gyda’r bwriad o adolygu cludiant ysgol i ddisgyblion ADY.

 

Wrth gloi’r drafodaeth, cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts y dylai’r Cyngor ddefnyddio’i bwerau disgresiwn mewn perthynas â darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol i ddisgyblion Rhuddlan sy’n mynychu Ysgol Dewi Sant yn y Rhyl. Eiliodd y Cynghorydd Dewi Owens y cynnig a chefnogodd y Pwyllgor yr argymhelliad a roddwyd gerbron. Felly -

 

PENDERFYNWYD argymell bod y Cyngor yn adolygu ei benderfyniad mewn perthynas â darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol i ddisgyblion o Ruddlan sy’n mynychu Ysgol Dewi Sant yn y Rhyl ac, yn unol â’i bwerau disgresiwn, yn trefnu teithio gyda chonsesiwn i’r disgyblion hynny nad oes ganddynt yr hawli i gludiant am ddim o’r cartref i’r ysgol.

 

 

Dogfennau ategol: