Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DADANSODDI ADRODDIADAU AROLYGU

Derbyn dadansoddiad o Adroddiadau Arolygon diweddar gan Estyn.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cynghorydd Herio GwE (CH) adroddiad (wedi’u cylchredeg eisoes) oedd yn darparu dadansoddiad o Adroddiadau Archwiliadau Estyn a gyhoeddwyd yn nhymor yr Hydref, o safbwynt darpariaeth Addysg Grefyddol, addysg ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ac addoli ar y cyd, mewn tair ysgol rhwng Tachwedd 2014 ac Ionawr, 2015. 

 

Mae archwiliadau wedi eu cynnal yn Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Llanelwy, Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd ac Ysgol Gynradd Hiraddug, Diserth, ac roedd manylion am bob ysgol wedi eu hymgorffori yn yr adroddiad a chawsant eu crynhoi gan y CH.

 

Rhoddodd y CH grynodeb i’r aelodau am ganfyddiadau yn ymwneud â phob ysgol a chafodd y sylwadau a chanlyniadau cadarnhaol eu nodi gan yr Aelodau.  Eglurodd y CH bod y sylwadau a dderbyniwyd wedi bod yn fyr a thalodd sylw penodol i’r canlynol:-

 

Sylwadau Cadarnhaol – Mae Perfformiad Cyfredol yn dangos bod staff yn darparu cyfleoedd da iawn i ddisgyblion ddatblygu eu haddysg ysbrydol, gymdeithasol, foesol a diwylliannol (Hiraddug).

 

Cwestiwn Allweddol 1: Pa mor dda yw'r deilliannau?

 

Lles:-

 

·         Maent yn datblygu dealltwriaeth dda o'u rôl yn y gymuned leol drwy gysylltiadau cryf gyda'r eglwys gadeiriol ac ymweliadau â'r hosbis leol. (Ysgol V.P. Llanelwy)

·         Mae disgyblion yn trefnu gweithgareddau i godi arian i nifer o elusennau ac mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ymwybyddiaeth y disgyblion o anghenion pobl eraill.  Cynhaliwyd bore coffi llwyddiannus er mwyn codi arian i apêl Nepal.  (Bro Dyfrdwy)

·         Mae disgyblion iau yn datblygu dealltwriaeth werthfawr o barch, gofal a phryder am eraill, o fewn yr ysgol ac yn y byd ehangach. (Hiraddug). 

 

Cwestiwn Allweddol 2:       Pa mor dda yw'r ddarpariaeth?           

 

Profiadau dysgu:-

   

·         Mae ymweliadau gan fusnesau lleol, cysylltiadau â'r eglwys gadeiriol a gweithgareddau allgyrsiol yn cyfoethogi dysgu'r disgyblion yn dda.  (Ysgol V.P. Llanelwy)

·           Ddealltwriaeth dda o ddinasyddiaeth fyd-eang trwy eu cyfranogiad yn y Diwrnod Ewropeaidd a phrosiect o gefnogaeth i blentyn yn Borneo. (Ysgol V.P. Llanelwy)

·           Mae'r ysgol yn darparu ystod dda o brofiadau amrywiol a diddorol ar draws yr ysgol, sy'n cwrdd â holl ofynion y Cyfnod Sylfaen, y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol yn effeithiol.  (Bro Dyfrdwy)

·           Mae'r ysgol yn darparu ystod eang o gyfleoedd gwerthfawr i godi ymwybyddiaeth y disgyblion o ddinasyddiaeth fyd-eang trwy waith thematig, a chysylltiadau â gwledydd eraill fel Lesotho.  (Bro Dyfrdwy)

·           Mae'r ddarpariaeth ar gyfer hyrwyddo ymddygiad da a datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion yn effeithiol.  Mae cyfleoedd cyson i ddisgyblion fyfyrio a datblygu eu hagweddau ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol trwy wasanaethau ysgol gyfan rheolaidd a gweithgareddau eraill yn y gymuned leol. (Bro Dyfrdwy)

·           Mae cysylltiadau diddorol gydag India a Tsieina wedi bod o gymorth i ddisgyblion ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth werthfawr o ddiwylliannau ac arferion eraill, sydd wedi cyfoethogi natur ofalgar a pharchus yr ysgol. (Hiraddug)

 

Gofal, cymorth ac arweiniad:-

 

·         Mae staff yn datblygu datblygiad ysbrydol, diwylliannol, moesol a chymdeithasol y disgyblion yn dda. Mae ymwelwyr ac ymweliadau y tu allan i'r ysgol yn darparu profiadau gwerth chweil sy’n helpu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion.  (Ysgol V.P. Llanelwy)

·         Mae cyfleoedd cyson i ddisgyblion fyfyrio a datblygu eu hagweddau ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol trwy wasanaethau ysgol gyfan rheolaidd a gweithgareddau eraill yn y gymuned leol. (Bro Dyfrdwy)

·         Caiff disgyblion gyfleoedd buddiol iawn ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol.  Mae cysylltiadau rhyngwladol cryf yr ysgol yn datblygu dealltwriaeth ysbrydol a diwylliannol y disgyblion yn effeithiol.  Mae’r ddarpariaeth o ansawdd uchel ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol yn y Cyfnod Sylfaen yn arwain at ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth gadarn o werthoedd gonestrwydd, tegwch a pharch at eraill. (Hiraddug)

 

Yr Amgylchedd Dysgu:-

 

·      Cymuned gynhwysol iawn lle mae staff yn trin pob disgybl yn gyfartal, yn deg a chyda pharch.  Mae staff yn hyrwyddo amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal yn llwyddiannus ac yn sicrhau bod gan bob disgybl fynediad cyfartal i bob agwedd ar fywyd yr ysgol.  Mae ethos gofalgar yr ysgol yn annog disgyblion i gael parch a goddefgarwch tuag at eraill.  (Ysgol V.P. Llanelwy)

·      Cymuned glos a chroesawgar sy'n creu ethos cynhwysol ac mae ystod o bolisïau a gweithdrefnau yn eu lle i hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth. (Bro Dyfrdwy)

·      Mae'r ysgol yn rhoi pwyslais clir ar gydnabod a dathlu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal yn dda.  (Hiraddug)

 

Cwestiwn allweddol 3: Pa mor dda yw arweinyddiaeth a rheolaeth?

 

Gweithio mewn partneriaeth:-

 

·      Mae cysylltiadau gyda'r eglwys gadeiriol, y gymuned leol ac asiantaethau allanol yn gwneud cyfraniad effeithiol i ansawdd darpariaeth yr ysgol.  (Ysgol V.P. Llanelwy)  Cadarnhaodd y CH mai ychydig o sylwadau yn unig fu gan Estyn o safbwynt rhyngweithio a chydlafurio gyda chymunedau ffydd yn ystod y cylch dan sylw.  Cafwyd cadarnhad na gyflwynodd yr Eglwys yng Nghymru Adroddiadau Adran 52.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd J.A. Davies am y ffaith bod tua 27% o ddisgyblion Ysgol Fabanod VP Llanelwy ag anghenion dysgu ychwanegol, cadarnhaodd y CH mai tua 25% oedd canran cyfartalog Cymru (20% yw’r ffigwr mewn gwirionedd).  Cyfeiriodd at y broses sydd wedi ei mabwysiadu ar gyfer asesu disgyblion, o safbwynt defnyddio’r data sydd ar gael, a rhoddodd fanylion o’r broses o safbwynt y Gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y CH bod Cwestiynau Allweddol 2 yn ymwneud ag amgylchedd yr ysgol a dysgu a phrofiadau'r disgyblion, a bod Cwestiwn Allweddol 3 yn ymwneud ag arweinyddiaeth a sicrhau partneriaethau.

 

Cyflwynwyd cwestiwn gan y Cynghorydd J.A. Davies ynghylch gweithredu’r Polisi Bwlio.  Eglurodd y CH y gallai'r mater o fwlio gael ei drafod o dan Gofal, cefnogaeth ac arweiniad, rhoddwyd sylw i’r cyfleoedd rheolaidd mae disgyblion yn ei gael i adlewyrchu a datblygu eu hagweddau ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol drwy wasanaethau ysgol gyfan rheolaidd a gweithgareddau eraill yn y gymuned leol, yn benodol y profiadau a geir yn yr ysgol a’r ymagweddau y mae'r ysgolion yn eu cymryd er mwyn delio gyda’r broblem.

 

Mynegwyd pryderon gan y Cynghorydd D. Owens am yr angen am gysondeb ynghylch y wybodaeth a ddarperir o safbwynt pob ysgol yn unigol.  Cytunodd y CH i edrych ar y pryderon a fynegwyd o safbwynt y broses adrodd.

 

PENDERFYNWYD - fod y Pwyllgor yn derbyn a nodi’r adroddiad yn amodol ar yr uchod.

 

 

Dogfennau ategol: