Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB AR GYFER 2016/17

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y broses o bennu'r gyllideb ac yn manylu ar gynigion i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir i osod cyllideb refeniw'r Cyngor ar gyfer 2016/2017.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad y Gyllideb 2016/2017 (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Roedd yr adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad  Dros Dro Llywodraeth Leol 2016/2017 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2016/2017.

 

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r Cyngor bennu cyllideb gytbwys a chyflawnadwy cyn dechrau pob blwyddyn ariannol ac i osod lefel sy'n deillio o Dreth y Cyngor i ganiatáu i filiau gael eu hanfon at breswylwyr.

 

Mae’r Cyngor hefyd yn gorfod darparu trosolwg o broses y gyllideb ac effaith Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol a gwneud argymhellion ar gyfer gosod y gyllideb ar gyfer 2016/17, gan gynnwys lefel Treth y Cyngor.

 

Roedd y Setliad a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2015 yn llawer gwell na'r disgwyl gyda gostyngiad arian parod cyffredinol i Lywodraeth Leol o -1.4% a gostyngiad i Sir Ddinbych o 1.2%.

 

Roedd yr ystod o ostyngiadau ar draws cynghorau Cymru yn amrywio o -0.1% (Caerdydd) i -4.1% (Powys) gyda'r effaith yn gyffredinol yn waeth i siroedd gwledig.  Roedd mecanweithiau ariannu gwaelodol blaenorol wedi cael eu tynnu o’r Setliad a dyna pam bod yr ystod yn gymharol eang.

 

Roedd y broses Rhyddid a Hyblygrwydd ar fin dod i ben gyda gosod cyllideb 2016/17 a bydd proses cyllideb newydd yn cael ei datblygu ar gyfer 2017/18.

 

Ym mis Rhagfyr 2015, roedd adroddiad i'r Cyngor Llawn yn nodi'r sefyllfa a rhagdybiaethau cyllideb diweddaraf, a oedd yn dangos bwlch cyllidebol sy'n weddill o £2filiwn.  Mae'r bwlch hwn wedi ei gyfrifo gyda nifer o ragdybiaethau sydd wedi newid o ganlyniad i’r Setliad Amodol.  Cafodd y rhain eu hegluro mewn manylder yn y gweithdy cyllideb gydag Aelodau ar 14 Rhagfyr 2015.

 

Roedd y newidiadau i werth y Setliad yn caniatáu ar gyfer cynnig i ostwng lefel y cynnydd arfaethedig yn Nhreth y Cyngor o 2.75% i gyfartaledd o 1.5%.

 

Cafwyd trafodaeth, a chodwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:

·       Roedd amrywiol awgrymiadau wedi cael eu codi mewn sesiynau cyllideb blaenorol a gofynnwyd am ddiweddariadau.     Cadarnhawyd y byddai'r awgrymiadau a godwyd yn y sesiynau Cyllideb wedi cael eu dwyn ymlaen pe bai arbedion pellach yn ofynnol.  Byddai'r awgrymiadau yn cael eu hystyried fel rhan o broses y gyllideb 2017/18. 

·       Codwyd diffyg taliadau sy'n ofynnol ar gyfer cynlluniau pensiwn, ynghyd â materion ynghylch cyfraniadau pensiwn athrawon. Eglurwyd y gwahaniaethau rhwng ariannu'r cynllun pensiwn Athrawon a'r cynllun Llywodraeth Leol, gan gynnwys trin arian diffyg .. Eglurwyd bod y ddau gynllun pensiwn yn cael eu llywodraethu gan ddeddfwriaeth y DU.

·       Cadarnhaodd y Cynghorydd Joan Butterfield, fel Arweinydd y Grŵp Llafur oherwydd bod y Setliad gan Lywodraeth Cymru yn well na'r disgwyl, roedd y Grŵp Llafur yn cytuno i gymeradwyo'r cynnydd o 1.5% yn Nhreth y Cyngor  Dywedodd y Cynghorydd Butterfield hefyd fod y Grŵp Llafur yn gobeithio y byddai’r Setliad ar gyfer 2016/17 yn gwarchod gwasanaethau ar gyfer y bobl fwyaf diamddiffyn ac ynysig o fewn y sir.  Yna mynegodd y Cynghorydd Butterfield bryder ynghylch praesept yr Heddlu.  Cadarnhawyd bod yr Heddlu a Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn gosod eu lefel eu hunain o Dreth y Cyngor a oedd yna’n cael ei ychwanegu at un y Cyngor Sir.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Brian Blakeley ei fod wedi mynychu Pwyllgor yr Heddlu a Throseddu y diwrnod cynt ac mai’r cynnydd yn y praesept gan yr Heddlu oedd 2.47%.

·       Roedd cynnwys £0.5m o'r balansau fel rhan o'r cyllid o’r gyllideb ar gyfer 2015/16 yn cael ei gwestiynu.  Gofynnwyd am faint y balansau a'r ddyled bresennol.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod y gyllideb ar gyfer 2015/16 wedi ei gosod gyda chyfraniad arian o'r balansau ac y byddai hyn yn parhau am dair blynedd ariannol. Byddai'r cyfraniad o falansau ond yn cael ei wneud os oes angen yn ystod y flwyddyn ariannol. . Felly os, er enghraifft, bod cynnyrch treth y cyngor ychydig yn uwch na'r hyn oedd wedi cael ei asesu yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn, efallai na fydd angen i’r swm a gyllidebwyd gael ei dynnu i lawr.  Roedd lefel y ddyled net yn £191miliwn, a balansau cyffredinol yn £7.5miliwn.  Byddai adroddiad manwl yn cael ei gyflwyno yn y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol y diwrnod canlynol (27 Ionawr, 2016) a fyddai'n gosod y dangosyddion yn fanylach. 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Democrataidd gan fod pensiynau wedi eu trafod, byddai'n ofynnol i Aelodau ddatgan cysylltiad personol os oeddent naill ai'n talu  i mewn neu'n derbyn pensiwn addysgu/ Llywodraeth Leol.

 

·        Roedd y gyllideb ynghylch Treth y Cyngor fel arfer yn cael ei dwyn gerbron y Cyngor Llawn ar yr adeg hon bob blwyddyn gan ei fod yn galluogi i filiau Treth y Cyngor gael eu paratoi cyn dechrau mis Ebrill.

·       Ni allai'r mater o safbwynt unrhyw broblemau y gellid eu rhagweld yn y 12 mis nesaf gael eu gwarantu ar hyn o bryd.  Gallai dosbarthiad a thoriadau i grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru fod yn broblem fel y gallai dadleuon parhaus am ariannu i gynghorau gwledig. Trafodwyd y mater o gost cartrefi gofal/nyrsio preifat hefyd yn fyr.

 

Mynegodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans ei werthfawrogiad fod y Setliad wedi bod yn llawer gwell na'r disgwyl.  Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd cyfanswm o £28 miliwn mewn toriadau wedi ei wneud ond roedd Sir Ddinbych yn parhau i fod yn Gyngor oedd yn perfformio’n dda.  Roedd y Cyngor wedi cyfathrebu gyda thrigolion a oedd wedi mynegi eu bod yn ffafrio Treth y Cyngor isel ac i wasanaethau barhau i gael eu darparu.  Diolchodd y Cynghorydd Evans i'r Swyddogion Cyllid am eu gwaith mewn sefyllfa anodd dros ben.

 

Mynegodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau hefyd ei ddiolch i'r holl Aelodau a oedd wedi cymryd rhan yn y broses, ynghyd â Swyddogion, y Prif Gyfrifydd, Steve Gadd a’r Prif Swyddog Cyllid, Richard Weigh am eu gwaith caled.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad.

 

Ar y pwynt yma, gofynnodd y Cynghorydd Eryl Williams am newid bach i Atodiad 1 i ddiwygio'r geiriad i "defnydd posibl o falansau" yn hytrach na "defnydd o falansau" - roedd pob aelod a oedd yn bresennol yn gytûn.

 

PENDERFYNWYD:

·       Cyngor yn nodi effaith Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol ac nad oedd angen unrhyw arbedion pellach oni bai am y £5.2miliwn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan wasanaethau ar gyfer 2016/17.

·       Cyngor yn cymeradwyo cynigion y gyllideb a nodir isod, yn seiliedig ar Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol er mwyn cwblhau'r gyllideb 2016/17:

(i)              I gynyddu cyllid i ysgolion i fodloni’r lefel ddiogelu genedlaethol o +1.85%.

(ii)             Neilltuo cyllideb wrth gefn un flwyddyn o £480k ar gyfer 2016/17 er mwyn lliniaru'r risgiau i gyflawni’r gyllideb a nodir yn yr adroddiad hwn

(iii)            Cymeradwyo’r cynnydd cyfartalog o ganlyniad yn Nhreth y Cyngor o 1.5%.

·       Diwygio'r geiriad yn Atodiad 1 o "defnydd o falansau" i "defnydd posibl o falansau"

 

 

Dogfennau ategol: