Eitem ar yr agenda
BIL LLYWODRAETH LEOL (CYMRU)
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd (copi ynghlwm) ar y newidiadau a chynigion i ddiwygio fframwaith
deddfwriaethol llywodraeth leol Cymru.
Cofnodion:
☻Roedd
copi o adroddiad gan Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd (RhGD), ar y
newidiadau a chynigion i ddiwygio fframwaith deddfwriaethol Llywodraeth Leol
Cymru, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac
esboniodd fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn adolygu sut y dylai'r llywodraeth
leol yng Nghymru weithredu a gwneud cynigion gan gynnwys deddfwriaeth Papur
Gwyn Grym i Bobl Leol, Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 newydd ac
ymgynghoriad drafft Mesur Llywodraeth Leol (Cymru). Eglurodd y RhGD fod yr
adroddiad yn crynhoi rhai o'r materion allweddol o'r diwygiadau.
Roedd
darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 newydd, a oedd wedi cael ei gymeradwyo
ar 25 Tachwedd 2015, yn caniatáu ar gyfer gwaith paratoadol i alluogi rhaglen o
uno a diwygio llywodraeth leol a chynnwys darpariaethau ar gyfer uno cynnar
gwirfoddol dau neu fwy o Siroedd neu Gynghorau Bwrdeistref Sirol erbyn Ebrill
2018. Roedd y Ddeddf yn diwygio Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 o ran Panel
Taliadau Annibynnol Cymru, a oedd yn gosod taliadau lwfans ar gyfer Aelodau, ac
arolwg o Gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus, yn ogystal â Deddf Llywodraeth
Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 o ran arolygon etholiadol. Mae dolen
i Ddeddf 2015 wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.
Roedd Llywodraeth
Cymru wrthi’n ymgynghori ar Fesur drafft
Llywodraeth Leol (Cymru), gyda sylwadau i'w dychwelyd erbyn 15 Chwefror,
2016. Amcan y Mesur drafft oedd cwblhau'r rhaglen o uno awdurdodau lleol a nodi
fframwaith ddeddfwriaethol newydd a diwygiedig
ar gyfer democratiaeth, atebolrwydd, perfformiad ac elfennau o gyllid
awdurdodau lleol. Byddai hefyd yn sefydlu Comisiwn Staff
Gwasanaethau Cyhoeddus statudol.
Cyfeiriwyd at y
diddordeb yn yr uno arfaethedig Cynghorau Sir a Bwrdeistref Sirol, a oedd wedi
ei nodi yn Rhan 1 o'r Mesur Seneddol.
Hyd yn oed heb y cynigion
hynny, byddai Rhannau 2 i 8 o'r Mesur arwain at y diwygiad mwyaf arwyddocaol o
lywodraeth leol yng Nghymru ers Deddf Llywodraeth Leol 2000, a gyflwynodd y
model gweithredol / craffu ar lywodraethu. Roedd
Atodiad 1 yn rhoi crynodeb o rai o'r prif bwyntiau. Cafodd
dolen i'r dogfennau ymgynghori llawn a chyfarwyddiadau ar sut i ymateb i
gynigion Llywodraeth Cymru ei ddarparu.
Darparodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd grynodeb manwl o'r meysydd
canlynol a oedd wedi'u cynnwys yn ei Gyflwyniad PowerPoint:-
·
Ad-drefnu Llywodraeth Leol
·
Dewis Cyngor Sir Ddinbych
·
Llinell Amser
·
Pwyllgor pontio
·
Cyfranogiad y cyhoedd
·
Pwyllgor Ardal Cymuned
·
Mynediad i Gyfarfodydd
·
Cymwysterau etholiadol
·
Y Cabinet a'r Prif Weithredwr a Swyddogaethau
·
Asedau
·
Gwelliannau mewn Llywodraethu
·
Cynghorau Cymuned
Darparodd y swyddogion yr ymatebion canlynol i faterion a chwestiynau a
godwyd gan yr Aelodau:-
-
Mynegwyd pryderon, er bod Llywodraeth
Cymru wedi argymell cyflwyno a defnyddio mynychu o bell, nid oeddent wedi
mabwysiadu a defnyddio systemau o'r fath. Eglurodd y RhGD fod yna broblemau
technegol gyda defnyddio offer o'r fath.
-
Amlygodd y Cyng. W.L. Cowie yr agweddau
negyddol o gyflwyno hyfforddiant gorfodol ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n
ymgymryd â dyletswyddau ar sail wirfoddol.
-
Gofynnodd y Cyng. W.L. Cowie effaith
penderfyniadau a wnaed yn y dyfodol, o ran Ad-drefnu Llywodraeth Leol, o ran
gwaith y gwaith sy’n cael ei wneud sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau
Democrataidd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud mewn perthynas â'r
cynlluniau at y dyfodol a'r map a fyddai’n cael ei fabwysiadu. Cyfeiriodd at yr heriau sy'n
wynebu'r Awdurdod yn y dyfodol, o ran y penderfyniadau sydd i'w gwneud a'r
gwaith sydd i'w wneud gan yr Awdurdodau Cysgodol. Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio
at benderfyniad y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau i gymeradwyo'r gwaith sy'n
cael ei wneud, rhwng Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy, i fwrw ymlaen â ffurfio
Cyd-fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Eglurodd y gallai unrhyw waith a wneir, a oedd yn gysylltiedig â'r Cynllun
Corfforaethol ar y cyd, gael ei ddiwygio i gyd-fynd â chyflwyno unrhyw
drefniadau amgen yn y dyfodol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.
-
Mynegwyd pryderon ynghylch y
posibilrwydd o ddyblygu gwaith, a darpariaeth adnoddau staffio, yn ystod y
cyfnod o Gyngor Cysgodol.
-
Mynegodd y Cadeirydd bryder, a holodd y
rhesymau, dros y methiant i egluro'r ffiniau Awdurdodau Lleol arfaethedig ar
gyfer Gogledd Cymru yn y dyfodol.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gwasanaethau
Democrataidd a’i staff am y wybodaeth a ddarparwyd.
PENDERFYNWYD – y dylid derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a
roddwyd.
Dogfennau ategol: