Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 46/2015/0969/PF - HEN SAFLE PILKINGTON SPECIAL GLASS, FFORDD GLASCOED, LLANELWY

Ystyried cais i adeiladu mynedfa newydd a newidiadau i'r mynediad presennol ar Hen Safle Pilkington Special Glass, Ffordd Glascoed, Llanelwy (copi wedi’i atodi).

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol gyda’r eitem hon gan fod yr ymgeisydd yn gwsmer ym mwyty ei bartner.]

 

Cyflwynwyd cais i adeiladu mynediad newydd a newidiadau i'r mynediad presennol ar Hen Safle Pilkington Special Glass Ffordd Glascoed Llanelwy.  Roedd y cais wedi bod yn destun ymweliad safle ar 15 Ionawr 2016.

 

Siaradwr Cyhoeddus -

 

Mr E. Davies (Yn erbyn) – roedd yn byw yn yr annedd cyfagos (Derwen Deg) i'r safle a chododd bryderon ynghylch sut y byddai ei amwynder preswyl yn cael ei effeithio gan y fynedfa newydd arfaethedig ynghyd â phryderon ynghylch diogelwch ar y ffyrdd a cholli cynefin lleol.  Roedd hefyd yn cwestiynu cywirdeb y cynllun diweddaraf a ddosbarthwyd.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Roedd gan y Cynghorydd Bill Cowie (Aelod Lleol) gydymdeimlad â'r siaradwr cyhoeddus ond roedd yn teimlo nad oedd unrhyw sail cynllunio i wrthod y cais.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill.

 

Roedd y Cynghorydd Merfyn Parry yn credu bod y brif fynedfa bresennol mewn sefyllfa llawer gwell i wasanaethu'r safle, yn enwedig o ystyried graddiant y ffordd a sŵn o gerbydau sy'n gadael y safle, a dywedodd y byddai'n pleidleisio yn erbyn y cais.

 

Siaradodd y Cynghorydd Meirick Davies yn erbyn y cais hefyd a nododd leoliad Derwen Deg mewn perthynas â'r safle.  Tynnodd sylw at leoliad pwyntiau mynediad presennol a nododd fod y brif fynedfa wedi rhoi mynediad diogel yn wahanol i’r fynedfa newydd a fyddai hefyd yn cael effaith niweidiol ar Derwen Deg.  Cyflwynodd achos dros wrthod gan ddadlau bod y cais yn groes i bolisïau Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy'n ymwneud â RD1 (Parchu Nodweddion Unigryw - datblygu cynaliadwy a dylunio safonol da) fel a ganlyn -

 

RD1(i) - Parchu'r safle a'r ardal o gwmpas o ran lleoliad, cynllun, maint, ffurf, cymeriad, dyluniad, deunyddiau, agwedd, micro-hinsawdd a dwysedd defnydd tir/adeiladau a’r gofod rhwng ac o amgylch adeiladau

RD1(iii) – Yn parchu a lle’n bosibl yn gwella'r amgylchedd naturiol a hanesyddol lleol

RD1(v) - Yn ymgorffori tirwedd bresennol neu nodweddion eraill, yn cymryd i ystyriaeth gyfuchliniau a newidiadau mewn lefelau a nenlinellau amlwg

RD1(vi) - Nad yw'n effeithio’n  annerbyniol fwynderau trigolion lleol, defnyddwyr eraill tir ac eiddo neu nodweddion yr ardal trwy rinwedd mwy o weithgaredd, aflonyddiad, sŵn, llwch, mygdarthau, sbwriel, draeniad, llygredd golau ac ati ac yn darparu safonau mwynderau boddhaol ynddo’i hunan

RD1(viii) - Nad yw'n cael effaith annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol o ganlyniad i dagfeydd, perygl a niwsans yn deillio o draffig a gynhyrchir ac yn ymgorffori mesurau rheoli/tawelu traffig lle bo angen hynny a lle’i fod yn briodol

RD1(xiii) - Yn ymgorffori mesurau tirweddu addas, gan gynnwys lle bo'n briodol, driniaeth tirweddu caled a meddal, creu amddiffyniad coridorau gwyrdd a gleision, tirweddu aeddfed a threfniadau ar gyfer eu cynnal yn y dyfodol.  Dylai gwaith tirweddu greu amgylchedd braf, gynaliadwy a chyfoethog o ran bioamrywiaeth sy'n amddiffyn a gwella nodweddion presennol a hefyd yn creu nodweddion newydd ac ardaloedd o le agored sy'n adlewyrchu cymeriad lleol a theimlad o le.

 

Cynnig - Anogodd y Cynghorydd Meirick Davies yr aelodau i ystyried yr effaith niweidiol ar amwynder preswyl Derwen Deg a chynigiodd fod y cais yn cael ei wrthod, ac eiliodd y Cynghorydd Arwel Roberts, ar y sail nad oedd y cais yn cydymffurfio â Pholisi CDLl RD1 (i), (iii), (v), (vi), (viii) a (xiii).

 

Yn ystod y drafodaeth, cwestiynwyd lleoliad y fynedfa newydd arfaethedig o ystyried yr effaith ar Derwen Deg, yn enwedig pan oedd opsiynau eraill ar gael, ond nodwyd bod rhaid i’r pwyllgor ddelio â'r cais ger ei fron.  Codwyd cwestiynau ynghylch a fyddai gwrthod y cais yn cyfyngu ailddatblygu'r safle a phe bai’r cais yn cael ei ganiatáu a ellid gosod amodau i wella diogelwch ar y ffyrdd a sicrhau bod unrhyw gynefin a gollir yn cael ei ddisodli.

 

Ymatebodd y Swyddog Cynllunio a Phriffyrdd i'r materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·         byddai adeiladu'r fynedfa newydd yn rhoi mynediad i un o safleoedd cyflogaeth dynodedig y Cyngor ac ystyriwyd na fyddai effaith y datblygiad yn fwy nag effaith datblygiad ar y safle yn y dyfodol ac ystyriwyd ei fod yn dderbyniol mewn perthynas â diogelwch ar y briffordd a Pholisi RD1

·         roedd asesiadau diogelwch ar y ffyrdd perthnasol wedi eu cynnal ac roedd nid oedd gan Swyddogion Priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais gydag amodau i sicrhau mynediad diogel a boddhaol a fyddai'n amodol ar gymeradwyaeth dylunio manwl ac a gwmpasir gan gytundeb cyfreithiol

·         o ran datblygu'r safle cyflogaeth yn y dyfodol, byddai angen i Swyddogion Priffyrdd asesu a fyddai mynedfa'r safle yn dderbyniol ar gyfer unrhyw uned newydd

·         byddai'n bosibl cynnwys amod ychwanegol i fynd i'r afael â cholli cynefin a disodli’r gwrych fel y bo'n briodol trwy dirlunio.

 

Cynnig – Gwnaeth y Cynghorydd Anton Sampson gynnig fod y cais yn cael ei gymeradwyo, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, yn amodol ar amod ychwanegol i fynd i'r afael â cholli cynefin fel rhan o'r cynllun tirlunio.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 15

GWRTHOD - 7

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais yn unol ag argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar amod ychwanegol i fynd i’r afael â cholli cynefin fel rhan o’r cynllun tirlunio.

 

 

Dogfennau ategol: