Eitem ar yr agenda
DATBLYGU ARCHWILIO YN SIR DDINBYCH
Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd a’r Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) ar y cynnydd
hyd yma wrth ddatblygu a gwella swyddogaeth archwilio'r Cyngor.
Cofnodion:
☻Roedd
adroddiad ar y cyd gan Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd (RhGD) a Chydlynydd
Archwilio (CA), a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed o ran datblygu
swyddogaeth archwilio’r Cyngor i gefnogi'r gwaith o gyflawni ei flaenoriaethau
corfforaethol a’i wella yn unol â gweledigaeth rheolyddion er mwyn craffu ar
draws Cymru, wedi cael ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y RhGD yr adroddiad ac eglurodd fod y Pwyllgor eisoes wedi
ystyried adroddiad ar sut i ddatblygu archwilio yn Sir Ddinbych er mwyn sicrhau
ei fod yn gweithio’n fwy effeithlon ac effeithiol, oedd yn canolbwyntio ar
gefnogi cyflawni'r Cynllun Corfforaethol ac ychwanegu gwerth at y broses o
wneud penderfyniadau. Fe
ddarparwyd dolen i'r adroddiad. Nod y cynigion a gyflwynwyd oedd mynd i’r afael ag argymhellion a wnaed yn
adroddiad cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ym mis Mai 2014 ar
archwilio yng Nghymru, Craffu Da? Cwestiwn da!
Mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fe luniwyd Cynllun
Gweithredu, Atodiad 1, i fynd i'r afael ag argymhellion y rheoleiddwyr, ac i
symud ymlaen wrth roi’r arferion da a arsylwyd gan Aelodau Archwilio yn ystod
ymweliadau cyfoedion a thrafodaethau a ffurfiodd rhan o broses adolygu SAC, ar
waith.
Nododd argymhelliad 7 o'r adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, y dylai
swyddogaeth archwilio pob Awdurdod Lleol "ymgymryd â hunan-arfarniad
rheolaidd o archwilio gan ddefnyddio'r 'canlyniadau a nodweddion trosolwg a
chraffu effeithiol llywodraeth leol' a ddatblygwyd gan Rwydwaith y Swyddogion
Craffu Cymru”. Ym mis Tachwedd 2014, cefnogodd yr Aelodau
mabwysiadu'r 'nodweddion'. Fel rhan o'r broses o baratoi ar gyfer Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgorau Archwilio y llynedd, cynhaliwyd hunanwerthusiad ar sail y nodweddion uchod. Serch hynny,
oherwydd y gyfradd ymateb isel i'r holiadur hunan-arfarnu, ni chafodd y
canfyddiadau eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol, oherwydd teimlwyd nad oedd
modd i’r casgliadau fod yn rhai ansoddol. Roedd Atodiad 2 yn
cynnwys canlyniadau'r ymarferiad hunan arfarnu, ac er gwaethaf y gyfradd
dychwelyd isel, fe nodwyd rhai themâu cyson ar gyfer gwella yn Atodiad 2.
Yn ystod yr hydref
2016, roedd y Cyngor fod yn destun Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio
Cymru. O ganlyniad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y
cynnydd a wnaed hyd yn hyn wrth ddatblygu archwilio yn Sir Ddinbych, nodi
meysydd i'w gwella ymhellach ac argymell y dylai'r holl Gynghorwyr Sir,
Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion gymryd rhan yn yr ymarferiad hunan-arfarnu
archwilio nesaf er mwyn i'r swyddogaeth gael ei gwerthuso'n iawn ac o
ganlyniad, ei gryfhau ymhellach.
Eglurodd y Cydlynydd Archwilio fod gan
swyddogaeth archwilio aneffeithiol y potensial i achosi i'r Cyngor beidio
cyflawni ei Gynllun Corfforaethol, neu bod y Cabinet neu swyddogion ddim yn
cael eu herio a ddim yn cael eu dwyn i gyfrif am eu penderfyniadau. Gallai hyn arwain at
adroddiadau rheoleiddio anffafriol ac hyd yn oed ymyrraeth gan Lywodraeth
Cymru. Gallai sicrhau bod gan
yr Awdurdod swyddogaeth archwilio effeithiol a allai gael ei ddatblygu i ddiwallu
gofynion a heriau newydd liniau’r risg o adroddiadau anffafriol neu ymyrraeth. Dylai swyddogaeth
archwilio gadarn ac effeithiol hefyd arwain at benderfyniadau gwell yn
seiliedig ar dystiolaeth.
Eglurodd y RhGD ei fod yn teimlo bod yr Awdurdod mewn sefyllfa i ddangos
bod newidiadau wedi cael eu rhoi ar waith yn dilyn cyflwyno'r Cynllun
Gweithredu, gan gynnwys:-
-
Mewnbwn ac archwilio’r Cabinet.
-
Aelod Arweiniol yn bresennol ym Mhwyllgorau Archwilio, pan fo angen.
-
Arweinydd yn bresennol yng nghyfarfodydd Grŵp Archwilio Cadeiryddion
ac Is-gadeiryddion pan fo angen.
-
Adolygiad o weithdrefnau dethol ar gyfer eitemau i'w cyflwyno i archwilio.
-
Amlinelliad o waith y Grwpiau Tasg a Gorffen.
-
Cynorthwyo gyda datblygiad y trefniadau ar gyfer GwE
-
Rhoddwyd ystyriaeth i lefel yr adnoddau sydd ar gael i’w harchwilio.
-
Ymgysylltu â'r cyhoedd o ran y broses archwilio, a gwe-ddarlledu
cyfarfodydd y Cyngor a defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Darparodd Rheolwr y Gwasanaethau
Democrataidd fanylion am y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chyflwyno'r
ddarpariaeth gwe-ddarlledu, a pharhad a datblygiad y ddarpariaeth.
Roedd y Cynghorwyr B.
Mellor a W.L. Cowie
yn teimlo fod presenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd wedi cael eu heffeithio gan
fod gan rai Cynghorwyr swyddi llawn amser a’r ffaith bod lwfans teithio i
Gynghorwyr nad oedd yn Aelodau Pwyllgor, neu oedd heb eu gwahodd i fynychu
cyfarfodydd, wedi cael ei dynnu nôl. Cadarnhaodd y RhGD fod
Aelodau wedi gweithredu tynnu taliadau lwfans teithio penodol, gyda'r bwriad o
gyflawni arbedion. Fe eglurodd eu bod wedi cysylltu ag Arweinwyr Grŵp
mewn perthynas â'r mater, ac y byddai'r meini prawf ar gyfer talu lwfansau
teithio yn cael ei adolygu.
Eglurodd Rheolwr y
Gwasanaethau Democrataidd bod cais wedi dod i law gan yr Aelod Arweiniol ar
gyfer hyfforddiant, y Cynghorydd B.A. Smith, er mwyn cynnwys eitem fusnes ar yr agenda ar gyfer
cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar ddarparu hyfforddiant. Mynegodd y Cadeirydd y farn y
dylai darpariaeth hyfforddiant Aelodau gynnwys siarad cyhoeddus a hyfforddiant
yn y cyfryngau.
Fe soniodd Cynrychiolydd
Swyddfa Archwilio Cymru am y camau a gymerwyd a'r cynnydd a wnaed i ddatblygu
archwilio yn Sir Ddinbych. Fe eglurodd bod Awdurdodau Lleol eraill wedi profi’r un meysydd o
anawsterau a nodwyd yn ystod y drafodaeth.
Yn dilyn trafodaeth
bellach:-
PENDERFYNWYD -
(i)
derbyn yr adroddiad a
nodi’r safbwynt;
(ii)
bod holl Gynghorwyr Sir
yn cael eu hannog i lenwi'r holiadur hunanwerthuso pan fo problemau.
Dogfennau ategol:
- Dev Scrutiny Denbs Report, Eitem 5. PDF 95 KB
- Dev Scrutiny Denbs App 1, Eitem 5. PDF 202 KB
- Dev Scrutiny Denbs App 2, Eitem 5. PDF 106 KB