Eitem ar yr agenda
DEDDF LLES CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015
Ystyried goblygiadau Deddf Lles Cenedlaethau'r
Dyfodol (Cymru) 2015 ar y Cyngor, ar gymunedau Sir Ddinbych ac ar archwilio
(papur briffio a chanllaw Hanfodion ynghlwm).
Bydd yr eitem fusnes ar ffurf gweithdy:
(i)
Deddf
Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – diweddariad ac amserlen
(ii)
Beth
fydd y Ddeddf yn ei olygu ar gyfer ein cymunedau?
(iii)
Sut
allai'r Ddeddf newid y math o gwestiynau rydym yn gofyn yn y pwyllgorau
Archwilio?
(iv)
Trafodaeth
ar oblygiadau'r Ddeddf ar gyfer Archwilio yn Sir Ddinbych
9:40am - 11:15am
Cofnodion:
Mae copi o'r papur briffio ar gyfer Aelodau
Archwilio o Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, wedi ei ddosbarthu
gyda phapurau’r cyfarfod.
Cynhaliwyd Gweithdy Aelodau i gyflwyno'r eitem fusnes. Cyflwynodd y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio (PGBM) yr adroddiad a oedd yn fyr yn
disgrifio materion allweddol yn y ddeddfwriaeth newydd a gafodd effaith benodol
ar yr Awdurdod Lleol. Tynnodd sylw at feysydd lle roedd Sir Ddinbych
ymhell ar y blaen gyda’i baratoadau ac awgrymwyd ystyried fesul gwasanaeth ar
yr amod y ceir cadarnhad y byddai Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn arolygu
gweithrediad Sir Ddinbych o'r dyletswyddau o dan y Ddeddf fel rhan o'u Hasesiad
Corfforaethol nesaf yn hydref 2016. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cofrestr risg
a phenderfynwyd ar nifer o argymhellion ar gyfer gwasanaethau. Roedd manylion
yn ymwneud â chynigion y Cyngor i gydymffurfio â gofynion y Ddeddf newydd yn
cael eu hamlinellu hefyd.
Roedd y papur briffio yn cynnwys y cwestiynau
canlynol ac yn tynnu sylw at y meysydd canlynol a gafodd eu crynhoi gan y PGBM:-
·
Beth yw Deddf?
·
Beth yw ein dull a ddymunir
i'r Ddeddf?
·
Yr amserlen yn cwrdd â
gofynion y Ddeddf
·
Beth sy'n wahanol o dan y
Ddeddf? - Mae manylion am y saith nodau Lles i’w cael yn yr adroddiad.
·
Y saith Nodau Lles a'r Egwyddor Datblygu
Cynaliadwy o'r Ddeddf – Pump o gwestiynau ac ystyriaethau y byddai angen i'r
Awdurdod allu eu hateb er mwyn dangos bod yr Egwyddor wedi'i chymhwyso.
·
Y Newyddion Da – beth mae Sir Ddinbych
eisoes yn ei wneud a fyddai'n diwallu gofynion y Ddeddf
·
Ystyriaethau a awgrymir ar
gyfer gwasanaethau unigol fel a baratowyd ar gyfer gweithredu’r Ddeddf
·
Effaith ar Reoliad – beth
fyddai Rheoleiddwyr yn edrych amdano o ran cynllunio'r Cyngor ar gyfer
gweithredu’r Ddeddf
·
Yr argymhellion a’r gwaith
sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Sir Ddinbych wrth iddo baratoi ar gyfer
gweithredu'r Ddeddf.
Gyda chymorth fideo a Chyflwyniad PowerPoint
darparodd y PGBM grynodeb o Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a
oedd yn cynnwys y materion canlynol a’r meysydd yn berthnasol i Sir Ddinbych:-
-
Pa wahaniaeth bydd y Ddeddf yn
ei wneud i gymunedau Sir Ddinbych?
-
Gwaith
Grŵp
-
Rolau
Archwilio
-
Gwaith Pwyllgorau Archwilio
-
Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
-
Ateb Model Archwilio
-
Casgliadau
Ffurfiodd Aelodau'r Pwyllgor ddau grŵp i drafod ac ystyried y pum
cwestiwn ac ystyriaethau sy'n ymwneud â'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy, ac
effaith y Ddeddf ar yr Awdurdod. Darparodd yr PGBM fanylion o'r atebion enghreifftiol y gallai Aelodau
fod wedi eu defnyddio yn ystod eu trafodaeth. Eglurodd fod y Ddeddf yn pwysleisio'r angen i bob corff yn y sector
cyhoeddus i newid pwyslais eu cynllunio busnes a darparu gwasanaethau o'r lleol
i'r byd-eang, ac o’r tymor byr/canolig i’r tymor hir, hy 35 mlynedd. Byddai newid sylweddol
o'r fath yn gofyn i bob corff cyhoeddus i ail-alinio eu gwaith yn y dyfodol, ac
i weithio'n llawer agosach gyda'u gilydd er budd y dinesydd.
Cyflwynwyd y cwestiynau a'r sylwadau canlynol gan
yr Aelodau:-
-
Nodwyd arferion da yn ymwneud â'r Ddeddf gan yr Aelodau.
-
Mae llawer o'r cynigion eisoes wedi derbyn sylw ac yn
cael eu gweithredu.
-
Mae natur deddfwriaethol y Deddf wedi achosi pryderon.
-
Mynegwyd pryderon ynghylch rheolaeth ganolog a roddir i Lywodraeth
Cymru.
-
Cwestiynwyd lefel y pwerau a gedwir gan y Comisiynydd.
-
Cwestiynwyd y gwahaniaeth rhwng "dal i gyfrif"
ac archwilio mewn perthynas â chyflwyno darpariaeth gwasanaeth.
-
Teimlwyd na ddylid cyfeirio at ddiwylliant a’r iaith
Gymraeg a’i bwysleisio yn unig drwy chwaraeon, dylai fod yn rhan annatod o bob
nodyn lles.
-
Mynegwyd pryderon ynghylch mabwysiadu proses ar gyfer
penodi Aelodau o’r Panel Ymgynghori.
-
Gofynnwyd am fanylion ar y costau i'r Awdurdod mewn
perthynas â'r Comisiynydd a'i weithgareddau cysylltiedig.
Darparodd y swyddogion yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a
godwyd gan yr Aelodau:-
-
Ni fyddai pwerau'r Comisiynydd mor rhagnodol a ragwelwyd
yn y lle cyntaf, a gallai’r Comisiynydd ymgymryd ag adolygiad o'r ymagwedd at y Ddeddf.
-
Byddai archwilio lleol mewn perthynas â'r Ddeddf.
-
Byddai'r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (BGC) newydd, a
fyddai'n disodli'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl), yn destun archwilio, a’u
swyddogaethau posibl wedi’u hamlinellu.
-
O dan y Ddeddf byddai disgwyl i bwyllgorau archwilio’r
awdurdodau lleol i gynnal cyrff cyhoeddus yn
gyfrifol yn unol â nodau lles y Ddeddf a'r egwyddor Datblygu Cynaliadwy;
-
Gweithio ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
wedi cael ei gynnal drwy'r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, a byddai yn y pen draw yn
cael ei wneud trwy'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dibynnu ar ganlyniad yr
ad-drefnu Llywodraeth Leol;
-
Darparwyd rôl yr Awdurdod o ran cydymffurfio â
gofynion y Ddeddf, ac ystyriwyd na fyddai unrhyw gostau sylweddol yn ymwneud â
staffio i'r Cyngor.
-
Ystyriaeth yn cael ei roi gan staff ar bob lefel i
weithredu’r Ddeddf, ac ystyried yr angen posibl am newid i fodloni’r gofynion.
-
Byddai hyfforddiant ar y Ddeddf a'i gofynion yn cael ei
ddarparu yn dilyn penodi Aelodau Etholedig newydd;
-
Byddai effaith y Ddeddf ar y broses Cynllunio a'r
weithdrefn o wneud penderfyniadau yn ddarostyngedig i'r Egwyddor Datblygu
Cynaliadwy a gellid ei ddefnyddio fel rhestr wirio.
-
Y tair prif elfen yn ymwneud â'r effaith y Ddeddf wedi eu
hamlinellu gan y HLHRS. Dywedodd hefyd bod angen mwy o eglurhad gan
Lywodraeth Cymru (LlC) ar sut mae gwahanol ddarnau o ddeddfwriaeth ddiweddar yn
cydgysylltu;
-
Manylion aelodaeth yn ymwneud â Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Sir Ddinbych a Chonwy ar y Cyd newydd arfaethedig wedi’u darparu gan
y PGBM.
Cyn dod â’r gweithdy i ben fe bwysleisiodd y swyddogion y byddai’r Cyngor
angen ystyried yn ei gyfanrwydd sut y byddai’r Ddeddf yn effeithio ar sut y
mae'r Awdurdod yn gwneud penderfyniadau, ac effaith hir dymor y penderfyniadau
hynny ar drigolion. Gall archwilio yn y dyfodol gymryd i ystyriaeth y 7
nodyn lles wrth benderfynu ei raglen waith i’r dyfodol, ac wrth archwilio
testunau i ganolbwyntio ar y meysydd canlynol:
·
Tymor hir
·
Atal
·
Integreiddio
·
Cydweithio; a
·
Cynnwys preswylwyr/defnyddwyr gwasanaeth
Yn dilyn trafodaeth bellach diolchodd yr Aelodau yr holl swyddogion am
egluro gofynion y Ddeddf a’r disgwyliadau ohonynt ac am ateb eu cwestiynau.
Dogfennau ategol:
- Briefing Note on WoFG Act 040215, Eitem 5. PDF 330 KB
- Well-being of Future Generations Act 2015 Guide, Eitem 5. PDF 2 MB