Eitem ar yr agenda
CYLLIDEB 2016/17 (CYNIGION TERFYNOL - CAM 6)
- Meeting of Cabinet, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2016 10.00 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
I ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn nodi goblygiadau Setliad
Drafft Llywodraeth Leol 2016/17 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer
2016/17.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
-
(a) nodi effaith Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol ac nad oes angen unrhyw
arbedion pellach oni bai am y £5.2m sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan
wasanaethau ar gyfer 2016/17,
(b) cefnogi'r cynigion canlynol ac yn unol â hynny yn eu hargymell i'r Cyngor
llawn er mwyn cwblhau cyllideb 2016/17:
1. cynyddu cyllid i ysgolion i fodloni’r lefel ddiogelu genedlaethol o +1.85%.
2. neilltuo cyllideb wrth gefn un flwyddyn o £480k ar gyfer 2016/17 er mwyn
lliniaru'r risgiau i gyflawni’r gyllideb a nodir yn yr adroddiad
3. argymell i'r Cyngor y cynnydd cyfartalog o ganlyniad yn Nhreth y Cyngor o
1.5%.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn nodi goblygiadau Setliad Drafft
Llywodraeth Leol 2016/17 a chynigion i gwblhau'r gyllideb ar gyfer 2016/17, gan
gynnwys lefel Treth y Cyngor.
Rhoddodd y
Cynghorydd Thompson-Hill drosolwg o broses y gyllideb, a’r sefyllfa gyllideb
ddiweddaraf ac ymhelaethodd ar y cynigion i'w hystyried a'r argymhelliad i'r
Cyngor llawn er mwyn gosod y gyllideb ar gyfer 2016/17. Mae'r setliad drafft
wedi bod yn llawer gwell na'r disgwyl gyda gostyngiad ariannol cyffredinol o
1.2% i Sir Ddinbych a oedd yn golygu gostyngiad o £3.9m yn llai na'r disgwyl. O ganlyniad i’r cynigion diweddaraf, nid oedd
angen rhagor o arbedion gan wasanaethau yn 2016/17 (roedd arbedion o £5.2m
eisoes wedi eu clustnodi) a byddai'n golygu lefel is o gynnydd i Dreth y Cyngor
o 2.75% i 1.5% ar gyfartaledd. Roedd y
gyllideb arfaethedig hefyd wedi ystyried cynnydd mewn cyllid i ysgolion i
fodloni'r lefel genedlaethol o amddiffyniad ar 1.85% ac i neilltuo £480,000 i
liniaru'r risgiau at gyflawni'r gyllideb hon.
Trafododd y
Cabinet gynigion y gyllideb yn fanwl – dyma oedd y prif feysydd trafodaeth –
·
Ystyriodd
yr aelodau ddigonolrwydd y gyllideb wrth gefn arfaethedig o £480k a thrafod y
risgiau sy'n gysylltiedig â chyflawni’r gyllideb o gofio bod rhaid i gynghorau
bennu cyllidebau a Threth y Cyngor yn seiliedig ar setliad dros dro. Nid yw nifer o grantiau refeniw wedi cael eu
cadarnhau eto ac efallai y bydd angen mwy o amser i gyflawni rhai o'r arbedion
a gytunwyd ar gyfer 2016/17. Gallai’r
setliad terfynol newid, yn enwedig yng ngoleuni lobïo gan gynghorau gwledig a oedd wedi bod yn destun
mwy o ostyngiadau. Trafodwyd rôl
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y broses honno, ynghyd â'r posibilrwydd o
gynghorau gyda setliadau mwy ffafriol yn darparu cymorthdaliadau ar gyfer y
rheiny sy’n waeth eu byd. Adroddodd y
Prif Weithredwr bod dull gweithredu o'r fath yn bosib, ond yn annhebygol a
disgwylid y byddai'r diffyg ariannol ar gyfer cynghorau gwledig yn fwy tebygol
o gael cymhorthdal drwy ffrydiau cyllid grant eraill yn hytrach
nag adolygiad o'r setliad drafft. Yn
seiliedig ar dybiaethau cyfredol roedd y gyllideb wrth gefn arfaethedig o £480k
i liniaru'r risg yn briodol. Byddai
unrhyw ddiffyg mwy yn y gyllideb yn arwain at graffu pellach o gyllidebau
unigol a/neu ddefnyddio cronfeydd wrth gefn corfforaethol. Teimlai'r Cynghorydd Barbara Smith y dylai'r
cyngor ei gwneud yn glir na fyddai'n ailfeddwl am unrhyw benderfyniadau
cyllidebol blaenorol yng ngoleuni'r setliad oedd yn well na'r disgwyl.
·
Teimlai'r
Cynghorydd Eryl Williams y byddai'n ddoeth i ystyried cynnydd o 2% ar
gyfartaledd gyda Threth y Cyngor er mwyn amddiffyn yn erbyn toriadau yn y
dyfodol a lleihau risgiau ariannol.
Nododd y bu consensws ar gyfer cynnydd o 1.5% ar gyfartaledd yn y
gweithdy cyllideb diwethaf ond oherwydd y presenoldeb isel oedd yno, roedd yn
teimlo efallai nad oedd y farn honno yn wirioneddol gynrychioliadol. Cafwyd peth trafodaeth o amgylch y manteision
a'r anfanteision o ymagwedd o'r fath a chydbwyso'r angen am fod yn ddoeth am yr
effaith ar drigolion. Roedd y rhan fwyaf
o aelodau o'r farn, o ystyried y setliad gwell na’r disgwyl a fforddiadwyedd
cyllideb y Cyngor gyda chynnydd o 1.5%, ac o gofio fod lefel Treth y Cyngor Sir
Ddinbych yn dal yn uchel o gymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru, bod
cynnydd o 1.5% yn ddoeth ac yn briodol.
Roedd yna hefyd amheuon y byddai cronfa wrth gefn yn cael ei datblygu am
ddim pwrpas penodol. Cydnabuwyd y
byddai'r mater yn debygol o fod yn destun trafodaeth bellach mewn Cyngor llawn
ac awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol darparu dadansoddiad pellach o
ffigyrau ar gyfer cynnydd ar gyfartaledd o 2% i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw
er mwyn rhoi'r swm gwirioneddol ar gyfer pob band mewn cyd-destun. Nodwyd nad oedd gan y cyngor unrhyw reolaeth
dros elfennau eraill sy'n rhan o Dreth y Cyngor - ardoll y Gwasanaeth Tân na'r
Heddlu a praeseptau Cyngor Cymuned/Tref/Dinas.
·
cyfeiriwyd
at y cynnydd o 1.85% mewn cyllid i ysgolion i gwrdd â'r lefel genedlaethol o
amddiffyniad ac ystyriodd yr aelodau a fyddai’n ddefnyddiol ceisio dadansoddiad
o'r symiau a roddir i ysgolion unigol ynghyd â thystiolaeth o ganlyniadau yn
sgil yr arian ychwanegol. Cyfeiriwyd at
rôl y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn y broses honno a chan y byddai symiau i
ysgolion unigol yn amrywio, ac o ystyried y byddai unrhyw gyllid ychwanegol yn
debygol o ymdrin â phwysau cyllidebol presennol yr ysgol, cytunwyd mai ychydig
iawn o werth fyddai cael dadansoddiad o'r fath ond y byddai'r Grŵp Monitro
Safonau Ysgolion yn y sefyllfa orau i edrych i mewn i'r mater. Nodwyd hefyd bod yr effaith ar ysgolion yn
aneglur o ran cyllid Llywodraeth Cymru, yn enwedig ar gyfer y cyfnod sylfaen ac
addysg ôl-16. Roedd y Cynghorydd Eryl
Williams yn argymell bod angen proses fwy agored a thryloyw o ran dyraniadau
ariannu ysgolion. Teimlai y gellid
gwneud mwy i dynnu sylw at y cynnydd mewn cyllid ar gyfer ysgolion a'r ffaith
fod gwario fesul disgybl yn Sir Ddinbych yn uwch nag awdurdodau lleol eraill
ynghyd â'r buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion drwy Raglen Ysgolion yr 21ain
ganrif
·
O ran
y posibilrwydd o gyfarwyddyd pellach gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu gofal
cymdeithasol yn ariannol, nodwyd bod disgwyliad nad oedd cynghorau yn torri
cyllidebau gofal cymdeithasol ond ni roddwyd eglurhad am sut y dylent gwrdd â'r
disgwyliadau o ran gwasanaethau gofal penodol.
Ymhelaethodd y Cynghorydd Bobby Feeley ar y rhesymeg ar gyfer
ail-gynllunio gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn ymateb i anghenion a
demograffeg sy’n newid, ac nid fel ymateb i bwysau cyllidebol yn unig, gan nodi
gwasanaethau gofal mewnol fel enghraifft
·
Gofynnwyd
am eglurhad ynghylch effaith y gyllideb ar gronfeydd wrth gefn cyffredinol y
Cyngor ac atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor llawn, y llynedd, wedi cymeradwyo
defnyddio £500k o falansau cyffredinol i gefnogi'r gyllideb refeniw am y tair
blynedd ariannol nesaf. Gwnaed y
penderfyniad yn dilyn asesiad o falansau ac ystyriwyd bod gostyngiad sy’n cael
ei reoli dros dair blynedd yn ddull gweithredu derbyniol.
Roedd yr
Arweinydd yn falch o gydnabod bod y setliad drafft yn well na’r disgwyl. Cyfeiriodd at y broses agored a thryloyw o
bennu'r gyllideb a thalodd deyrnged i waith y swyddogion a’r gwasanaethau sy'n
gysylltiedig â hynny o beth. Gellid cael
sicrwydd o gynllunio ariannol cadarn Sir Ddinbych a'r ffaith nad oedd y
Gweithgor Tasg a Gorffen Torri’r Brethyn wedi canfod unrhyw faterion dyledus
wrth adolygu effaith penderfyniadau cyllidebol.
Roedd yr Arweinydd yn falch o gefnogi cynigion y gyllideb er mwyn
cyflawni cyllideb sydd hefyd yn caniatáu ar gyfer buddsoddi ym mlaenoriaethau'r
cyngor. Amlygodd y Prif Swyddog Cyllid
yr anawsterau o ran cynllunio ariannol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch lefel y
setliadau ariannol a darparodd beth cyd-destun o ran rhagdybiaethau cyllidebol
wrth fynd ymlaen.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
-
(a) nodi effaith Setliad Dros
Dro Llywodraeth Leol ac nad oes angen unrhyw arbedion pellach oni bai am y
£5.2m sydd eisoes wedi'i gymeradwyo gan wasanaethau ar gyfer 2016/17, a
(b) cefnogi'r cynigion a ganlyn
ac yn unol â hynny yn eu hargymell i'r Cyngor llawn er mwyn cwblhau cyllideb
2016/17:
1.
cynyddu cyllid i ysgolion i
fodloni’r lefel ddiogelu genedlaethol o +1.85%.
2.
neilltuo cyllideb wrth gefn un
flwyddyn o £480k ar gyfer 2016/17 er mwyn lliniaru'r risgiau i gyflawni’r
gyllideb a nodir yn yr adroddiad
3.
argymell i'r Cyngor y cynnydd
cyfartalog o ganlyniad yn Nhreth y Cyngor o 1.5%.
Ar y pwynt hwn (12 p.m.) cafwyd egwyl yn y
cyfarfod am luniaeth.
Dogfennau ategol: