Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED BERSONOL - YMGEISYDD RHIF 15/1517/LAPER
Ystyried cais am
Drwydded Bersonol gan Ymgeisydd Rhif 15/1517/LAPER a gyflwynwyd yn unol ag
Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig
ynghlwm).
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a
ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –
(i)
chais a dderbyniwyd gan Ymgeisydd Rhif 15/1517/LAPER am
Drwydded Bersonol newydd yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (Atodiad B yr
adroddiad);
(ii)
rhoi Trwydded Bersonol i unigolyn yn awdurdodi’r unigolyn
hwnnw i gyflenwi alcohol, neu awdurdodi cyflenwi alcohol, yn unol â thrwydded
eiddo ac sydd mewn grym am nifer digyfyngiad o flynyddoedd oni bai ei bod yn
cael ei hildio, ei diddymu, ei hatal neu ei fforffedu;
(iii)
yr Ymgeisydd wedi datgan trosedd berthnasol heb ei
threulio fel rhan o'r broses o ymgeisio am Drwydded Bersonol;
(iv)
Heddlu Gogledd Cymru wedi mynegi gwrthwynebiadau i'r cais
ar y sail y byddai caniatáu'r drwydded yn tanseilio amcan atal troseddu Deddf
Trwyddedu 2003 (Atodiad A i'r adroddiad);
(v)
yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyledus
i'r Canllawiau a Datganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth berthnasol
arall a sylwadau perthnasol a dderbyniwyd, a
(vi)
yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar
y cais.
Rhoddodd y Rheolwr Busnes
Gwarchod y Cyhoedd grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Roedd yr Ymgeisydd yn
bresennol i gefnogi ei gais ac adroddodd ar ei waith a'i brofiad yn y fasnach
dafarndai. Roedd yn dymuno dilyn gyrfa yn y diwydiant hwnnw ac wedi
cael ei annog gan ei gyfoedion i wneud cais am Drwydded Bersonol er mwyn
cyflawni ei uchelgais. Eglurodd ei fod eisiau parhau yn y math hwnnw o waith yn
hytrach na bod yn ddi-waith a cheisio am waith mewn diwydiannau eraill.
CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Roedd Mr Aaron Haggas,
Swyddog Trwyddedu'r Heddlu yn cynrychioli Heddlu Gogledd Cymru. Er yn cydnabod fod yr
Ymgeisydd wedi bod yn onest wrth ddatgan ei euogfarn nododd yr Heddlu ei fod yn
euogfarn difrifol ac yn drosedd berthnasol nad oedd wedi ei threulio o dan
amodau Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. O ganlyniad, nododd yr Heddlu y byddai
caniatáu'r drwydded yn tanseilio'r amcan atal troseddu ac y dylai'r Ymgeisydd
ail-ymgeisio pan fydd yr euogfarn wedi cael ei dreulio. Nododd Mr. Haggas hefyd
nad oedd angen Trwydded Bersonol ar yr Ymgeisydd er mwyn gweithio yn y fasnach
drwyddedig.
Cymerodd yr aelodau'r cyfle i
holi'r Ymgeisydd ynghylch ei euogfarn a mynegwyd pryder ei fod wedi methu â
mynegi unrhyw edifeirwch ynglŷn â hynny yn ystod ei gyflwyniad. Ymatebodd yr ymgeisydd
i'r aelodau fel a ganlyn -
·
cydnabu ei fod wedi bod yn ffôl yn ei ieuenctid a’i fod
yn difaru ei ymddygiad yn y gorffennol, ond rhoddodd sicrwydd ynghylch ei
ymddygiad presennol ac yn y dyfodol, gan gadarnhau ei fod wedi dal swydd â
chyfrifoldeb yn y fasnach dafarndai yn ddiweddar ac roedd yn dymuno datblygu ei
uchelgais i’r perwyl hwnnw
·
ymhelaethodd ar ei euogfarn a'r ddedfryd a roddwyd iddo a
oedd wedi gwneud iddo ddeffro o ran ei ymddygiad a'i fod wedi dysgu o
gamgymeriadau'r gorffennol
·
ymddiheurodd am ei ymddygiad yn y gorffennol gan ddweud
ei fod wedi bod yn ifanc a ffôl ac yn hawdd i’w arwain
·
amlygodd fod ei amgylchiadau wedi newid ac roedd yn
mwynhau gweithio yn y fasnach dafarndai ac yn dymuno datblygu gyrfa yn y
proffesiwn.
DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD
Dywedodd yr Ymgeisydd nad
oedd ganddo ddim arall i'w ychwanegu at ei gyflwyniad.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (2.15pm)
gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
PENDERFYNIAD A RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Cyflwynodd y Cadeirydd
benderfyniad yr Is-bwyllgor i'r rhai a oedd yn bresennol ac adroddodd y Prif
Gyfreithiwr y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -
Teimlai'r Is-bwyllgor Trwyddedu y byddai caniatáu'r drwydded ar yr achlysur
hwn yn tanseilio'r amcan trosedd ac anhrefn. Roedd yr Ymgeisydd ond
wedi ei gael yn euog o drosedd ym mis Mai 2012 a chafodd ei garcharu am
ddeuddeg mis. Roedd hon yn drosedd ddifrifol ac yn cael ei
hystyried yn drosedd berthnasol wrth ystyried a ddylid rhoi trwydded iddo.
Er ei bod yn glodwiw fod yr Ymgeisydd yn dymuno aros yn y fasnach dafarndai
ac osgoi derbyn budd-daliadau a lwfans ceisio gwaith, cydnabuwyd y byddai'n dal
i allu parhau i weithio gan fod swyddi eraill y gallai eu gwneud heb ddal
Trwydded Bersonol.
Atgoffwyd yr Ymgeisydd nad oedd rhoi Drwydded Bersonol yn benderfyniad
anochel. Roedd yn
broses a ystyriwyd yn ofalus ac mae rhoi trwydded yn rhoi'r Ymgeisydd mewn
sefyllfa o ymddiriedaeth fawr. Nid darn o bapur neu gerdyn yn unig oedd trwydded,
ond cydnabyddiaeth o ffydd a hyder mewn unigolyn i gadw at y deddfau a'r
rheoliadau sy'n ymwneud â'r fasnach drwyddedig. Cadw pobl yn ddiogel
rhag niwsans, diogelu pobl yn erbyn trosedd ac anhrefn, diogelu plant rhag
niwed, a sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Anogwyd yr Ymgeisydd i barhau ar yr un trywydd ag yr oedd wedi bod yn mynd
arno i adsefydlu ei hun, ac ni ddylai deimlo na allai wneud cais yn y dyfodol. Ar hyn o bryd,
fodd bynnag, teimlai'r Is-bwyllgor bod y cais hwn yn rhy fuan ar ôl ei
euogfarn.
Yn olaf, rhoddwyd gwybod i’r Ymgeisydd fod hawl ganddo i apelio yn erbyn
penderfyniad yr Is-bwyllgor.
Daeth y
cyfarfod i ben am 2.25pm.
Dogfennau ategol: