Eitem ar yr agenda
BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS
Roedd adroddiad
gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, ar drefniadau arfaethedig y Bwrdd
Gwasanaethau Lleol ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd ar gyfer
Conwy a Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio
Strategol (SPPO), ar y trefniadau ar gyfer sefydlu'r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus statudol, sydd hefyd yn cynnwys opsiynau posibl ar gyfer archwilio’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus newydd, yn unol â gofynion Deddf Lles
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), gyda phapurau’r pwyllgor.
Cyflwynodd y
Rheolwr Perfformiad a Chynllunio Strategol (SPPM) yr adroddiad ac eglurodd y
bydd Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a fyddai'n dod i rym ar 1 Ebrill
2016, yn arwain at oblygiadau eang i'r Cyngor yn ogystal â sefydliadau
cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Bydd y Pwyllgor
Archwilio Cymunedau, yn ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror, yn edrych yn
fanylach ar oblygiadau'r Ddeddf ar gyfer y Cyngor. Un o ddarpariaethau'r Ddeddf oedd newid y Byrddau
Gwasanaethau Lleol (BGLl) presennol yn Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ac
wrth wneud hynny, gosod y BGC newydd ar sail statudol. O ganlyniad, mae'n rhaid i'r BGC fod yn
destun gweithgarwch archwilio mwy dwys gan awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, mae Sir Ddinbych yn
gweithredu BGLl ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a sefydliadau
partner eraill.
Yn ei gyfarfod ym
mis Medi, 2015 penderfynodd y BGLl ar y cyd mai’r dull a ddymunir o Ebrill 2016
fydd gweithredu fel BGC ar y Cyd, oni bai bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn
penderfynu y byddai'r strwythur llywodraeth leol newydd yn yr ardal yn wahanol
yn y dyfodol. Mynegodd
y BGLl ar y cyd hefyd y bwriad i'r BGC ar y Cyd newydd fod â Chynllun Lles partneriaeth
tymor hir sengl ar gyfer ardal Conwy a Sir Ddinbych o 2017 ymlaen. Ar hyn o
bryd mae'r BGLl yn rheoli dau gynllun integredig sengl ar wahân (SIPs).
Pe byddai cynhyrchu Cynllun Lles
Sengl yn dwyn ffrwyth, byddai wedyn yn fwy priodol i archwilio ar y cyd, er
mwyn osgoi dyblygu ac i wneud gwell defnydd o adnoddau cyfyngedig.
Tra bod gwaith
eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â chynllunio ar gyfer Cynllun Lles ar y
cyd, yr oedd yn cael ei wneud yn y fath fodd, pe byddai LlC yn cytuno ar
gyfluniad gwahanol ar gyfer llywodraeth leol yng Ngogledd Cymru, ni fyddai’r
gwaith a wnaed hyd yma wedi bod yn ofer gan y gellid ei ddefnyddio ar gyfer Sir
Ddinbych a Chonwy fel endidau ar wahân, neu ar gyfer unrhyw ffurfweddau posibl
eraill.
Amlinellodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd yr holl ddewisiadau craffu posibl ar gyfer y Cyd BGC
arfaethedig fel y manylir yn atodiad 2 yr adroddiad, gan egluro mai Opsiwn 4 -
trefniadau craffu anffurfiol ar y cyd – sy’n ymddangos fel y model mwyaf
priodol i’w fabwysiadu ar hyn o bryd pan fydd y Cyd BGC yn weithredol.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:-
·
O ran
ffurfweddau ad-drefnu llywodraeth leol posibl eraill, nid yw'r rhain wedi cael
eu harchwilio mewn perthynas â sefydlu BGC ar y cyd.
Y rheswm yw bod Conwy a Sir
Ddinbych, ers peth amser, wedi gweithredu BGLl ar y cyd, ac hyd nes y dywedwyd
wrth y naill awdurdod neu’r llall yn bendant nad dyma’r strwythur llywodraeth
leol ar gyfer yr ardal yn y dyfodol, roedd yn ymddangos yn rhesymegol i fynd
ymlaen i lawr y llwybr ar y cyd ar gyfer y BGC newydd;
·
O
gofio bod aelodau partner presennol y BGLl h.y. y Gwasanaeth Heddlu, Iechyd a
Thân ac Achub, hefyd yn ffurfweddu eu strwythurau is-ranbarthol yn dair ardal
yn seiliedig ar siroedd yr awdurdodau lleol yng ngogledd-orllewin,
gogledd-ddwyrain a chanolbarth Gogledd Cymru, roedd yn rhesymegol ac yn
rhesymol i sefydlu BGC ar y cyd ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych;
·
P'un ai oes BGC unigol neu ar y cyd ar ddiwedd y broses, ei gylch gwaith fydd gwasanaethu anghenion ei
thrigolion hyd eithaf ei allu;
·
Hyd
at ddiwedd mis Mawrth, 2016, mae LlC yn talu costau gweinyddol y BGLl drwy
arian grant. Ond, o 1 Ebrill a chyflwyniad y BGC, bydd disgwyl
i bob awdurdod lleol ariannu costau gweinyddol ar gyfer pob BGC. I ddarparu
ar gyfer y costau hyn mae prosesau cynllunio busnes corfforaethol, yn
ogystal â dulliau ymgynghori ac
ymgysylltu yn cael eu symleiddio gyda’r bwriad o ddefnyddio bob proses i
wireddu’r budd mwyaf i'r sefydliad;
·
Byddai
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) drafft newydd, sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o
bryd, sy’n cynnig newidiadau sylfaenol i strwythurau a dulliau gweithio
llywodraeth leol, yn cyflwyno heriau i bawb sy'n gysylltiedig ag o, gan gynnwys
llywodraeth leol. Anogwyd yr aelodau i gymryd rhan yn yr
ymgynghoriad ar y Mesur penodol hwn oherwydd ei oblygiadau pellgyrhaeddol.
Gofynnodd yr
Aelodau bod adroddiad ar y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) drafft a'i oblygiadau
yn cael ei gyflwyno i'r holl gynghorwyr cyn dyddiad cau yr ymgynghoriad yn Chwefror
2016.
Ar ddiwedd y
drafodaeth:-
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn cefnogi:
(a)
cynnig i Gonwy a Sir Ddinbych barhau gyda'u
trefniant ar y cyd ac uno i ddod yn Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych, o dan Ddeddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (yn amodol ar bod
cynigion yn parhau i Gonwy a Sir Ddinbych uno dan ad-drefnu llywodraeth leol
i’r dyfodol);
(b)
cefnogi cynnig Conwy a Sir Ddinbych o gael un
Cynllun Lles ar gyfer y ddwy sir;
(c)
gweithio tuag at ddyddiad cyhoeddi o Dachwedd
2017 ar gyfer Cynllun Lles Conwy a Sir Ddinbych ar y cyd; a
(d)
pharhad y trefniadau archwilio presennol ar gyfer
y BGLl/BGC ac, yn amodol ar benderfyniad ar ad-drefnu llywodraeth leol, cyflwyno
Trefniadau Anffurfiol ar y Cyd fel yr amlinellwyd yn Opsiwn 4 Atodiad 2 o fis
Mai 2017.
Dogfennau ategol: