Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD DIWEDDARU YNGHYLCH TELEDU CYLCH CYFYNG SIR DDINBYCH
Roedd adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, ar y Gwasanaeth TCC presennol a
chasgliad y gwaith a wnaed gan y Gweithgor Teledu Cylch Caeedig wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. 10.00 a.m.
Cofnodion:
Dosbarthwyd copi o adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (HPPP) a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (PPM), oedd yn rhoi diweddariad
ar oblygiadau penderfyniad y Cyngor, fel rhan o'r ymarfer rhyddid a hyblygrwydd
i dynnu arian o’r swyddogaeth TCC ar gyfer 2016/17, gyda'r papurau ar gyfer y
cyfarfod.
Er nad oedd y
Gwasanaeth TCC yn swyddogaeth statudol gan y Cyngor, bu peth pryder gan drigolion
a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â phenderfyniad y Cyngor i beidio â
pharhau gyda'r Gwasanaeth ac o ganlyniad sefydlwyd Gweithgor i edrych ar
fodelau amgen ar gyfer darparu Gwasanaeth TCC.
Ar y cyd â Heddlu
Gogledd Cymru, Cynghorau Tref Prestatyn, Rhuddlan a’r Rhyl, a'r Grwpiau Ardal
Aelodau (MAG) perthnasol, lluniwyd a chytunwyd ar fodel lle byddai pob camera
teledu cylch cyfyng yn dal yn weithredol ac yn cofnodi ar sail pedwar awr ar
hugain trwy gydol y flwyddyn. Yr unig wahaniaeth fyddai na fyddent yn cael eu monitro ar sail 24 awr.
Fel hyn, byddai ffilm ar gael i'r
rhai sydd angen hynny ar gais.
Byddai'r
Cydlynydd TCC yn cael ei gontractio i gynnal y gwasanaeth a bod yn bwynt
cyswllt a chydlynydd rhwng yr holl sefydliadau partner. Cafwyd cytundeb mewn egwyddor gan yr holl
gynghorau tref sy'n rhan o'r prosiect ar eu cyfraniadau ariannol tuag at y
gwasanaeth a gan y partïon eraill sy'n rhan o'r prosiect.
Roedd amcangyfrif
cost y Gwasanaeth yn £62K ac yma cafwyd sicrwydd mewn perthynas â £61k.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr
Aelodau, dywedodd y swyddogion:-
·
Byddai'r
gwasanaeth unigol yn wasanaeth prawf o 12 mis i ddechrau i sefydlu ei hyfywdra
i barhau ar gyfer y dyfodol;
·
Bydd y
Gweithgor yn cyfarfod eto ar 25 Ionawr i archwilio cytundeb cyfreithiol y
Gwasanaeth a materion cyfreithiol eraill, yn ogystal â'r trefniadau
llywodraethu arfaethedig ar gyfer y Bwrdd;
·
O 1
Ebrill 2016, y dyddiad y byddai'r gwasanaeth unigol yn dod i fodolaeth,
byddai’r Gweithgor presennol yn dod yn Fwrdd Gwasanaethau TCC a byddai'n
gyfrifol am lywodraethu’r Gwasanaeth a threfniadau gweithredol;
·
Roedd
y tabl ym mharagraff 4.11 yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â pha
unigolyn/cwmnïau oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth a'i offer a chostau
cysylltiedig pob elfen o'r gwaith;
·
Pan
fydd y Bwrdd wedi’i sefydlu, gall archwilio'r ffynonellau cyllid, fel arian
grant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a ffrydiau cyllid diogelwch cymunedol
ymddygiad gwrth-gymdeithasol eraill (ASB), gyda golwg ar wneud y gorau o'r
incwm i'r Gwasanaeth. Mae rhywfaint o waith ymchwil eisoes wedi ei wneud
gan y gweithgor i ffynonellau cyllid. Efallai y byddant hefyd yn dymuno ymweld â
Bermo a Llangefni, fel yr awgrymwyd gan aelodau, i weld y systemau TCC a
osodwyd yno yn ddiweddar drostynt eu hunain;
·
Roeddent
yn obeithiol y gallai'r diffyg presennol o £1K rhwng costau gwasanaethau a
gwariant gael eu talu drwy drafod contractau a/neu taliadau a godir ar y Cyngor
neu ddefnyddwyr allanol.
Cyn cloi'r
drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i’r Gweithgor a'r swyddogion am eu hymdrechion
o ran sicrhau bod dull arall ar gyfer darparu Gwasanaethau TCC wedi'i
gynllunio, er bod hynny ar sail prawf o 12 mis i ddechrau, ac maent yn dymuno
yn dda i bawb dan sylw gyda'r fenter. Gofynnwyd hefyd bod adroddiadau ar y Gwasanaeth yn
y dyfodol yn defnyddio llai o derminoleg jargon er budd y cyhoedd.
Ar ôl ystyried yr
wybodaeth a’r eglurhad a ddarparwyd ar y derminoleg:
PENDERFYNWYD –yn
amodol ar y sylwadau uchod :-
(a)
Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gwaith a wneir
gan swyddogion wrth ddarparu ac adnabod arbedion a datblygu model partneriaeth
newydd ar gyfer darpariaeth TCC i ddechrau ar 1 Ebrill 2016; a
(b)
gofyn am adroddiad pellach i'w gyflwyno ymhen
chwe mis yn manylu ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer y bartneriaeth TCC,
gan amlinellu effeithiolrwydd y bartneriaeth wrth ddarparu'r gwasanaeth a'r
effaith y mae'n ei chael ar droseddau yn yr ardal y mae'n ei gwasanaethu.
Dogfennau ategol: