Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD RHEOLI’R TRYSORLYS
Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi ynghlwm) ar
swyddogaethau a gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor, ac amlinellu effaith
debygol y Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth ac ar y Dangosyddion Darbodus.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid wedi ei
gylchredeg ymlaen llaw.
Eglurodd y Prif Gyfrifydd fod Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys,
Atodiad 1, yn dangos sut fyddai’r Cyngor yn rheoli ei fuddsoddiadau a’i
fenthyciadau yn y flwyddyn i ddod, ac yn gosod y polisïau y mae’r swyddogaeth
Rheoli’r Trysorlys yn seiliedig arnynt. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu
effaith debygol y Cynllun Corfforaethol ar y strategaeth hon ac ar y
Dangosyddion Darbodus. Roedd Adroddiad Diweddaru Rheoli’r Trysorlys, Atodiad 2,
yn rhoi manylion am weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2015/16.
Eglurwyd
bod y ffigyrau yn Natganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys yn ffigyrau drafft
ac y bydden nhw’n cael eu diweddaru cyn cael eu cymeradwyo gan y Cyngor, yn
seiliedig ar y Cynllun Cyfalaf diweddaraf a Chynllun Busnes Stoc Tai yn
Chwefror, 2016.
Yn ôl Cod Rheoli’r Trysorlys CIPFA, roedd yn rhaid i’r Cyngor
gymeradwyo Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus bob
blwyddyn. Roedd yn rhaid i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol adolygu’r
adroddiad cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Cyngor ar 23 Chwefror 2016.
Byddai’r Pwyllgor yn derbyn
diweddariad ar weithgareddau Rheoli’r Trysorlys ddwywaith y flwyddyn a byddai
Rheoli’r Trysorlys yn edrych ar ôl arian y Cyngor, a oedd yn rhan hollbwysig o
waith y Cyngor, gan fod tua £0.5bn yn mynd drwy gyfrif banc y Cyngor bob
blwyddyn. Ar unrhyw adeg roedd gan y Cyngor o leiaf £10m o arian felly roedd
angen sicrwydd bod yr adenillion gorau posibl yn cael eu sicrhau heb risg
ariannol, sef y rheswm pam fod arian yn cael ei fuddsoddi gyda nifer o gyrff
ariannol.
Wrth fuddsoddi, blaenoriaethau’r Cyngor oedd:-
·
cadw arian yn ddiogel (diogelwch);
·
sicrhau bod modd cael yr arian yn ôl pan oedd ei angen
(hylifedd);
·
sicrhau eu bod yn cael adenillion boddhaol (arenillion).
Roedd Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys
2016/17 wedi ei gynnwys yn Atodiad 1. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
Dangosyddion Darbodus sy’n gosod terfynau ar weithgaredd Rheoli Trysorlys y
Cyngor ac yn dangos bod benthyciadau’r Cyngor yn fforddiadwy.
O ran y Dangosyddion Darbodus, roedd dangosyddion
Cronfa’r Cyngor yn seiliedig ar y ceisiadau cyfalaf arfaethedig diweddaraf a’r
dyraniadau bloc, a byddai’r rhain yn cael eu diweddaru cyn cyflwyno’r adroddiad
i’r Cyngor ei gymeradwyo ar 23 Chwefror 2016.
Roedd dangosyddion Cyfrif Refeniw Tai
wedi eu cyfrifo ar sail yr amcangyfrifon diweddaraf o Gynllun Busnes y Stoc Tai, ond byddent yn
cael eu diwygio cyn eu cyflwyno i’r Cyngor unwaith y byddai wedi cytuno ar
Gynllun Busnes terfynol y Stoc Tai. Roedd y Dangosyddion Darbodus unigol a
argymhellwyd i’w cymeradwyo wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 Atodlen A.
Tynnodd y Prif Gyfrifydd sylw
Aelodau at y meysydd canlynol yn Atodiad 1:-
·
Datganiad
Darpariaeth Refeniw Gofynnol
·
Cymhareb
Cronfa’r Cyngor
·
Gofyniad
Cyllid Cyfalaf a chyfanswm dyledion
·
Goblygiadau’r
elfen PFI a lleihad arian a ddelir
·
Parti i
Gontract Buddsoddiad a Gymeradwyir a Therfynau
·
Gofynion
Hyfforddiant
Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd S.A. Davies, rhoddodd y Cynghorydd Thompson-Hill a’r Prif Gyfrifydd
fanylion trefniadau benthyca presennol a hanesyddol, cyfraddau a chostau’r
Cyngor.
Tynnwyd sylw gan Mr P. Whitham at
y mater o ddarparu Hyfforddiant i Aelodau fel y cyfeirir ato ar Dudalen 38,
8.1.1 o Atodiad 1. Cyfeiriodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Adnoddau Dynol a Democrataidd (HLHRDS)at y gwahanol ddulliau a fabwysiadwyd ar gyfer darparu
hyfforddiant, ac eglurodd bwysigrwydd sicrhau bod gwybodaeth ddigonol ar gael
i’r Aelodau dan sylw er mwyn sicrhau eu bod yn deall y prosesau perthnasol.
Cytunodd Aelodau fod sesiwn hyfforddiant ar Reoli’r Trysorlys yn cael ei
chynnal 30 munud cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, a oedd yn cynnwys eitem fusnes
yn ymwneud â Rheoli’r Trysorlys, a bod pob Aelod yn cael ei wahodd i’r sesiwn.
Rhoddwyd yr ymatebion canlynol i
gwestiynau a gyflwynwyd gan Mr P. Whitham:-
-
Cytunwyd y byddai manylion pellach ynglŷn â
diddymu’r PWLB yn cael eu darparu pan fydden nhw ar gael.
-
Cadarnhawyd
bod trefniadau bancio’r Cyngor yn amodol ar y Strategaeth Gaffael.
-
Cyflwynwyd yr
adroddiad ar Fonitro Cyfalaf i’r Cabinet.
-
Gellid
cynnwys manylion ynglŷn â gweithredu REPOs yn sesiwn Hyfforddiant Aelodau
ym Medi, 2016, ar ôl derbyn ac egluro manylion.
-
Byddai’r Adolygiad Archwilio a
fyddai’n ei gynnal yn Chwefror, 2016, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn
Ebrill 2016.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn:-
(a)
Derbyn a nodi’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2016/17 a’r
Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2016/17, 2017/18 a 2018/19 (Atodiad 1).
(b)
Nodi adroddiad diweddaru
Rheoli’r Trysorlys (Atodiad 2).
(c)
Cytuno bod sesiwn hyfforddiant ar
Reoli’r Trysorlys yn cael ei ddarparu a bod pob Aelod yn cael ei wahodd.
(d)
Gofyn am fanylion
pellach ynglŷn â diddymu’r PWLB pan fyddent ar gael.
(e)
Cytuno bod yr
Adolygiad Archwilio a gynhelir yn Chwefror 2106 yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor yn Ebrill 2016, a
(f)
Gofyn am gynnwys
fanylion ynglŷn â gweithredu’r REPOs yn sesiwn Hyfforddiant Aelodau ym
Medi, 2016.
(RW, SG, IB i weithredu)
Dogfennau ategol: