Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DRAFFT O STRATEGAETH TAI SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio Datblygu a Pholisi (copi ynghlwm) i ofyn am gymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu drafft o Strategaeth Tai Sir Ddinbych ac i gymeradwyo'r Cynllun Gweithredu sy'n cyd-fynd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, yr Adroddiad Drafft ar Strategaeth Dai Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i geisio cymeradwyaeth yr Aelodau i fabwysiadu'r Strategaeth Dai Ddrafft a chymeradwyo'r Cynllun Gweithredu cyfatebol.

 

Ar y pwynt hwn, diolchodd yr Aelod Arweiniol i bawb a oedd wedi gweithio ar y Strategaeth Dai Ddrafft, gan gynnwys Angela Loftus a’i Thîm, ynghyd ag Aelodau’r Grwpiau Tasg a Gorffen.

 

Roedd cynnwys y Strategaeth Dai a'r Cynllun Gweithredu Drafft yn cynrychioli uchafbwynt yr ymgynghoriad â phartneriaid, gwaith gyda swyddogion ar draws y Cyngor a mewnbwn gan Aelodau. 

 

Roedd mynediad at dai o ansawdd da yn flaenoriaeth gorfforaethol allweddol a byddai datblygu Strategaeth Dai glir a chadarn yn darparu'r fframwaith ar gyfer holl swyddogaethau perthnasol y Cyngor i fynd i'r afael â'r flaenoriaeth yn llwyddiannus.  Bwriad y Strategaeth Dai oedd darparu datganiad clir o weledigaeth a nodau’r Cyngor ar gyfer tai yn y Sir am y pum mlynedd nesaf.

 

Roedd y weledigaeth strategol fel a ganlyn: -

“Mae pawb yn cael ei gefnogi gyda balchder i fyw mewn cartrefi sy'n diwallu eu hanghenion, o fewn y cymunedau bywiog a chynaliadwy y mae'n uchelgais gan Sir Ddinbych eu creu.”

 

O fewn y Strategaeth, i sicrhau cysondeb, roedd saith egwyddor lleol: -

·       Cefnogi’r Economi Lleol – drwy adeiladu tai ac adfywio

·       Lleihau anghydraddoldebau – drwy geisio sicrhau bod cartrefi priodol ar gael i bawb a bod pobl fregus yn cael eu cefnogi

·       Ymgysylltu a chynnwys – gyda phartneriaid i helpu i ddarparu cartrefi priodol ar y cyd a gweithio gyda thrigolion i adfywio eu cymdogaethau

·       Cynaliadwyedd  -  cefnogi marchnad dai gynaliadwy a sicrhau cymunedau cynaliadwy

·       Yr iaith Gymraeg a diwylliant – ystyried datblygiadau newydd, a’u hybu

·       Monitro ac adolygu – paratoir adolygiad blynyddol i amlinellu cynnydd ac unrhyw newidiadau i gamau y cytunwyd arnynt

·       Canolbwyntio ar ganlyniadau – bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar ddarparu’r canlyniadau a nodwyd.

 

Bu i’r Strategaeth nodi pum "thema" a oedd yn feysydd blaenoriaeth i’w rhoi ar waith, ac roedd y rhain yn ffurfio craidd y Strategaeth.  Y pum thema oedd: -

·       Mwy o gartrefi i ddiwallu'r angen a’r galw lleol

·       Creu cyflenwad o gartrefi fforddiadwy

·       Sicrhau cartrefi diogel ac iach

·       Cartrefi a chymorth i bobl ddiamddiffyn, a

·       Hyrwyddo a chefnogi cymunedau

 

Cafwyd trafodaeth ddwys a chodwyd y pwyntiau canlynol:-

·       Pa mor gyraeddadwy yw dyddiadau targed.  Roedd rhai o'r camau eisoes ar y gweill ac roedd rhai bron wedi’u cyflawni.  Roedd y camau i’w hadolygu a byddai sylw’n cael eu rhoi iddynt pe bai posibilrwydd i’r llinell amser lithro.

·       Roedd nifer o gamau gweithredu o dan Thema 2 - Tai Fforddiadwy.  Roedd swyddogion yn sôn am dai cyngor a thai cymdeithasol i gyd yn cael eu grwpio gyda'i gilydd.  Roedd yr Aelodau Arweiniol i fod yn gyfrifol am y Cynllun Gweithredu a byddai'n cael ei ddwyn i gyfrif.  Awgrymwyd y dylai unrhyw faterion nad oedd yn cael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod yn cael eu rhoi gerbron Pwyllgor Craffu.

·       O ran Cam Gweithredu 2.10, gofynnodd y Cynghorydd Jason McLellan bod " cynllun busnes yn cael ei ddatblygu er mwyn sicrhau bod mwy o dai Cyngor yn cael eu darparu" – bydd yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r Cyngor ym mis Ebrill 2016.

·       Hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru – os bydd unrhyw gais dros faint penodol, byddai'n ofynnol i'r datblygwr gyflwyno Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg.  Byddai'r Strategaeth Dai Ddrafft ei hun, unwaith y bydd wedi’i chymeradwyo, yn cael ei chyfieithu a'i chyhoeddi yn y Gymraeg hefyd.

·       Y niferoedd presennol ar y rhestr aros am dai oedd: -

Ø  1915 o geisiadau cyffredinol

Ø  264 o geisiadau trosglwyddo

Ø  28 yn ddigartref

·       Cartrefi Gwag - Datblygu Cynllun Cyflawni Tai Gwag y Cyngor, ymchwilio mecanweithiau arloesol ar gyfer dod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd a gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu mentrau newydd.  Roedd y perfformiad yn eithaf da o ran gweithio ar gartrefi gwag.

·       Roedd gan 24% o'r boblogaeth salwch neu anabledd a oedd yn cyfyngu ar weithgarwch ac, oherwydd hyn, byddai’r math o dai a fyddai ar gael yn hanfodol

·       Cafodd 176 o eiddo eu hadeiladu rhwng 2014/2015 a oedd 17 yn fwy na 2013/2014

·       Roedd gan y Cyngor ddyletswydd i gynnal a chyflwyno Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr cyn mis Chwefror 2016. Roedd hyn yn ofyniad statudol a byddai'n darparu gwybodaeth gyfredol am anghenion llety sipsiwn a theithwyr yn Sir Ddinbych.

·       Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, roedd ychydig o dan 500 o gartrefi wedi’u darparu yn Sir Ddinbych. 

 

Mynegwyd diolch gan Aelodau i'r Aelodau Arweiniol a'r Swyddogion am eu holl waith ar y Strategaeth Dai Ddrafft.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, bod y Cyngor yn mabwysiadu Strategaeth Dai Sir Ddinbych ynghyd â Chynllun Gweithredu drafft cysylltiedig.

 

 

Dogfennau ategol: