Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYLLIDEB 2016/17 – NEWYDDION DIWEDDARAF

I ystyried adroddiad (copi i ddilyn) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r gyllideb diweddaraf ar gyfer 2016/17

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad y gyllideb ar gyfer 2016/2017 (a ddosbarthwyd yn flaenorol). 

 

 Nododd yr adroddiad y sefyllfa ddiweddaraf o ran darparu cyllideb refeniw 2016/2017 a thynnodd sylw at y mesurau sy’n cael eu cymryd yn rhan o Gam 5 y broses gyllideb dwy flynedd bresennol.  Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y buddsoddiad y gwnaeth y cyngor mewn seilwaith allweddol a gwelliannau ledled y sir dros gyfnod parhaus o ostyngiadau mewn cyllid.  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu sut roedd strategaeth cyllideb y cyngor wedi diogelu gwasanaethau allweddol tra'n rheoli sefyllfa ariannol heriol.

 

Roedd Llywodraeth Cymru i fod i gyhoeddi ei gyllideb ar 8 Rhagfyr gyda Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol yn dilyn ar 9 Rhagfyr.  Byddai hyn yn gwneud y sefyllfa ariannu ar gyfer 2016/17 yn fwy eglur.  Byddai cyhoeddi Setliad Dros Dro yn cynnwys prif ffigur, ond efallai na chaiff effaith newidiadau i ffrydiau cyllid grant refeniw eu cyhoeddi ar yr un pryd.

 

Byddai cyhoeddi Setliad Llywodraeth Leol yn hwyr yn golygu efallai y bydd angen addasu amserlen y gyllideb.  Roedd yn rhaid i'r Cyngor bennu ei gyllideb mewn pryd er mwyn caniatáu ar gyfer cynhyrchu a dosbarthu biliau Treth y Cyngor ym mis Mawrth 2016. Yn dibynnu ar lefel y Setliad Dros Dro, roedd yn debygol y gall fod angen cyfarfod ychwanegol o'r Cyngor Llawn i gwblhau'r gyllideb ym mis Chwefror 2016.

 

O ystyried lefel o ansicrwydd ynghylch y setliad refeniw, canolbwyntiodd gweithdai cyllideb diweddar i aelodau ar ystod o gynigion y bydd angen eu gweithredu efallai yn 2016/2017. Er mwyn cynnal momentwm a chyfyngu ar risgiau ar ddiwedd y broses, fe eglurwyd y byddai set o fesurau yn cael eu cyflwyno i’r cyngor er gwybodaeth ym mis Rhagfyr er mwyn gallu nodi effaith y gyllideb.

 

Ni fu cyfeiriad clir ynghylch a fyddai cyfarwyddebau i ddiogelu ysgolion a chyllidebau eraill.  Ers 2011 bu addewid gweinidogol i amddiffyn cyllidebau ysgolion yng Nghymru.  Er mwyn cydymffurfio â'r addewid i ‘amddiffyn’ cyllidebau ysgolion, dylai'r cyngor fod wedi cynyddu'r cyllid i ysgolion o £3.4m dros y pedair blynedd diwethaf.  Yn wir, roedd cyllid ysgolion yn Sir Ddinbych wedi cynyddu o £6.3m.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·       Roedd y Pwyllgor Craffu wedi codi mater adolygiad a chyllid Ysgol Rhuthun ynghylch dwy ysgol newydd a oedd i'w hadeiladu.  Yr hyn a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar oedd bod dogfen newydd wedi ei pharatoi ar gyfer Llywodraeth Cymru a oedd yn awgrymu y dylai’r holl gynlluniau (Ysgol y 21ain Ganrif, Adolygiad Rhuthun, ac Ysgol Ffydd) yn cael eu cynnwys fel un pecyn.  Byddai'r cynllun yn cael ei ariannu 50% gan Gyngor Sir Ddinbych a 50% gan Lywodraeth Cymru.  Disgwylir cael ychwanegiad o £6m gan Lywodraeth Cymru tuag at y pecyn.  Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ei fod wedi ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad ynglŷn â materion ysgol.

·       Cytundeb Menter Cyllid Preifat – cafwyd llongyfarchiadau yn dilyn terfynu'r Cytundeb Menter Cyllid Preifat.  Disgwyliwyd camau cadarnhaol ar gyfer dyfodol yr adeiladau.

·       Gwnaethpwyd cais am gyflwyniad cliriach o'r ffigurau i gynnwys manylion am ddadansoddiad, benthyca a ffigurau pellach ar gyfer cronfeydd wrth gefn.  Cytunodd yr holl aelodau i'r cais am gynllun mwy manwl.

·       Byddai'r setliad ar gyfer cyllideb 2016/2017 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer un flwyddyn yn unig.  Cafwyd sicrwydd bod disgwyl setliadau tair blynedd yn ar ôl y flwyddyn honno.

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau’r Cyngor: -

 

(i)              yn nodi'r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno cyllideb 2016/2017 a'r camau arfaethedig i gwblhau'r broses.

(ii)             nodi nad yw’r rhan fwyaf o arbedion a wnaed hyd yn hyn yn y broses gyllideb ddwy flynedd wedi gosod toriadau i wasanaethau neu gynnydd mewn costau

(iii)            nodi bod y buddsoddiad cyfalaf o bron i £200 miliwn ar brosiectau a gwblhawyd ac a gynlluniwyd ar draws y sir o 2012 yn ymestyn i 2019.

 

 

Dogfennau ategol: