Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE - DEVINE, PWLL Y GRAWYS, DINBYCH
Ystyried cais i
amrywio Trwydded Eiddo a gyflwynwyd yn unol ag Adran 34 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor
(sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD gwrthod
y cais.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar -
(i)
gais a oedd wedi dod i law gan Mr. John Sydney Wynne i
amrywio Trwydded Safle mewn perthynas â Devine, Pwll y Grawys, Dinbych;
(ii)
mae’r Drwydded Eiddo bresennol yn awdurdodi’r canlynol ar
hyn o bryd -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSER O |
AMSER HYD |
Darparu Alcohol (i’w yfed ar y safle yn unig) |
Llun-Sul |
12:30 |
00:30 |
Chwarae Cerddoriaeth sydd wedi’i Recordio |
Llun-Sul |
12:30 |
00:30 |
Lluniaeth Hwyr y Nos (Dan Do ac yn yr Awyr Agored)* |
Llun-Sul |
23:00 |
00:30 |
(*daeth darparu Lluniaeth Hwyr y
Nos yn weithgaredd trwyddedig rhwng 23.00 a 05.00 o’r gloch yn unig)
(iii)
mae’r ymgeisydd wedi cyflwyno cais ar gyfer amrywio fel a
ganlyn -
GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG |
DYDDIAU PERTHNASOL |
AMSER O |
AMSER HYD |
Darparu cerddoriaeth fyw (Dan Do) |
Gwener – Sul Gwyliau Cyhoeddus |
20:00 20:00 |
02:00 02:00 |
Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio (Dan Do) |
Iau - Sul Gwyliau Cyhoeddus |
20:00 20:00 |
02:00 02:00 |
Gwerthu Alcohol (i’w yfed yn yr eiddo ac oddi ar yr
eiddo) |
Sul - Iau Gwen - Sad Gwyliau Cyhoeddus |
11:59 11:59 11:59 |
01:00 02:00 02:00 |
Lluniaeth Hwyr y Nos (Dan Do ac Awyr Agored) |
Gwen - Sad Sul Nos Galan |
12:00 11:00 10:00 |
01:30 12:30 02:00 |
Adloniant o ddisgrifiad tebyg i gerddoriaeth fyw,
cerddoriaeth wedi’i recordio neu berfformiad dawns (Dan do) |
Llun - Iau Gwen - Sad Sul Nos Galan |
10:00 10:00 11:00 10:00 |
00:00 01:30 12:30 02:00 |
Gwerthu Alcohol (i’w yfed yn yr eiddo ac oddi ar yr
eiddo) |
Sul - Iau Gwen - Sad Gwyliau Cyhoeddus |
23:00 23:00 23:00 |
01:00 02:00 02:00 |
(iv)
roedd un sylw ysgrifenedig wedi dod i law gan barti sydd
â diddordeb mewn ymateb i'r hysbysiad cyhoeddus (Atodiad A i'r adroddiad) sy’n
ymwneud â niwsans sŵn posibl o ganlyniad i gerddoriaeth uchel ynghyd â'r
aflonyddwch a allai gael ei achosi gan bobl yn gadael yr eiddo yn hwyr yn y nos
ac yn ystod oriau mân y bore;
(v)
gwrthwynebwyd y cais gan Heddlu Gogledd Cymru ond yn
dilyn trafodaethau gyda'r ymgeisydd lluniwyd nifer o amodau sydd wedi eu
cynllunio i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (Atodiad B i’r adroddiad)
ac ar y sail honno gofynnodd yr Heddlu, pe byddai’r aelodau o blaid cymeradwyo’r
cais, eu bod yn ystyried cynnwys yr amodau hynny o fewn Atodlen Weithredu’r
eiddo;
(vi)
mae Awdurdod Cynllunio’r Cyngor wedi rhoi gwybod bod
rhywfaint o anghysondeb rhwng y defnydd awdurdodedig presennol o'r eiddo i'r
hyn a gynigir yn y cais.
(vii)
yr Atodlenni Gweithredu arfaethedig a phresennol (Atodiad
C a D i'r adroddiad);
(viii)
mae
angen ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i Ganllawiau a Datganiad
Polisi Trwyddedu’r Cyngor; deddfwriaeth arall berthnasol a sylwadau perthnasol
a dderbyniwyd, a’r
(ix)
dewisiadau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu
ynglŷn â’r cais.
Cafwyd crynodeb o’r
adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos. Ers cyhoeddi'r adroddiad
roedd cyfryngu wedi bod yn mynd rhagddo rhwng yr Ymgeisydd a'r parti sydd â
diddordeb o'r eiddo cyfagos a oedd wedi arwain at gael gwared â seinydd o’r wal
rhyngddynt dros dro. Roedd y parti â diddordeb wedi bod yn fodlon â’r lefelau
sŵn ers hynny ac wedi cytuno i dynnu ei sylw yn ôl os rhoddir gwarantau
gan yr Ymgeisydd am lefelau sŵn yn y dyfodol. Er gwaethaf ddarparu
sicrwydd ar lafar yn y cyswllt hwnnw roedd yr Ymgeisydd wedi methu i
gadarnhau’r cytundeb hwnnw yn ysgrifenedig ac felly mae'r sylw yn dal i sefyll. O ran yr anghysondeb a
amlygwyd gan yr Adran Gynllunio am ddefnydd awdurdodedig o'r safle, dywedwyd
wrth yr aelodau bod yr Ymgeisydd yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw yn
uniongyrchol gyda'r Adran Gynllunio.
CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD
Nid oedd yr Ymgeisydd,
Mr. John Sydney Wynne yn bresennol yn y cyfarfod a chymerwyd bod manylion y
cais, gan gynnwys yr Atodlen Weithredu wedi’u darllen.
Roedd yr Is-bwyllgor yn
siomedig nad oeddent yn gallu holi'r Ymgeisydd neu ofyn am sicrwydd ynghylch
camau i roi sylw i niwsans sŵn posibl o ystyried y pryderon a godwyd gan y
parti â diddordeb ac agosrwydd preswylwyr eraill yn yr ardal.
SYLWADAU HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Nid oedd cynrychiolydd o
Heddlu Gogledd Cymru yn bresennol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am y
sylwadau ysgrifenedig a nifer o amodau a gytunwyd rhwng yr Ymgeisydd a Heddlu
Gogledd Cymru er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu ymhellach (i'w weld yn
Atodiad B i'r adroddiad). Gofynnodd yr Heddlu, os byddai’r aelodau'n penderfynu
caniatáu'r cais, eu bod yn ystyried ymgorffori’r amodau hynny o fewn yr Atodlen
Weithredu.
SYLWADAU CYHOEDDUS GAN RAI Â DIDDORDEB
Roedd un sylw
ysgrifenedig (Atodiad A i'r adroddiad) wedi ei dderbyn gan barti â diddordeb -
Mr. G. Hughes o Bwll y Grawys yn gwrthwynebu'r cais ar sail sŵn ac
aflonyddwch.
Nid oedd Mr. Hughes yn bresennol i gefnogi ei
sylw a nododd yr aelodau ganlyniadau'r cyfryngu parhaus rhwng Mr. Hughes a'r
Ymgeisydd fel y nodwyd gan y Swyddog Trwyddedu yn ystod cyflwyno'r adroddiad. Nodwyd bod yr Ymgeisydd
wedi methu â darparu'r sicrwydd ysgrifenedig y gofynnodd y parti â diddordeb
amdano er ei fod wedi dweud y byddai'n gwneud hynny.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (9.45 am)
gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
Y PENDERFYNIAD A'R RHESYMAU DROS WNEUD Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD gwrthod y cais am amrywiad.
Dyma oedd y rhesymau am y
penderfyniad –
Methodd yr Ymgeisydd fod yn bresennol yn y gwrandawiad i gefnogi ei gais. Teimlai'r
Is-bwyllgor Trwyddedu fod methiant yr Ymgeisydd i fod yn bresennol yn amharchus
i'r Is-bwyllgor o ystyried ei fod yn gofyn am gynnydd mewn oriau ar ei
drwydded. Yn absenoldeb yr Ymgeisydd roedd rhaid i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn seiliedig ar y dystiolaeth ger ei fron yn unig a
rhoddodd aelodau ystyriaeth ddyledus i'r cais a manylion a oedd wedi’u cynnwys
ynddo a'r gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan Mr. G. Hughes. Nid oedd yr
Is-bwyllgor yn gallu holi'r Ymgeisydd am yr effaith bosibl y byddai'r cynnydd
arfaethedig mewn oriau yn ei gael ar breswylwyr yn yr ardal leol, yn enwedig Mr.
Hughes. Oherwydd agosrwydd y preswylydd, a phreswylwyr
eraill yn lleoliad y safle, penderfynodd yr Is-bwyllgor y byddai effaith
andwyol o ganlyniad i gynnydd mewn oriau ar lefelau niwsans cyhoeddus, yn
enwedig lefelau sŵn yn dod o'r eiddo. Ymhellach, byddai
cynnydd mewn oriau yn arwain at lefel annerbyniol o drosedd ac anhrefn yn y
lleoliad. Nid oedd yr Ymgeisydd wedi
darparu unrhyw beth i’r Is-bwyllgor a fyddai'n eu bodloni y gallai'r Amcanion
Trwyddedu gael eu bodloni’n briodol. O ganlyniad cafodd y
cais am amrywio'r drwydded ei wrthod.
Daeth y
cyfarfod i ben am 10.00 a.m.
Dogfennau ategol: