Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0833/TXJDR
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi
ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau
hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0833/TXJDR.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0833/TXJDR
ynglŷn â’i ymddygiad i’r dyfodol.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –
(i)
addasrwydd
Gyrrwr Rhif 15/0833/TXJDR i ddal trwydded i yrru
cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan
gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd heb drwydded;
(ii)
manylion
ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi (roedd crynodeb o
ffeithiau ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth ynghlwm wrth yr
adroddiad), ac
(iii)
estyn
gwahoddiad i’r Gyrrwr ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei adolygiad o’i drwydded ac
i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.
Roedd y Gyrrwr yn
bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i gynrychiolydd a chadarnhaodd ei fod wedi
derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor. Cyflwynodd yr
Uwch Swyddog Gorfodi Diogelwch Cymunedol (TWE) yr adroddiad gan fanylu ar
ffeithiau'r achos. Mewn achosion pan fo 20 neu fwy o bwyntiau
cosb wedi eu cronni mewn cyfnod o 24 mis
caiff y mater ei gyfeirio at y Pwyllgor i’w adolygu.
Esboniodd cynrychiolydd y Gyrrwr ei bod yn arfer anfon nodyn atgoffa i
adnewyddu at ddeiliaid trwyddedau, nad oedd wedi digwydd yn yr achos hwn.
Roedd methu adnewyddu yn esgeulustod gwirioneddol ar ran y gyrrwr, yr
ymddiheurodd amdano, ac ers hynny roedd wedi cymryd camau i sicrhau na fyddai’r
mater yn cael ei ailadrodd drwy fuddsoddi mewn trefnwr i’w osod ar y wal i
weithredu fel cymorth cof.
Bu'r Aelodau'n holi'r
Gyrrwr ar amgylchiadau'r achos a rhoddwyd sicrwydd bod y cerbyd yn cael ei gadw
mewn cyflwr perffaith a’i fod yn cael archwiliadau rheolaidd, ond roedd dyddiad
dod i ben y drwydded wedi’i esgeuluso. Roedd llythyr gan gwmni
yswiriant y gyrrwr (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod) yn rhoi gwybod na fu toriad
yn yr yswiriant, a phe bai hawliad wedi codi yn ystod y cyfnod dod i ben, byddai
wedi cael ei drin yn ôl ei deilyngdod. O ran y nodiadau atgoffa
i adnewyddu, cadarnhaodd y swyddogion ei fod yn arferol anfon nodiadau atgoffa
ond oherwydd y system â llaw a ddefnyddiwyd ar y pryd, nid oedd modd cadarnhau
a anfonwyd nodyn atgoffa yn yr achos hwn, neu i ble y byddai wedi cael ei
anfon.
Wrth wneud datganiad
terfynol, ailadroddodd cynrychiolydd y Gyrrwr bod y methiant i adnewyddu'r
drwydded wedi bod yn esgeulustod gwirioneddol ac roedd dull bellach ar waith i
sicrhau na fyddai'n digwydd eto. Cyfeiriodd at ymddygiad
blaenorol da’r Gyrrwr a'r buddsoddiad a roddodd yn y cerbyd, a’r gwaith cynnal
a chadw parhaus arno.
Gohiriwyd y pwyllgor i
ystyried yr achos a -
PHENDERFYNWYD rhoi rhybudd ffurfiol i Yrrwr Rhif 15/0833/TXJDR
ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol.
Roedd y rhesymau dros
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu fel a ganlyn -
Ystyriodd yr Aelodau'r
adroddiad a’r achos a gyflwynwyd gan y Gyrrwr a'i ymateb i gwestiynau.
Roedd yn amhosibl penderfynu a oedd y gyrrwr wedi cael y nodyn atgoffa i
adnewyddu oherwydd y broses a oedd ar waith ar y pryd, a’i fod wedi newid
cyfeiriad. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y Gyrrwr oedd sicrhau bod
ganddo drwydded ddilys ar waith bob amser. Derbyniodd y pwyllgor nad oedd
unrhyw ymgais bwriadol i dwyllo a nodwyd y camau a gymerwyd gan y Gyrrwr i
liniaru unrhyw ddiffyg yn y dyfodol. O ganlyniad, ystyriodd
yr aelodau’r Gyrrwr i fod yn berson addas a phriodol i ddal trwydded, a
theimlasant y byddai rhybudd llym yn addas yn yr achos hwn.
Ymhellach at hynny, atgoffwyd y Gyrrwr i wneud gwiriadau dyddiol ar ei
gerbyd, a fyddai'n cynnwys gwirio dyddiad dod i ben plât ei drwydded.
Byddai unrhyw ymddangosiad pellach gerbron y pwyllgor yn cael ei ystyried
yn fater difrifol iawn.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 7./2 yn gyfyngedig