Eitem ar yr agenda
CYNLLUN CORFFORAETHOL – DIWEDDARIAD ARIANNOL
I ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol
Cyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi'n amgaeedig) yn darparu'r
sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar y Cynllun Corfforaethol.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD -
(a) Bod y Cabinet yn cadarnhau'r rhagdybiaethau a
nodir yn y Cynllun.
(b) aelodau i ofyn am adroddiadau pellach i'r Cabinet
ym mis Ionawr 2016 ac yn rheolaidd wedi hynny ar y cynnydd sy'n cael ei wneud
ar bob un o'r prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar sefyllfa ariannol y Cynllun
Corfforaethol.
Lansiwyd y Cynllun Corfforaethol yn 2012 ac roedd yn gosod allan raglen
uchelgeisiol o fuddsoddiad cyfalaf mewn ysgolion, ffyrdd, gofal cymdeithasol a
moderneiddio. Roedd cyflawni’r Cynllun yn dibynnu ar sicrhau cyllideb i dalu am
fenthyca a chynnal cronfeydd arian parod ynghyd â grant llywodraeth i helpu i
gyflawni rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac yn y blynyddoedd cynt roedd grant
llywodraeth wedi helpu i dalu am fuddsoddiad priffyrdd ychwanegol hefyd. Roedd
y Cynllun wedi datblygu ers 2012 ac er mwyn gallu ei fforddio, bu’n rhaid ei
ddiwygio rywfaint ochr yn ochr â newidiadau mewn rhagdybiaethau cynllunio.
Manylodd y Cynghorydd Thompson-Hill ar elfennau ariannol y Cynllun
Corfforaethol, yn cynnwys rhagdybiaethau allweddol, gan gyfeirio’n arbennig at
-
·
gytundeb
y Cyngor i roi blaenoriaeth i gyflawni’r Cynllun yn y cylchoedd cyllideb nesaf
·
newidiadau
allweddol i’r Cynllun gwreiddiol fyddai cael gwared ar y prosiect Swyddfeydd a
gostyngiad yn amcan gost y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
·
cytunodd y Cabinet ym mis
Mehefin 2015 i gynyddu gwariant Priffyrdd £3.2m i £18.4m drwy ddyraniad
ychwanegol o £800k y flwyddyn
·
y sefyllfa ddiweddaraf am
gyllido rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw y derbyniwyd cadarnhad yn ddiweddar
gan LlC fod y Rhaglen Amlinellol Strategol a gyflwynwyd ym Mehefin 2015 yn
dderbyniol ac y byddai pob cynllun (yn cynnwys y prosiect ysgol ffydd, Ysgol
Tref Rhuthun, Ysgol Carreg Emlyn, ardaloedd Llanfair/Pentrecelyn ac Ysgol
Pendref yn Ninbych) yn cael eu cyllido ar 50%
·
cyfanswm
yr amcan gostau cyfalaf oedd £126m ac roedd ciplun o’r llif arian presennol a’r
gwariant hyd at 2019/20 wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.
I gloi dywedodd y Cynghoyrdd Thompson-Hill fod y
cynllun yn un cadarn ac, â phopeth arall yn gyfartal, fod adnoddau yn eu lle i
barhau i allu cyflawni’r Cynllun.
Wrth ystyried yr adroddiad trafodwyd y materion
canlynol –
·
Ailadroddodd y Cynghorydd Eryl
Williams y ffaith fod Sir Ddinbych ar flaen y gad o ran buddsoddi mewn
adeiladau ysgol a bod y strategaeth yn dwyn ffrwyth erbyn hyn gyda LlC yn
ariannu pob cynllun ar 50%. Canmolodd y cyngor blaenorol am eu gweledigaeth hirdymor
i ysgolion a’r cyngor presennol am barhau â’r buddsoddiad hwnnw - dywedodd fod
sefyllfa Sir Ddinbych yn cyferbynnu â chynghorau eraill nad oeddent mewn
sefyllfa i fuddsoddi.
·
eglurwyd fod y rhagdybiaeth
wreiddiol ar gyfer yr ysgol ffydd yn seiliedig ar 15% o gyllid y cyngor a
chyllid o 100% i ysgolion ardal Rhuthun - drwy gyfuno’r elfennau hyn a chytuno
ar becyn ariannu newydd o 50% gyda LlC, roedd y cyngor bellach yn elwa ar
gyllid ychwanegol o £6m
·
gofynnwyd am sicrhad ynghylch
cyflawni’r prosiectau tai gofal ychwanegol. Adroddodd y Cynghoryrdd Bobby
Feeley am yr amserlenni a’r cynnydd a wnaed a dywedodd fod cynnydd yn dibynnu
ar bartneriaid allanol hefyd
·
tynnodd
yr aelodau sylw at yr angen i gadw llygad manwl ar y prosiectau er mwyn osgoi
llithriad ac adroddodd y Cynghorwyr Eryl Williams a Julian Thompson-Hill ar
waith y Bwrdd Moderneiddio Addysg yn sicrhau fod y prosiectau ysgolion yn cael
eu cyflwyno’n brydlon – byddai adroddiad cynnydd ar y prosiect ysgol ffydd yn
cael ei gyflwyno i gyfarfod Briffio nesaf y Cyngor
·
atebodd
y Cynghorydd David Smith gwestiynau am gyllid priffyrdd a chadarnhaodd fod
£800k ychwanegol wedi’i ddyrannu i briffyrdd i geisio cynnal safonau i ffyrdd
blaenoriaeth ond er gwaethaf y buddsoddiad ychwanegol, ei bod yn debygol y
byddai lefelau’n dirywio’n araf
·
wrth ymateb i gwestiynau ar
fenthyca darbodus, cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill fod prynu cymhorthdal
y PFI a HRA wedi arwain at enillion ariannol. Roedd dangosyddion darbodus yn
cael eu cytuno arnynt yn flynyddol gan y cyngor yn cynnwys y gymhareb fenthyca
ac roedd yn gyffyrddus â lefel bresennol y benthyca. Nodwyd fod gan y Pwyllgor
Llywodraethu Corfforaethol ran mewn monitro’r ffigyrau hyn hefyd.
Nododd y Cabinet nad oedd pob un o’r prosiectau yn y Cynllun
Corfforaethol fod i gael eu cwblhau yn ystod tymor presennol y cyngor a holodd
a oedd unrhyw amddiffynfeydd yn eu lle i sicrhau y byddai’r Cynllun yn cael ei
gyflawni’n llawn yn dilyn yr etholiadau lleol yn 2017. Dywedwyd wrth y Cabinet,
yn seiliedig ar yr amcanestyniadau presennol, y byddai’r rhan fwyaf o
brosiectau wedi symud ymlaen gryn dipyn ac felly byddai rhwymedigaethau
cytundebol arnynt i barhau. Ond, roedd perygl o lithriad, yn enwedig o ran y
tai gofal ychwanegol. Teimlai’r Cabinet felly y dylid adolygu’r mater hwn yn
ofalus a gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y Cynllun Corfforaethol yn cael ei
gyflawni’n llawn. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at wahanol gamau a
chymhlethdodau’r prosiectau yn y Cynllun, yr her o’u gweithredu, a’i farn ef y
dylai’r Cabinet gymryd mwy o ran yn hyn. Cytunwyd y byddai’r Cabinet yn cael
adroddiadau cynnydd rheolaidd ar y gwahanol brosiectau.
Roedd y Cabinet yn falch o nodi cadernid y Cynllun
a’r mecanweithiau a oedd yn eu lle i oruchwylio a sicrhau ei fod yn mynd yn ei
flaen yn llwyddiannus. Amlygodd y Cadeirydd y penderfyniadau anodd ac
amhoblogaidd a wnaed yn ddiweddar ac roedd yn falch o dynnu sylw at y
gwahaniaeth cadarnhaol y byddai cyflawni’r Cynllun yn ei wneud i’r sir.
PENDERFYNWYD –
(a) fod y Cabinet yn cadarnhau’r rhagdybiaethau
a nodwyd o fewn y Cynllun, a
(b) bod yr aelodau’n gofyn am adroddiadau
pellach i’r Cabinet ym mis Ionawr 2016 ac yn rheolaidd wedi hynny ar y cynnydd
sy’n cael ei wneud ar bob un o’r prosiectau a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.
Dogfennau ategol: