Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR AMDDIFFYN OEDOLION 2014/2015
I ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) er mwyn darparu trosolwg i'r Aelodau o effaith ymarfer
a threfniadau amddiffyn oedolion a diogelu lleol. Hefyd
i adolygu cynnydd yn y maes allweddol o waith dros y 12 mis diwethaf.
10.30 a.m. – 11.05 a.m.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol yr Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn
Oedolion 2014/2015 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu trosolwg i'r
Aelodau o'r trefniadau ac arferion diogelu ac amddiffyn oedolion yn lleol.
Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol wrth y Pwyllgor ei bod yn ofynnol
i'r Cyngor yn ôl statud i adrodd yn flynyddol ar Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn
(POVA). Soniodd hefyd: -
·
mai dim ond un Dangosydd Perfformiad cenedlaethol (DP)
sy'n ymwneud ag amddiffyn oedolion ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Lles (Cymru) 2014, pan ddaw i rym ym mis Ebrill 2016, yn rhoi sail statudol i
amddiffyn oedolion, yn debyg i'r hyn a roddir i amddiffyn plant ar hyn o bryd. Byddai ei roi ar waith
hefyd yn golygu DP ychwanegol ym maes amddiffyn oedolion;
·
Am y goblygiadau i'r Cyngor o’r Dyfarniad Goruchaf Lys
Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a'r nifer cynyddol o geisiadau
awdurdodiad safonol a dderbyniwyd o ganlyniad i'r Dyfarniad;
·
bod yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru (AGGCC) yn ei Adroddiad Gwerthuso Perfformiad Blynyddol ar Wasanaethau
Gofal Cymdeithasol y Cyngor ar gyfer 2014/15 wedi nodi POVA fel maes i'w wella. Roedd y Cyngor wedi
nodi pedair ardal o fewn y maes amddiffyn oedolion a oedd angen cael eu
cryfhau, roedd y rhain wedi’u nodi ym mharagraff 4.15 o'r adroddiad. Roedd Arolygwyr AGGCC
wedi cael eu briffio ar y meysydd hyn ac yn ymddangos i fod yn fodlon ar
gynlluniau'r Cyngor ar gyfer gwella;
·
roedd angen rhywfaint o hyfforddiant pellach i Reolwyr
Arweiniol Dynodedig (RhBD) er mwyn magu eu hyder wrth gadeirio cyfarfodydd a
oedd yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Codwyd y materion
canlynol gan yr Aelodau:-
·
yr anawsterau a gafwyd gan y rhai yn y proffesiynau
nyrsio a gofal oherwydd bod y cyfreithiau sy'n ymwneud â nyrsio a gofal yn cael
eu newid yn rheolaidd;
·
yr angen am gartrefi preswyl / gofal i ystyried cofrestru
deuol oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau gofal iechyd meddwl yr henoed. Byddai cael cartrefi
gyda chofrestriad deuol, fel cartrefi gofal preswyl a gofal nyrsio, wedyn yn
sicrhau na fyddai preswylwyr yn destun straen a chynnwrf wrth i'w hanghenion
gynyddu fel na fyddai'n rhaid iddynt symud o un cartref i'r llall er mwyn
diwallu eu hanghenion cynyddol;
·
yr angen am ddull a arweinir gan y gymuned i ofalu am yr
henoed a'r diamddiffyn a'r defnydd posibl o gyfleusterau'r Cyngor, megis
llyfrgelloedd, ar gyfer unigolion hŷn, diamddiffyn neu unig i gwrdd â
phobl eraill;
·
yr angen i aelodau wardiau fod yn wyliadwrus mewn
perthynas â cham-drin posib o bobl oedrannus neu ddiamddiffyn yn y gymuned.
Wrth ymateb i
gwestiynau'r swyddogion, gwnaeth Aelodau:
·
fanylu ar y broses, fel y nodir gan y gyfraith, yr oedd
yn rhaid ei dilyn, wrth ddelio â cheisiadau caniatâd safonol o dan y dyfarniad
DoLS a chadarnhawyd nad oedd costau pob asesiad DoLS i'w cwrdd gan yr awdurdod
lleol;
·
Bwysleisio’r pwysau a wynebir gan wasanaethau gofal
cymdeithasol oherwydd ceisiadau DoLS, o ran arian ac adnoddau - oherwydd bod yn
rhaid i’r Gwasanaeth ddelio â cheisiadau cyfredol ac ôl-weithredol, ac ar yr un
pryd gorfod ymgodymu â thoriadau yn y gyllideb. Nid yw'r broblem yn unigryw i Sir Ddinbych ac yn
ddiweddar gofynnwyd i Gomisiwn y Gyfraith archwilio'r problemau a'r pwysau a
achosir. Roedd eu
hadroddiad i fod i gael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2016;
·
cynghorwyd bod angen cynyddol am ofal dementia, tra bod y
galw am ofal preswyl yn lleihau;
·
Pwysleisiwyd y gallai ymchwiliadau POVA olygu profiadau
gofidus i bawb, yn enwedig pan oedd yr honiadau a wnaed yn ffug;
·
Cadarnhawyd, er bod y nifer o honiadau cam-drin yn
cynyddu ar draws y wlad, achos hyn oedd cynyddu ymwybyddiaeth a arweiniodd at
ddigwyddiadau mwy honedig yn cael eu hadrodd.
Cyn diwedd y drafodaeth, gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor bod cyflwyniad ar
"Unigrwydd a'i Oblygiadau" yn cael ei gyflwyno i sesiwn Briffio’r
Cyngor yn y dyfodol.
Gyda golwg ar
sicrhau bod y risgiau a nodwyd gan AGGCC yn ymwneud â POVA yn cael sylw, a bod
y Cyngor yn ymwybodol o'r mathau o gam-drin honedig a'r lleoliadau lle maent
wedi digwydd, penderfynodd y Pwyllgor: -.
PENDERFYNWYD:-
a)
Yn amodol ar y sylwadau uchod, dderbyn yr Adroddiad
Blynyddol ar Amddiffyn Oedolion 2014/2015;
b)
Ddau'n derbyn ac yn rhoi sylwadau ar yr adroddiad a
chydnabod natur bwysig ymagwedd gorfforaethol at Amddiffyn Oedolion a chyfrifoldeb
y Cyngor i weld hyn fel maes blaenoriaeth allweddol ac i’w osod ochr yn ochr
â'r ymrwymiad a'r arwyddocâd a roddwyd gan Sir Ddinbych i Amddiffyn Plant; a
c)
Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei
gyfarfod ym mis Chwefror 2016 yn manylu ar nifer o ymchwiliadau Amddiffyn
Oedolion Diamddiffyn a wnaed mewn perthynas â gwahanol leoliadau a mathau o
wasanaethau, y mathau o gam-drin honedig a brofwyd, y mesurau a gymerwyd i fynd
i'r afael â honiadau profedig ac i leihau risgiau i unigolion eraill yn ogystal
ag i'r Cyngor ei hun.
Dogfennau ategol: