Eitem ar yr agenda
AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU
Ymgynghoriad
cyhoeddus ar "Sut i gynnal gwasanaethau tân ac achub rhagorol a
fforddiadwy yng Ngogledd Cymru yn 2016-2017 a thu hwnt (copi ynghlwm)
9.45 a.m. – 10.20 a.m.
Cofnodion:
Roedd y Dirprwy
Brif Swyddog Tân, Dawn Docx a'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Ruth Simmons yn
bresennol i gyflwyno'r ddogfen ymgynghori "Eich Gwasanaethau, Eich
Dewisiadau".
Amlinellodd
swyddogion y Gwasanaeth Tân ac Achub lwyddiant eu dull atal rhagweithiol yn
ystod y blynyddoedd diwethaf o ran lleihau nifer y galwadau allan ar gyfer y
Gwasanaeth o 50%. Fodd bynnag,
roedd lleihad mewn cyllid cyhoeddus yn y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod
angen i'r Gwasanaeth gwtogi ar nifer o wasanaethau anstatudol roedd yn ei
ddarparu h.y. roedd wedi gostwng y nifer o Archwiliadau Diogelwch Tân yn y
Cartref (HFSC) a wnaeth yn flynyddol o 30,000 y flwyddyn i 20,000 y flwyddyn,
tynnu gwasanaethau achub â llinell (a wneir yn awr gan y Gwasanaethau Achub
Mynydd) ac achub anifeiliaid mawr. Roedd hefyd wedi symleiddio ei strwythur rheoli gweithredol a oedd bellach
yn gweithredu gyda 28 rheolwr canol gweithredol ar draws Gogledd Cymru, dyma
oedd y nifer lleiaf yr oedd yn cael ei weithredu. Mae'r
polisi sy’n ymwneud â throi allan i Larymau Tân Awtomatig (AFAS) fel mater o
drefn wedi cael ei ddiwygio fel rhan o'r mesurau arbed costau. Mae'r
Gwasanaeth yn awr yn troi allan i AFAS mewn adeiladau busnes yn ystod y dydd,
oni bai fod galwad frys yn dilyn y larwm. Ers cyflwyno'r polisi hwn nid oedd y
Gwasanaeth wedi mynychu 640 o 685 o alwadau AFA a ddaeth i law. Roedd hyn wedi dod ag arbediad o tua £70K.
Fel rhan o broses pennu cyllideb y
llynedd, roedd yr Awdurdod wedi cynnig cynnydd o £1 y pen o'r boblogaeth yng
Ngogledd Cymru wrth bennu'r cyfraniad gan bob awdurdod lleol. Ar ddiwedd y broses honno, roedd y cynnydd
a godwyd yn cyfateb i 18c y pen o'r boblogaeth.
Yn ei ddogfen
ymgynghorol, roedd yr Awdurdod Tân ac Achub yn cynnig pedwar amcan ar gyfer
2016/17 a thu hwnt:
Amcan 1: I
barhau â'i waith atal i gadw pobl yn ddiogel rhag tân yn eu
cartrefi - byddai hyn yn cael ei ariannu gan grantiau Lywodraeth Cymru (LlC)
sydd ar gael yn benodol ar gyfer y math hwn o waith
Amcan 2: gweithio'n galed
i wneud y gyllideb fynd ymhellach fel na fyddai'n rhaid gofyn i gynghorau sir
am unrhyw gyfraniadau uwch - byddai hyn yn golygu y byddai'r Awdurdod yn rhewi
ei gyllideb am y 3 blynedd nesaf. Tra'n gwneud hyn, byddai'n gweithio ar y cyd â gwasanaethau cyhoeddus yn yr
ardal gyda'r bwriad o ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i wireddu’r manteision
gorau posibl i bawb dan sylw.
Amcan 3: Yn parhau i
amddiffyn pob cymuned trwy well cynllunio h.y. cyfateb systemau criwio ac
argaeledd criwiau er mwyn darparu’r taeniad gorau posibl o wasanaethau ar gyfer
yr ardal gyfan
Amcan 4: ymchwilio i'r
posibilrwydd o wneud mwy o bethau ar gyfer cymunedau h.y. cyd-ymateb gyda'r
Gwasanaeth Ambiwlans a chefnogi mentrau diogelwch personol a gweithio gyda
gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Chwaraewyd fideo
byr i'r aelodau i ddangos sut y gellid defnyddio data gyda'r bwriad o wella
cynllunio gwasanaethau a darpariaeth ar gyfer y dyfodol. Byddai darpar fodelau gwasanaeth posibl yn
cael eu datblygu gan ddefnyddio fformiwla wedi’i hen sefydlu a ddefnyddir gan
nifer o Awdurdodau Tân ac Achub gwledig a chan ystyried Mynegai Amddifadedd
Lluosog Cymru (MALlC). Amlygodd defnyddio’r fformiwla hon fod yna ardaloedd ar draws Gogledd Cymru
a fyddai angen sicrwydd o wasanaeth tân ac achub ar adegau penodol o'r dydd.
Gan ymateb i
gwestiynau’r aelodau, dywedodd y swyddogion Awdurdod Tân ac Achub:
·
roedd yn ofynnol i'r Gwasanaeth
yn ôl y gyfraith i ymateb i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd;
·
Nid yw achub o ddŵr
yn ofyniad statudol ar hyn o bryd, serch hynny oherwydd nifer y digwyddiadau
llifogydd yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf mae'r Awdurdod wedi penderfynu
parhau gyda darparu'r gwasanaeth hwn;
·
Roedd recriwtio diffoddwyr
tân rhan amser wedi bod yn anodd dros ben, yn enwedig mewn rhai ardaloedd. Roedd hon yn broblem gyffredin ymysg gwasanaethau tân ac achub yng nghefn
gwlad.
Ar gyfartaledd roedd trosiant blynyddol o 10% o Staff
Dyletswydd Rhan Amser (RDS) yng Ngogledd Cymru. Roedd
hon yn gyfradd trosiant llawer uwch nag ar gyfer Diffoddwyr Tân Amser Llawn
(WTF).
Roedd amryw o resymau dros hyn, hy yr amrywiaeth o
sgiliau y mae angen eu meistroli, gofynion ymrwymiad amser a phroblemau wrth
gyfuno ymrwymiadau diffodd tân â dyletswyddau proffesiynol a theuluol;
·
Roedd profion mynediad a
ffitrwydd ar gyfer diffoddwyr tân WTF ac RDS yn union yr un fath;
·
tra bo nifer y diffoddwyr
tân yn yr ardal wedi gostwng, nid oedd unrhyw WTFs wedi cael eu diswyddo fel
rhan o'r broses effeithlonrwydd, serch hynny, roedd staff yn awr yn gweithio yn
fwy hyblyg;
·
Roedd ymagwedd staffio
newydd mwy peripatetig wedi cael ei mabwysiadu er mwyn sicrhau bod gan y
Gwasanaeth ddigon o ddarpariaeth ar gyfer yr ardal gyfan bob amser;
·
Roedd y Gwasanaeth wedi ymateb
i’r holl alwadau brys a dderbyniwyd;
Aeth Swyddogion yr Awdurdod Tân ac Achub ati i:
·
Amlinellu’r broses a
ddilynwyd i olrhain cerbydau i ddigwyddiadau ac mae'r gwaith sy'n mynd rhagddo
ar sail Cymru-gyfan i ddylunio peiriannau tân oddi ar y ffordd addas a allai
gario symiau digonol o ddŵr;
·
cadarnhau oherwydd y
costau sy'n gysylltiedig â hyfforddi diffoddwyr tân RDS, byddai’r Awdurdod,
wrth eu recriwtio, yn sefydlu a fyddai unigolion sydd â diddordeb ar gael i'r
Awdurdod pan fyddai’r Gwasanaeth eu hangen;
·
Hysbysu’r aelodau o'r gofynion
ymrwymiad amser a phellter o orsafoedd tân ar gyfer staff RDS;
·
hysbysu am y niferoedd
criwio optimwm a diogel i beiriannau tân;
·
Cadarnhau y byddai 7
gorsaf dân, yn gweithredu amrywiaeth o systemau dyletswydd, erbyn canol mis
Rhagfyr 2015 yn dechrau cynllun peilot cyd-ymateb 6 mis gyda'r Gwasanaeth
Ambiwlans.
Roedd hyn yn rhan o gynllun peilot ledled y DU a fyddai'n
cael ei defnyddio i hysbysu darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol;
·
Ddweud bod trafodaethau a
gwaith cwmpasu ar y gweill gyda Heddlu Gogledd Cymru ar gyfleoedd cydweithio
'gwasanaethau golau glas' posibl eraill. Mae'r Gwasanaeth
Tân ac Achub a'r Heddlu yng Ngogledd Cymru wedi meddiannu Canolfan Reoli ar y
cyd am rai blynyddoedd, ac felly roedd cyfleoedd i weithio gyda'i gilydd er
lles y trigolion.
Pwysleisiodd
Cadeirydd yr Awdurdod Tân ac Achub yr angen i bob cynghorydd sir weithredu fel
'llygaid a chlustiau' ar gyfer eu cymunedau a thynnu sylw’r Gwasanaeth Tân ac
Achub am unrhyw unigolion o fewn eu wardiau a chymunedau a allai fod mewn
perygl o niwed gan dân neu beryglon eraill, gan y byddai hyn yn galluogi'r
Gwasanaeth i ymgymryd â gwaith rhagweithiol gyda golwg ar gadw’r unigolion hynny
yn ddiogel. Tynnwyd
sylw aelodau a swyddogion awdurdodau lleol at eitemau fel pecynnau gwely
gwrthdan a oedd ar gael oddi wrth y Gwasanaeth gyda'r bwriad o gadw ysmygwyr a
oedd yn gaeth i'w gwelyau yn ddiogel rhag tân. Ymgymerodd swyddogion i
dynnu'r rhain ac adnoddau eraill sydd ar gael gan y Gwasanaeth Tân ac Achub i
sylw'r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad (SPOA).
Ymgymerodd
swyddogion i ddefnyddio tudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor ar gyfer y
diben o dynnu sylw trigolion i’r ymarferiad ymgynghori a gofyn iddynt anfon eu
sylwadau i'r Awdurdod erbyn 11 Rhagfyr 2015. Aethant hefyd ati i ddosbarthu'r
‘Ystadegau Digwyddiadau Swyddfa’ a ddarperir i'r Pwyllgor i aelodau'r Pwyllgor.
Ar ddiwedd y
drafodaeth:
PENDERFYNWYD cefnogi'r
amcanion a nodir yn y ddogfen ymgynghori 'Eich Gwasanaethau, Eich Dewisiadau' i
gynnal gwasanaethau, tân ac achub fforddiadwy rhagorol yng Ngogledd Cymru yn
2016-17 a thu hwnt gan bwysleisio'r angen i sicrhau cyflenwad diogel digonol ar
gyfer ardaloedd gwledig yn ogystal ag ardaloedd trefol.
Dogfennau ategol: