Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 25/2015/0636/PFWF - TIR I'R DWYRAIN O LYN BRENIG, NANTGLYN

Ystyried cais i adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt ynghyd â newidyddion, traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad mesuryddion, dau dŵr anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer adeiladu a gweithredu (cynllun diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan gyfeirnod caniatâd cynllunio 25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brennig, Nantglyn (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol gan ei fod wedi mynychu cyfarfodydd Grŵp ‘Pylon the Pressure’.]

Cafodd cais ei gyflwyno i adeiladu a gweithredu fferm wynt sy'n cynnwys un ar bymtheg o dyrbinau gwynt ynghyd â newidyddion, traciau mynediad, offer switsio ar y safle ac adeilad mesuryddion, dau dŵr anemometreg a'r seilwaith cysylltiedig ar gyfer adeiladu a gweithredu (cynllun diwygiedig a weithredwyd yn rhannol dan gyfeirnod caniatâd cynllunio 25/2007/0565) ar dir i’r dwyrain o Lyn Brenig, Nantglyn.

 

Mrs. D. Jones (Yn erbyn) - siaradodd dros drigolion lleol a chyfeiriodd at hanes cynllunio blaenorol a gwrthwynebiadau yn seiliedig ar dirwedd, effaith weledol a lles.

 

Mr. J. Woodruff (o blaid) - cadarnhaodd fod y cynllun wedi dechrau dan ganiatâd blaenorol a defnyddiwyd contractwyr lleol.  Dadleuodd y byddai effaith y cynnig i gynyddu uchder brig y tyrbin o 100 i 110 medr yn anweladwy ond byddai'n arwain at ddetholiad ehangach o dyrbinau i ddewis ohonynt.

 

Trafodaeth Gyffredinol – roedd y Swyddog Cynllunio (IW) yn crynhoi yr adroddiad gan dynnu sylw at faint o wybodaeth a sylwadau a dderbyniwyd.  Roedd yn darparu rhywfaint o gyd-destun i'r cais gan amlinellu'r caniatâd cynllunio ar gyfer un ar bymtheg o dyrbinau gydag uchder blaen llafn o 100 metr.  Roedd y cynnig ar gyfer tyrbinau 110 metr o uchder yn yr un lleoliad o fewn yr Ardal Chwilio Strategol (SSA) a chyfeiriwyd at faint a lleoliad y tyrbinau eraill yn yr ardal.  Roedd y Cyngor wedi gofyn am gyngor technegol annibynnol ar y dirwedd a sŵn nad oedd yn rhoi unrhyw sail dros wrthod ym marn y swyddogion.

 

Siaradodd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) yn erbyn y cais gan bwysleisio'r angen i ddiogelu cymunedau lleol yn yr ardal.  Cyfeiriodd at y cyfoeth o wrthwynebiad a theimlad y cyhoedd yn erbyn y datblygiad, gan amlygu bod y cynigion gwreiddiol wedi eu diwygio i leihau uchder blaen llafn o 115 i 100 metr er mwyn cyd-fynd â'r amgylchedd ac o bwys arbennig yn yr achos hwn.  Ymhelaethodd ar y dirwedd arwyddocaol ac effaith weledol y gwahaniaeth uchder ynghyd â phryderon ynglŷn â sŵn a hydroleg.  Mynegodd y Cynghorydd Stuart Davies bryderon difrifol ynghylch yr effaith sŵn a fyddai yn ei farn yn sylweddol ac roedd hefyd yn cwestiynu'r angen am dyrbinau mwy pan oedd llai o ddefnydd gweithredol o’r tyrbinau wedi’i gynnig er mwyn rheoli sŵn. 

 

Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd gan ddweud -

 

·         roedd angen ystyried a fyddai effaith y cynnydd arfaethedig yn uchder y tyrbin yn annerbyniol o ystyried y caniatâd cynllunio presennol a chan gymryd i ystyriaeth cyd-destun tyrbinau presennol eraill a rhai a ganiatawyd o fewn yr ardal ynghyd â'r cyngor technegol ar dirwedd a sŵn

·         o ran pryderon hydroleg, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried manylion y cais ac wedi codi unrhyw wrthwynebiadau, fodd bynnag, byddai'n bosibl gosod amodau ar y caniatâd os yw hynny'n briodol er mwyn rheoli effeithiau

·         roedd effaith y sŵn yn ystyriaeth ddifrifol ac roedd ymgynghorydd sŵn annibynnol wedi cynnal adolygiad manwl a ddaeth i'r casgliad nad oedd sŵn yn fater hollbwysig cyn belled â bod amodau er mwyn cwrdd â safonau sŵn - derbyniwyd bod ffermydd gwynt yn cynhyrchu sŵn ond y mater oedd a fyddai gweithredu’r fferm wynt yn fwy na'r terfynau rhesymol

·         darparwyd mwy o ddewis o dyrbin yn yr ystod uchder o 110 metr mewn cyferbyniad â 100 metr.

 

Trafododd yr Aelodau y cais a’r ystyriaethau cynllunio ymhellach a mynegwyd pryderon difrifol dros effeithiau ychwanegol y cynnig ar wahân i'r rhai a grëwyd gan y caniatâd presennol.  Teimlai nifer o aelodau nad oeddent yn gallu cefnogi'r cais o ystyried yr effaith niweidiol pellach ar y gymuned o ganlyniad.  Yn ogystal â phryderon amwynder gweledol nid oedd rhai aelodau wedi eu sicrhau y byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at lefelau sŵn derbyniol a chodwyd pryderon pellach ynglŷn ag effaith y datblygiad arfaethedig ar iechyd a lles.  Mewn ymateb i drafodaeth gofynnodd swyddogion i aelodau ystyried mai'r prif wahaniaeth i'r caniatâd cynllunio presennol oedd cynnydd yn y dimensiynau tyrbin sy'n cynnwys cynnydd o uchder blaen llafn o 10 metr.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi categoreiddio’r ardal yn briodol ar gyfer datblygiadau tyrbinau graddfa fawr ac roedd caniatâd eisoes wedi'i roi ar gyfer tyrbinau hyd yn oed mwy o faint yn agos atynt.  Roedd yn debygol y byddai angen i wrthodiad gael ei amddiffyn mewn ymchwiliad cyhoeddus.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Joe Welch bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail effaith cynyddol ac arwyddocaol ar amwynder gweledol.  Yng ngoleuni'r pryderon pellach a godwyd yn ystod trafodaeth cynigiodd welliant i gynnwys effaith ar iechyd a sŵn.  Eiliodd y Cynghorydd Stuart Davies y cynnig.

 

PLEIDLAIS:

CANIATÁU - 3

GWRTHOD - 16

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod caniatâd yn cael ei WRTHOD, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail effaith cynyddol a sylweddol ar amwynder gweledol, sŵn ac iechyd.

 

 

Dogfennau ategol: